Trwyddedau Adar
Gwybodaeth am y coronafirws
Ni ddylid gwneud unrhyw waith arolygu a gynlluniwyd gennych fel rhan o gais am drwydded rhywogaeth oni bai fod hynny'n gwbl angenrheidiol yn dilyn y canllawiau diweddaraf a gafwyd gan y llywodraeth ar gyfer ymbellhau cymdeithasol.
- Os na allwch weithio o’ch cartref dylech ddarllen y canllawiau diweddaraf a ddarparwyd gan fusnesau amgylcheddol megis Ymddiriedolaeth Adara Prydain (BTO), RSPB neu Sefydliad Siartredig Ecoleg a Rheolaeth Amgylcheddol (CIEEM).
- Gan na fydd efallai’n bosibl diweddaru eich arolygon y tymor hwn, eleni byddwn yn ymestyn hyn ac yn derbyn arolygon o'r tair blynedd diwethaf.
- Dylech gwblhau eich arolwg cyn gynted ag y cewch gyfle a phan fo’n briodol unwaith y bydd y cyfyngiadau wedi eu codi.
Os oes gennych gwestiynau pellach gallwch gysylltu â’n tîm rhywogaethau drwy e-bost trwyddedrhywogaeth@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth gweler ein prif dudalen ar y coronafirws.
Caiff yr holl adar gwyllt, eu nythod a'u hwyau gwarchodaeth o dan Adran 1 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd). Mae'n drosedd i wneud y canlynol, yn fwriadol neu’n ddi-hid:
- Lladd, niweidio neu gymryd unrhyw aderyn gwyllt;
- Cymryd, difrodi neu ddifa nyth unrhyw aderyn gwyllt tra bod y nyth honno dal mewn defnydd neu'n cael ei hadeiladu. Gwarchodir nythod yr eryr euraid, yr eryr môr a gwalch y pysgod drwy gydol y flwyddyn;
- Cymryd neu ddifa wy aderyn gwyllt;
- Meddu ar unrhyw aderyn gwyllt byw neu farw neu wy unrhyw aderyn gwyllt, neu unrhyw ran o aderyn byw neu farw.
Rhoddir gwarchodaeth ychwanegol i'r adar prin a restrir yn y Ddeddf lle mae'n drosedd i wneud y canlynol, yn fwriadol neu'n ddi-hid:
- Aflonyddu ar aderyn sydd wedi'i restru yn Atodlen 1 wrth iddo adeiladu ei nyth, neu pan y bydd yr aderyn ar neu yn y nyth neu'n agos at nyth sy'n cynnwys wyau neu adar bach; neu
- Aflonyddu ar aderyn ifanc sy’n ddibynnol ar aderyn sydd wedi'i restru yn Atodlen 1
Ceir nifer o eithriadau i'r troseddau a greuwyd gan y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad, gan gynnwys gweithredu o dan drwydded.
Trwyddedu
Gallwn roi trwyddedau ar gyfer dibenion penodol, er mwyn i chi ymgymryd â'r weithred berthnasol heb dorri'r gyfraith. Rydym yn argymell y dylech wirio a yw'ch sefyllfa wedi'i chwmpasu gan drwydded gyffredinol cyn gwneud eich cais. Os nad yw trwydded gyffredinol yn addas, ystyriwch ddiben eich gweithgareddau trwyddedu o'r opsiynau hyn, a chwblhewch y ffurflen gais berthnasol.
Wrth wneud cais i reoli adar gwyllt mae’n rhaid ichi ddarparu tystiolaeth fanwl o’r broblem sy’n codi, neu sy’n debygol o godi, sy’n golygu fod angen gweithredu. Os oes modd, dylid darparu tystiolaeth ar ffurf ffotograffau a fideo. Os na fedrwch chi ddarparu tystiolaeth o’r fath bydd arnoch angen rhoi rheswm pam.
- Dibenion gwyddonol, ymchwil neu addysgol
- Gosod modrwyon neu farciau, neu archwilio modrwyon neu farciau. Ceir dau opsiwn naill ai:
- Fel rhan o gynllun cofnodi nythod Ymddiriedolaeth Adareg Prydain. Mae Ymddiriedolaeth Adareg Prydain yn gweinyddu’r ceisiadau hyn.
