Bryn Power Limited - Cyfleuster Treulio Anaerobig Fferm Gelliargwellt, Fferm Gelliargwellt, Gelligaer, Hengoed, CF82 8FY
Rydym wedi derbyn cais am drwydded gan Bryn Power Limited
Amrywiad sylweddol i drwydded amgylcheddol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016
Rhif y cais: PAN-025512
Math o gyfleuster rheoledig: Gweithfa - S5.4 Rhan A(1)(b)(i) Adfer neu gyfuniad o adfer a gwaredu gwastraff amheryglus gyda chapasiti o fwy na 75 tunnell y dydd (neu 100 tunnell y dydd os yw’r unig weithgaredd trin gwastraff yn un treulio anaerobig) sy’n ymwneud ag un neu fwy o’r gweithgareddau canlynol: Triniaeth Fiolegol
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Cyfleuster Treulio Anaerobig Fferm Gelliargwellt, Fferm Gelliargwellt, Gelligaer, Hengoed, CF82 8FY
Mae Bryn Power Limited wedi gwneud cais i amrywio eu trwydded (rhif trwydded EPR/AB3092ZE) i osod eitemau ychwanegol o offer a chynyddu’r gyfradd brosesu gwastraff i 45,000 tunnell y fwyddyn.
Mae’r cais yn cynnwys disgrifiad o sut y bydd y newidiadau arfaethedig yn effeithio ar y weithfa; y deunyddiau, y sylweddau a’r egni y bydd yn ei ddefnyddio a’i gynhyrchu; amodau ei safle; ffynhonnell, natur ac ansawdd ei allyriadau rhagweladwy a’u heffeithiau posibl, y technegau arfaethedig ar gyfer rhwystro, lleihau a monitro ei allyriadau a rhwystro ac adfer gwastraff; ac amlinelliad o’r prif ddulliau amgen o weithredu a ystyriwyd, os oes rhai o gwbl.
Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein Cofrestr gyhoeddus - Porth y Cwsmer Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.
Os oes gennych unrhyw sylwadau anfonwch y rhain erbyn 11/12/2025
Ebost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Neu ysgrifennwch at:
Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Adeilad y Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Rhaid i ni benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod y cais. Os ydym yn ei ganiatáu, mae’n rhaid i ni benderfynu pa amodau i’w cynnwys yn y drwydded. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn ein Datganiad Cyfranogiad Cyhoeddus.