CML2279 ADEILADU GOLLYNGFA AR AFON DYFRDWY MEWN CYSYLLTIAD Â CHYFLEUSTER CYNHYRCHU’R FELIN BAPUR (Hysbysiad o benderfyniad rheoleiddiol)

HYSBYSIAD CYHOEDDUS

DEDDF Y MÔR A MYNEDIAD I'R ARFORDIR 2009

RHEOLIADAU GWAITH MOROL (ASESU EFFEITHIAU AMGYLCHEDDOL) 2007

HYSBYSIAD O BENDERFYNIAD RHEOLEIDDIOL

ADEILADU GOLLYNGFA AR AFON DYFRDWY MEWN CYSYLLTIAD Â CHYFLEUSTER CYNHYRCHU’R FELIN BAPUR

Hysbysir trwy hyn fod Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi ymgymryd â phenderfyniad rheoleiddiol dan Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 fel y’u diwygiwyd (y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol) o ran y prosiect uchod.

Yn unol â Rheoliad 10 y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol, mae CNC wedi penderfynu rhoi cymeradwyaeth reoleiddiol ar gyfer y prosiect yn amodol ar osod amodau.

Mae copi ysgrifenedig o’r penderfyniad rheoleiddio ar gael i’r cyhoedd ar gofrestr gyhoeddus CNC https://publicregister.naturalresources.wales/. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio’r cyfeirnod cais CML2279.

Gallwch hefyd gael copïau o'r penderfyniad rheoleiddiol drwy ebostio permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Os gofynnir am gopïau caled, efallai bydd yn rhaid talu costau copïo nad ydynt yn fwy na chostau copïo rhesymol. 

Mae CNC yn awdurdod priodol dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol ac mae wedi derbyn swyddogaethau dirprwyedig fel yr awdurdod trwyddedu priodol gan Weinidogion Cymru at ddibenion Rhan 4 Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009.

Diweddarwyd ddiwethaf