Mae rhai rhywogaethau o bysgod yng Nghymru’n cael eu gwarchod gan eu bod yn brin neu’n agored i gael eu niweidio gan rai gweithgareddau. Mae un ymwelydd prin, y Stwrsiwn, yn rhywogaeth a warchodir gan Ewrop gan fod ei niferoedd wedi gostwng ledled Ewrop.

Deddfwriaeth y DU

Mae rhywogaethau pysgod sydd wedi’u gwarchod o dan Atodlen 5 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) wedi’u rhestru ar y dudalen ‘Pysgod’. Mae’r ddeddfwriaeth yn eu diogelu am bellter o hyd at 12 morfilltir o arfordir Cymru.

Gweler Pysgod a warchodir gan y gyfraith yng Nghymru am fanylion y gwahanol lefelau o warchodaeth. Mae troseddau a nodir yn Adran 9 yn cynnwys cyfuniadau o’r canlynol:

  • Dal, anafu neu gymryd yn fwriadol
  • Difa neu ddinistrio unrhyw fan cysgodi neu lochesu
  • Tarfu ar bysgod wrth iddyn nhw ddefnyddio man cysgodi neu lochesu
  • Rhwystro mynediad at fan cysgodi neu lochesu
  • Gwerthu, cynnig neu roi i werthu

Mae yna adran unigryw i’r Heulgi yn y Ddeddf sy’n nodi y bydd unrhyw berson sy’n tarfu’n fwriadol neu’n ddi-hid ar heulgi yn cyflawni trosedd.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi trwyddedau o dan Reoliad 16 y Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 fel y gallwch chi weithio o fewn y gyfraith. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Dibenion gwyddonol ac addysgol
  • Gosod modrwy neu nod
  • Cadwraeth
  • Ffotograffiaeth

Deddfwriaeth Ewropeaidd

Mae’r Stwrsiwn yn cael ei warchod o dan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, a elwir yn ‘Rheoliadau Cynefinoedd’, oherwydd bod ei niferoedd wedi bod yn disgyn ledled Ewrop dros y degawdau diwethaf.

Mae’r Rheoliadau Cynefinoedd yn datgan bod y canlynol yn drosedd:

  • Dal, anafu neu ladd yn fwriadol unrhyw anifail gwyllt sy’n rhan o rywogaeth a warchodir gan Ewrop
  • Tarfu’n fwriadol ar unrhyw anifeiliaid gwyllt o’r cyfryw rywogaethau
  • Cymryd neu ddifa’n fwriadol wyau anifail o’r fath, neu
  • Ddifa neu ddinistrio safle bridio neu fan gorffwys anifail o’r fath

Mae tarfu’n cael ei ddiffinio fel rhywbeth sy’n debygol:

  • o amharu ar eu gallu –
    • i oroesi, bridio neu atgenhedlu, neu i fagu neu feithrin eu rhai bach, neu
    • yn achos anifeiliaid rhywogaeth sy’n gaeafgysgu neu sy’n mudo, yn amharu ar eu gallu i wneud hynny
  • o effeithio’n sylweddol ar ddosbarthiad neu niferoedd y rhywogaeth y maen nhw’n perthyn iddo yn lleol

Mae yna droseddau eraill yn ymwneud â meddu ar rywogaethau a warchodir, eu cludo, eu gwerthu neu eu cyfnewid.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi trwyddedau o dan Reoliad 55 Rheoliadau Cynefinoedd er mwyn i chi allu gweithio o fewn y gyfraith. Rydym yn eu rhoi at ddibenion penodol a restrir yn y Rheoliadau, os ydych chi'n bodloni'r tri phrawf canlynol:

  • mae diben y gwaith yn cyd-fynd ag un o'r dibenion sydd wedi'u rhestru yn y Rheoliadau Cynefinoedd (gweler isod);
  • does yna ddim dewis arall boddhaol;
  • ni fydd y weithred a awdurdodir yn cael effaith niweidiol ar y gwaith o gynnal poblogaeth y rhywogaeth dan sylw ar statws cadwraethol ffafriol yn eu hystod naturiol

Dibenion trwyddedu

O dan y Rheoliadau Cynefinoedd, gellir rhoi trwyddedau ar gyfer cyfres benodol o ddibenion yn cynnwys:

  • diogelu iechyd y cyhoedd neu ddiogelwch y cyhoedd neu unrhyw reswm hanfodol arall sydd o fudd cyhoeddus tra phwysig yn cynnwys rhesymau cymdeithasol neu economaidd eu natur a chanlyniadau buddiol sy’n bwysig iawn i’r amgylchedd,
  • dibenion gwyddonol ac addysgol,
  • gosod modrwy neu nod
  • gwarchod anifeiliaid gwyllt

Gweler Trwyddedu Rhywogaethau Morol a Warchodir gan Ewrop

Pwy all wneud cais am drwydded

Dysgwch pwy sy’n gallu gwneud cais ar gyfer trwydded rhywogaethau gwarchodedig

Gwneud cais am drwydded rhywogaethau a warchodir

Os nad oes modd i chi osgoi tarfu ar rhywogaethau a warchodir, neu ddifrodi eu safleoedd bridio a’u mannau gorffwys, gallwch wneud cais am drwydded am ystod o wahanol weithgareddau:

Cysylltu â ni

Gallwch gysylltu â ni am gymorth ar unrhyw adeg cyn neu yn ystod eich cais ar gyfer trwydded.

Diweddarwyd ddiwethaf