Mae yna chwe rhywogaeth o amffibiaid brodorol yng Nghymru. Mae angen dŵr ffres ar bob rhywogaeth o amffibiaid i ddodwy eu hwyau neu silio a digon o gynefin addas gerllaw i dreulio gweddill y flwyddyn.

Nid yw’r dudalen hon yn rhoi sylw i bob agwedd ar y gyfraith nac ecoleg amffibiaid, ond mae’n gyflwyniad i sut y gallwch chi helpu i warchod y rhywogaeth.

Deddfwriaeth y DU

Caiff y rhywogaethau mwyaf cyffredin eu gwarchod rhag cael eu gwerthu o dan Atodlen 5 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd). Dyma nhw:

  • Broga / Llyffant melyn, Rana temporaria
  • Llyffant dafadennog, Bufo bufo
  • Madfall ddŵr balfog, Triturus helveticus
  • Madfall ddŵr gyffredin, Triturus vulgaris

Mae’r ddeddfwriaeth hon yn eu gwarchod rhag cael eu gwerthu, neu eu hysbysebu / eu cynnig i’w gwerthu. Gwneir hyn er mwyn eu gwarchod rhag cael eu hecsbloetio yn y fasnach anifeiliaid anwes neu i’w defnyddio mewn labordai.

Gall Cyfoeth Naturiol Cymru roi trwyddedau at ddibenion penodol o dan y ddeddfwriaeth hon, yn cynnwys dibenion gwyddonol, ymchwil, addysgol, cadwraeth a ffotograffiaeth, ond nid ar gyfer datblygu.

Deddfwriaeth Ewropeaidd

Mae ein dwy rywogaeth brinnaf o amffibiaid yn cael eu gwarchod o dan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (a elwir yn ‘Rheoliadau Cynefinoedd’) oherwydd bod eu niferoedd wedi bod yn disgyn ledled Ewrop dros y degawdau diwethaf. Mae’r Rheoliadau Cynefinoedd yn rhestru’r amffibiaid canlynol fel rhywogaethau a warchodir gan Ewrop:

  • Madfall ddŵr gribog, Triturus cristatus
  • Madfall y twyni, Bufo calamita

Mae’r Rheoliadau Cynefinoedd yn datgan bod y canlynol yn drosedd:

  • Dal, anafu neu ladd yn fwriadol unrhyw anifail gwyllt sy’n rhan o rywogaeth a warchodir gan Ewrop
  • Tarfu’n fwriadol ar unrhyw anifeiliaid gwyllt o’r cyfryw rywogaethau
  • Cymryd neu ddifa’n fwriadol wyau anifail o’r fath, neu
  • Ddifa neu ddinistrio safle bridio neu fan gorffwys anifail o’r fath

Mae tarfu’n cael ei ddiffinio fel rhywbeth sy’n debygol:

  • o amharu ar eu gallu –
    • i oroesi, bridio neu atgenhedlu, neu i fagu neu feithrin eu rhai bach, neu
    • yn achos anifeiliaid rhywogaeth sy’n gaeafgysgu neu sy’n mudo, yn amharu ar eu gallu i wneud hynny
  • o effeithio’n sylweddol ar ddosbarthiad neu niferoedd y rhywogaeth y maen nhw’n perthyn iddo yn lleol

Mae yna droseddau eraill yn ymwneud â meddu ar rywogaethau a warchodir, eu cludo, eu gwerthu neu eu cyfnewid.

Gweler Ymlusgiaid ac amffibiaid a warchodir gan y gyfraith yng Nghymru am grynodeb o sut mae amffibiaid yn cael eu gwarchod gan y gyfraith.

Trwyddedu

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi trwyddedau o dan Reoliad 55 y Rheoliadau Cynefinoedd er mwyn caniatáu gweithgareddau sy’n ymwneud â rhywogaethau a warchodir gan Ewrop, a fyddai’n droseddau fel arall. Rydym yn eu rhoi at ddibenion penodol a restrir yn y Rheoliadau, os ydych chi’n bodloni’r tri phrawf canlynol:

  • diben y gwaith yw diogelu iechyd y cyhoedd neu ddiogelwch y cyhoedd neu unrhyw reswm hanfodol arall sydd o fudd cyhoeddus tra phwysig yn cynnwys rhesymau cymdeithasol neu economaidd eu natur a chanlyniadau buddiol sy’n bwysig iawn i’r amgylchedd
  • does yna ddim dewis arall boddhaol
  • ni fydd y weithred a awdurdodir yn cael effaith niweidiol ar y gwaith o gynnal poblogaeth y rhywogaeth dan sylw ar statws cadwraethol ffafriol yn eu hystod naturiol

Mae dibenion trwyddedu eraill yn cynnwys y canlynol:

  • Dibenion gwyddonol ac addysgol
  • Gosod modrwy neu nod
  • Gwarchod anifeiliaid gwyllt neu blanhigion gwyllt
  • Gwarchod unrhyw gasgliad sŵolegol neu fotanegol
  • Atal clefyd rhag lledaenu
  • Atal difrod difrifol

Pwy all wneud cais am drwydded

Dysgwch pwy sy’n gallu gwneud cais ar gyfer trwydded rhywogaethau gwarchodedig

Gwneud cais am drwydded rhywogaethau a warchodir

Os nad oes modd i chi osgoi tarfu ar rhywogaethau a warchodir, neu ddifrodi eu safleoedd bridio a’u mannau gorffwys, gallwch wneud cais am drwydded am ystod o wahanol weithgareddau:

Trwydded madfallod dŵr cribog

Mae madfallod dŵr cribog, gan gynnwys eu safleoedd bridio a'u mannau gorffwys, wedi’u diogelu gan y gyfraith.

Mae yn erbyn y gyfraith:

  • dal, anafu neu ladd madfallod dŵr cribog
  • difrodi neu ddinistrio man bridio neu orffwys
  • rhwystro mynediad i'w mannau gorffwys neu gysgodi
  • meddu ar, cludo, gwerthu neu gyfnewid madfallod dŵr cribog byw neu farw
  • cymryd wyau madfallod dŵr cribog

Mae’n bosibl y byddech yn gallu cael trwydded gennym ni at ddibenion penodol os mae’r gwaith yr ydych chi’n dymuno ei gwblhau’n debygol o gyflawni trosedd.

Gwneud cais am drwydded madfallod dŵr cribog

Cysylltu â ni

Gallwch gysylltu â ni am gymorth ar unrhyw adeg cyn neu yn ystod eich cais ar gyfer trwydded.

Diweddarwyd ddiwethaf