- Ar gyfer unrhyw brosiectau modrwyon neu farciau eraill
- Gwarchod adar gwyllt
- Ailboblogi ardal neu ailgyflwyno adar gwyllt i ardal gan gynnwys unrhyw fridio angenrheidiol - cysylltwch â'r tîm trwyddedu rhywogaethau am gyngor
- Gwarchod fflora a ffawna
- Gwarchod unrhyw gasgliad o adar gwyllt
- Heboga a magu adar – cysylltwch â'r tîm trwyddedu rhywogaethau am gyngor
- Arddangosfa neu gystadleuaeth gyhoeddus – cysylltwch â'r tîm trwyddedu rhywogaethau am gyngor ar unrhyw sefyllfa na chwmpesir gan drwydded gyffredinol
- Tacsidermi
- Cyfeiriwch at y ddogfen, Meddu ar a gwerthu rhywogaethau a warchodir
- Cysylltwch â'r tîm trwyddedu rhywogaethau am gyngor ar unrhyw sefyllfa na chwmpesir
- Ffotograffiaeth - (amharu ar nyth neu'r ardal gyfagos)
- Diogelu Iechyd y cyhoedd, diogelwch y cyhoedd, diogelwch yn yr awyr
- Atal clefyd rhag lledaenu
- Atal difrod difrifol i dda byw, bwydydd i dda byw, cnydau, llysiau, ffrwythau, tyfu coed, pysgodfeydd neu ddyfroedd mewndirol - oni bai eich bod yn ceisio rheoli adar sy'n bwyta pysgod.
Pysgodfeydd ac adar sy'n bwyta pysgod
I wneud cais am drwydded i reoli adar sy'n bwyta pysgod, i atal difrod difrifol i bysgodfeydd, mae angen i chi gwblhau ffurflen gais ar gyfer adar sy'n bwyta pysgod
Cyn gwneud eich cais, bydd angen i chi gasglu data ar amlder ysglyfaethu pysgod a nifer yr adar sydd ynghlwm.
Ar gyfer dyfroedd llonydd bach (o dan 20 hectar) casglwch ddata ategol gan ddefnyddio'r Cofnod Arsylwi Adar ar gyfer Dyfroedd Llonydd Bach. Bydd angen casglu’r data rhwng mis Tachwedd a mis Chwefror bob blwyddyn a rhaid cynnwys deg neu fwy o ymweliadau safle wedi'u dyddio o leiaf d ridiau ar wahân.
Ar gyfer afonydd a dyfroedd llonydd mawr (dros 20 hectar), casglwch ddata ategol gan ddefnyddio'r Cofnod Arsylwi Adar ar gyfer Afonydd a Dyfroedd Llonydd Mawr.
Canllawiau
Rydym wedi cyhoeddi canllawiau i'ch helpu gyda'r testunau canlynol:
Ffurflenni adrodd diwedd trwydded
Amod unrhyw drwydded a roddir yw bod rhaid cwblhau ffurflen adrodd diwedd trwydded o fewn pedair wythnos i'r drwydded ddod i ben.
Rheoli Adar - Ffurflen Adrodd Diwedd Trwydded – ffurflen adrodd ar gyfer trwyddedau i reoli adar gwyllt at ddibenion gwarchod adar gwyllt, gwarchod fflora a ffawna, gwarchod unrhyw gasgliad o adar gwyllt, diogelu iechyd/diogelwch y cyhoedd neu ddiogelwch yn yr awyr, atal clefyd rhag lledaenu neu atal difrod difrifol i dda byw, porthiant da byw, cnydau, llysiau, ffrwythau, tyfu coed, pysgodfeydd neu ddyfroedd mewndirol.
Adar sy'n bwyta pysgod – Ffurflen Adrodd Diwedd Trwydded – ffurflen adroddiad ar gyfer trwyddedau i reoli adar sy'n bwyta pysgod.
Adar: Ffurflen Adroddiad – ffurflen adroddiad ar gyfer trwyddedau a roddir ar gyfer dibenion gwyddonol, ymchwil neu addysgol, neu ar gyfer modrwyo neu farcio adar gwyllt neu at ddiben ffotograffiaeth.
Ymddiriedolaeth Adareg Prydain Cynllun Cofnodi Nythod – cyflwyno eich cofnodion i Ymddiriedolaeth Adareg Prydain.
Adolygiad o'n dull o saethu a dal adar gwyllt
Rydym yn adolygu ein dull o ymdrin â’r caniatadau yr ydym yn eu rhoi ar gyfer saethu a dal adar gwyllt yng Nghymru. Mae'r adolygiad hwn yn cynnwys trwyddedau cyffredinol a phenodol.
Cyngor pellach
Am fwy o wybodaeth neu gyngor, cysylltwch â ni trwy e-bost, neu trwy ffonio 0300 065 3000.