Rhowch wybod am achosion posib o gwympo coed yn anghyfreithlon
Mae’n drosedd torri rhai coed i lawr heb drwydded.
Os oes unrhyw un yn bwriadu torri coed i lawr, mae’n rhaid sicrhau bod ganddynt y drwydded gywir ar gyfer cwympo coed cyn dechrau ar unrhyw waith.
Gwiriwch a oes angen trwydded cwympo coed arnoch.
Rhowch wybod am achosion posib o gwympo coed yn anghyfreithlon
neu ffoniwch ni ar 0300 065 3000 (24 awr y dydd), i roi gwybod am achos posib o gwympo coed yn anghyfreithlon.
Croesewir galwadau yn Gymraeg neu Saesneg.
Calls welcomed in Welsh or English.
Beth sydd ei angen oddi wrthoch chi
Mae angen i chi ateb y cwestiynau canlynol:
- ydych chi’n gwybod pryd dechreuodd y gwaith cwympo coed ac a yw’n dal i ddigwydd
- os yw’r cwympo coed wedi dod i ben, allwch chi ddisgrifio beth oedd yn digwydd
Mae angen i ni hefyd wybod union leoliad y digwyddiad. Gallwch naill ai roi gwybod i ni am:
- enw’r eiddo
- enw’r safle
- y cyfeirnod grid
- y cod post
Cysylltu â chi i gael rhagor o wybodaeth
Efallai y bydd angen i ni gysylltu â chi i gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad.
Rydym yn deall bod rhai sefyllfaoedd yn sensitif. Efallai yr hoffech aros yn ddienw a rhoi gwybodaeth sylfaenol i ni yn unig.
Os byddech yn fodlon i ni gysylltu â chi i gael rhagor o wybodaeth, rhowch wybod i ni. Gallwn hefyd roi gwybod i chi am ganlyniadau ein hymchwiliadau.
Byddwn yn parchu pa bynnag benderfyniad a wnewch. Ein prif nod yw annog adrodd am ddigwyddiadau.
Cosbau am gwympo coed heb drwydded
Mae’n drosedd torri rhai coed i lawr heb drwydded. Mae hefyd yn drosedd gwerthu pren sydd wedi’i dorri i lawr yn anghyfreithlon.
Os cewch eich collfarnu am dorri coed yn anghyfreithlon, gallwn roi dirwy ddiderfyn.