Bryn Power Cyfyngedig - Cyfleuster Treuliwr Anaerobig Fferm Gelliargwellt, Fferm Gelliargwellt, Gelligaer, Hengoed, CF82 8FY
Hysbysebu penderfyniad drafft ar gyfer cais am amrywiad sylweddol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016
Rhif y cais: PAN-025512
Math o gyfleuster rheoledig: Gosod - Adran 5.4, Rhan A (1)(b) (i) Adfer neu gymysgedd o adfer a gwaredu gwastraff amheryglus sy'n fwy na 75 tunnell y dydd (neu 100 tunnell y dydd os treulio anaerobig yw'r unig weithgaredd trin gwastraff) sy'n cynnwys un neu fwy o'r gweithgareddau canlynol: Triniaeth Fiolegol
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Cyfleuster Treuliwr Anaerobig Fferm Gelliargwellt, Fferm Gelliargwellt, Gelligaer, Hengoed, CF82 8FY
Rydym yn bwriadu rhoi’r drwydded. Byddwn yn rhoi trwydded yn unig os credwn na fydd llygredd sylweddol yn cael ei achosi ac os oes gan y gweithredwr y gallu i fodloni amodau’r drwydded. Bydd unrhyw drwydded y byddwn yn ei rhoi yn cynnwys amodau priodol i ddiogelu iechyd dynol a’r amgylchedd.
Gwybodaeth a osodwyd ar y gofrestr gyhoeddus ar gyfer ymgynghori:
- Trwydded ddrafft
- Dogfen penderfyniad drafft
Gallwch weld y drwydded ddrafft a’r ddogfen penderfyniad drafft yn rhad ac am ddim, ar ein cofrestr gyhoeddus ar-lein. Neu gallwch wneud cais am gopi o’r wybodaeth gennym ni. Gallai hyn gymryd amser i’w brosesu a gall y byddwn yn codi ffi arnoch.
Os oes gennych unrhyw sylwadau, anfonwch y rhain erbyn 24 Awst 2026.
E-bost: permittingconsultations@naturalresourceswales.gov.uk
Neu ysgrifennwch at:
Arweinydd Tîm Rheoleiddio Sylweddau Ymbelydrol a Gweithfeydd
Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