Gwneud cais am drwydded adar
Gwyddoniaeth, ymchwil, addysg, arolygon neu ffotograffiaeth
Gallwch wneud cais am drwydded at y dibenion canlynol:
- gwyddoniaeth, addysg, ymchwil, arolygon, ffotograffiaeth
- modrwyo neu nodi neu archwilio unrhyw fodrwy neu nod (adar nad ydynt yn Atodlen 1)
Rhaid i’ch cais gynnwys dau eirda gan arbenigwyr sy’n gyfarwydd â’ch gwaith. Lawrlwythwch y templed geirda.
Modrwyo, nodi neu gofnodi nyth adar Atodlen 1
Os oes angen trwydded arnoch i gofnodi nyth, modrwyo neu nodi adar gwyllt Atodlen 1, rhaid i chi wneud cais i Ymddiriedolaeth Adareg Prydain
Rheoli adar
Gallwch wneud cais am drwydded i reoli adar er mwyn gwneud y canlynol:
- gwarchod iechyd y cyhoedd a diogelwch y cyhoedd
- atal clefydau rhag lledaenu
- atal difrod difrifol i dda byw, porthiant ar gyfer da byw, cnydau, llysiau, ffrwythau a choed sy’n tyfu
- gwarchod adar gwyllt
- gwarchod fflora a ffawna
- gwarchod unrhyw gasgliad o adar gwyllt
Lawrlwythwch y ffurflen gais am drwydded i reoli adar
Gwarchod diogelwch yr aer
Lawrlwythwch y ffurflen gais am drwydded i reoli adar er mwyn gwarchod diogelwch yr aer
Pysgodfeydd ac adar sy’n bwyta pysgod
I wneud cais am drwydded i reoli adar sy’n bwyta pysgod, i atal difrod difrifol i bysgodfeydd, mae angen i chi gwblhau ein ffurflen gais am drwydded ar gyfer adar sy’n bwyta pysgod.
Cyn gwneud eich cais, bydd angen i chi gasglu data ar amlder ysglyfaethu pysgod a nifer yr adar sydd ynghlwm.
Ar gyfer dyfroedd llonydd bach (o dan 20 hectar), casglwch y data ategol gan ddefnyddio’r cofnod arsylwi adar ar gyfer dyfroedd llonydd bach. Bydd angen casglu’r data rhwng mis Tachwedd a mis Chwefror bob blwyddyn a rhaid cynnwys 10 neu ragor o ymweliadau safle wedi’u dyddio o leiaf dridiau ar wahân.
Ar gyfer afonydd a dyfroedd llonydd mawr (dros 20 hectar), casglwch y data ategol gan ddefnyddio’r cofnod arsylwi adar ar gyfer afonydd a dyfroedd llonydd mawr.
Heboga a magu adar
Lawrlwythwch y ffurflen gais am drwydded i ladd adar gwyllt ar gyfer heboga.
Arddangos yn gyhoeddus neu gystadlu
Gwiriwch y trwyddedau cyffredinol.
Tacsidermi
Mae mwy o wybodaeth yma am ba fath o drwydded tacsidermi y gallai fod ei hangen arnoch.
Taliadau
Mae mwy o wybodaeth yma am ein tâl am gais am drwydded adar.
Amserlenni
Mae mwy o wybodaeth yma am yr amser y mae’n ei gymryd i ni brosesu ceisiadau am drwyddedau adar.