Farmpoint Limited - Amrywio trwydded lawn i dynnu dŵr
Deddf Adnoddau Dŵr 1991 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003)
Hysbysir trwy hyn, yn unol ag Adran 37 Deddf Adnoddau Dŵr 1991 a Rheoliad 6 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Tynnu a Chronni Dŵr) 2006 i gais gael ei wneud i Cyfoeth Naturiol Cymru gan Farmpoint Limited i amrywio trwydded lawn i dynnu dŵr, rhif cyfres WA-055-0008-0003, sy’n awdurdodi tynnu dŵr o haenau tanddaearol yng Nghyfeirnod Grid Cenedlaethol SO 26150 61520. Gofynnwyd am yr amrywiad er mwyn cael gwared o amod 9.2 sy’n cyfyngu ar dynnu dŵr pan fydd y llif yn afon Llugwy yr un faint â, neu’n llai na 105,000 metr ciwbig y dydd.
Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.
Os ydych am ofyn am gopi neu dymunwch wneud sylwadau ynghylch y cais, rhaid ichi wneud hynny yn ysgrifenedig, gan ddyfynnu enw’r ymgeisydd a’r Cyfeirnod PAN-028006 wrth:
Cyfoeth Naturiol Cymru,
Gwasanaeth Trwyddedu,
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Rhodfa’r Brenin Edward VII,
Caerdydd,
CF10 3NQ
neu drwy ebost i permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn 16/06/2025 fan bellaf.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, gweler adran ymgynghoriadau ein gwefan http://naturalresources.wales/?lang=cy neu ffoniwch ein Canolfan Gofal Cwsmeriaid 0300 0653000 (Dydd Llun-Gwener, 9-5).