Deddf Adnoddau Dŵr 1991 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003)

Hysbysir trwy hyn, yn unol ag Adran 37 Deddf Adnoddau Dŵr 1991 a Rheoliad 6 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Tynnu a Chronni Dŵr) 2006 i gais gael ei wneud i Cyfoeth Naturiol Cymru gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf am drwydded lawn i dynnu dŵr o’r Afon Taf yng Nghyfeirnod Grid Cenedlaethol SN 08422 88918 ger Heol Caerdydd, Trefforest, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf. Y cynnig yw tynnu dŵr yn ôl y cyfraddau a’r cyfnodau canlynol i’w defnyddio i gynhyrchu pŵer trydan dŵr: 54,000 metr ciwbig yr awr, 1,296,000 metr ciwbig y dydd a 473,040,000 metr ciwbig y flwyddyn, drwy’r flwyddyn.

Gwneir cais hefyd am drwydded i rwystro neu atal llif Afon Taf yng Nghyfeirnod Grid Cenedlaethol SN 08422 88918 yn y lleoliad  uchod. Mae’r croniad yn cynnwys addasiadau i gored bresennol i reoli’r gwaith o dynnu dŵr.

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.

Os ydych am ofyn am gopi neu dymunwch wneud sylwadau ynghylch y cais, rhaid ichi wneud hynny yn ysgrifenedig, gan ddyfynnu enw’r ymgeisydd a’r Cyfeirnod  PAN-028369 & PAN-028370 wrth

Cyfoeth Naturiol Cymru,
Gwasanaeth Trwyddedu,
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru ,
Parc Cathays,
Rhodfa’r Brenin Edward VII,
Caerdydd,
CF10 3NQ

neu drwy ebost i permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn 23/06/2025 fan bellaf.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, gweler adran ymgynghoriadau ein gwefan http://naturalresources.wales/?lang=cy neu ffoniwch ein Canolfan Gofal Cwsmeriaid 0300 065 3000 (Dydd Llun-Gwener, 9-5).

Diweddarwyd ddiwethaf