Trwydded Gyffredinol 008
Rhif trwydded: GEN / WCA / 008 / 2025
Yn ddilys o: 1 Ionawr 2025
Dod i ben: 31 Rhagfyr 2025
Trwydded i gymryd wyau hwyaden wyllt (Anas platyrhynchos) i fagu a rhyddhau.
Mae drwydded hon, a roddwyd o dan Adran 16 (1) (c), 16(5)(a) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd), gan y Corff Adnoddau Naturiol Cymru elwir fel arall yn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn fodlon bod o ran y diben a nodir ym mharagraff 2 nad oes ateb boddhaol arall, trwyddedir personau awdurdodedig i gyflawni amrywiaeth o weithgareddau yn erbyn adar o'r rhywogaeth rhestredig a drwy hyn yn awdurdodi y drwydded a ganlyn sy'n gymwys yn unig yng Nghymru.
1. Diben y drwydded hon yw caniatáu cymryd wyau Hwyaden Wyllt i'w deor cyn 31 Mawrth, i helpu i fagu adar yn llwyddiannus na fyddent fel arall yn debyg o wrthsefyll tywydd gwael.
2. Yn ddarostyngedig i'r telerau a'r amodau isod, mae'r drwydded hon yn caniatáu:
i unrhyw berson awdurdodedig (gweler y diffiniadau) gymryd wyau hwyaden wyllt (Anas platyrhynchost), ac i unrhyw berson o'r fath gael yn ei feddiant wy o'r fath ac unrhyw aderyn sydd wedi deor o unrhyw wŷ o'r fath.
Mae'r gwaith a nodwyd uchod wedi eu drwyddedu ar gyfer y cyfnod a nodir uchod, ac yn cael eu ganiatáu yn amodol ar gydymffurfio â'r amodau fel a nodwyd. Gall unrhyw beth a wnaed heb fod yn unol â thelerau'r drwydded fod yn drosedd.
Iwan G. Hughes, Arweinydd Tîm Trwyddedu Rhywogaethau
Llofnodwyd ar gyfer ac ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru.
Amodau
1. Dim ond â llaw y caniateir cymryd wyau.
2. Rhaid peidio â chymryd unrhyw wy ar ôl 31 Mawrth mewn unrhyw flwyddyn.
3. Rhaid rhyddhau unrhyw aderyn byw sy'n deor o wy a gymerir o dan y drwydded hon, onibai ei fod yn anabl neu wedi marw, i'r gwyllt heb fod yn hwyrach na 31 Gorffennaf yn y flwyddyn y cymerwyd yr wy.
4. Rhaid i unrhyw wŷ sydd heb ddeor gael ei ddinistrio erbyn 31 Gorffennaf fan bellaf.
5. Ni chaniateir gwerthu naill ai'r wyau, nac unrhyw adar sy'n deor o wyau, a gymerir o dan ddarpariaethau'r drwydded hon.
6. Ni chaniateir i unrhyw berson a gollfarnwyd o dramgwydd y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo ddefnyddio’r drwydded hon oni bai, mewn perthynas â’r tramgwydd hwnnw, naill ai iddo (1) gael ei ryddhau gyda rhybudd, neu (2) ei fod yn berson wedi’i adsefydlu at ddibenion Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974 ac yr ystyrir bod y gollfarn wedi’i disbyddu. Caniateir i berson ddefnyddio’r drwydded hon hefyd os, mewn perthynas â thramgwydd o’r fath, y bydd Llys wedi gwneud gorchymyn yn ei ryddhau’n gyfan gwbl. Mae'r paragraff hwn yn berthnasol i droseddau o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, Deddf Ceirw 1991, Deddf (Gwarchod) Mamolion Gwylltion 1996, Deddf Hela 2004, Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaeth 2017, Deddf Gwarchod Moch Daear 1992 a Deddf Lles Anifeiliaid 2006 (i gyd fel y'u diwygiwyd).
7. Bydd methu â gweithredu yn unol â diben y drwydded fel y’i nodir ym mharagraff 1, neu methu â chydymffurfio â thelerau ac amodau’r drwydded hon, yn golygu na ellir dibynnu ar y drwydded ac o’r herwydd gallai tramgwydd gael ei gyflawni. Y gosb uchaf sydd ar gael ar gyfer tramgwydd o dan y Ddeddf yw dirwy lefel 5 (£5,000) a/neu ddedfryd o chwe mis yn y carchar.
Nodiadau
1. Cyhoeddwyd trwydded mewn termau tebyg gan Natural England, mewn perthynas â Lloegr a chan weithrediaeth Yr Alban mewn perthynas â’r Alban.
2. Gall y drwydded hon gael ei newid neu ei dirymu ar unrhyw bryd.
Diffiniadau
1. Mae “unigolyn a awdurdodwyd” yn golygu:
(a) perchennog neu ddeiliad y tir, neu unigolyn sydd wedi cael ei awdurdodi gan berchennog neu ddeiliad y tir lle cynhelir y weithred a awdurdodir;
(b) unrhyw unigolyn sydd wedi cael ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan awdurdod lleol yr ardal lle cynhelir y weithred a awdurdodir;
(c) o ran unrhyw beth a wneir mewn perthynas ag adar gwyllt, unrhyw unigolyn sydd wedi cael ei awdurdodi'n ysgrifenedig gan:
i. Weinidogion Cymru, mewn perthynas â phethau a wneir at ddibenion sy'n gysylltiedig â physgota neu bysgodfeydd yn rhanbarth glannau Cymru (o fewn ystyr Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009);
ii. unrhyw un o'r cyrff canlynol: unrhyw un o gyrff cadwraeth Prydain, bwrdd ar gyfer ardal bysgota o fewn ystyr Deddf Pysgodfeydd Eogiaid (yr Alban) 1862 neu un o awdurdodau pysgodfeydd a chadwraeth y glannau.
(d) unrhyw unigolyn sydd wedi cael ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan Gyfoeth Naturiol Cymru neu ymgymerwr dŵr neu garthffosiaeth.
Nid yw’r awdurdod a roddir i unigolyn at ddibenion y diffiniad hwn yn rhoi’r hawl iddo fynd ar dir.