Paratoi datganiad dull ar gyfer cais am drwydded forol band 1
Bydd angen i chi ddarparu datganiad dull os yw eich gwaith arfaethedig yn unrhyw un o’r canlynol:
- tyllau turio neu vibrocores
 - pentyrrau amnewid
 - rheoli traethau
 - o fewn ardal sensitif
 
Edrychwch i weld a yw eich gwaith o fewn ardal sensitif
Dod o hyd i leoliadau safleoedd sensitive ledled Cymru. Os bydd eich gwaith yn digwydd o fewn ardal sydd wedi’i lliwio yna bydd rhaid i chi ysgrifennu datganiad dull.
Cliciwch ar y lleoliad i weld manylion unrhyw rywogaethau neu gynefinoedd penodol y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt wrth ysgrifennu eich datganiad. 
Ymgynghori â sefydliadau yn gynnar
Cyn i chi ysgrifennu eich datganiad dull, ymgynghorwch â sefydliadau perthnasol. Gallwch drafod unrhyw faterion a datrysiadau posibl cyn i chi ddechrau gweithio ar eich cais.
Beth i'w gynnwys mewn datganiad dull
Your method statement should include:
- disgrifiad o'r gweithgaredd
 - y camau y byddwch yn eu cymryd i'w gwblhau
 - am ba hyd y bydd y gweithgaredd yn para
 - manylion unrhyw lwybrau cerbydau neu gychod y byddwch yn eu defnyddio i gael mynediad i’r safle
 - manylion unrhyw ddeunydd y byddwch yn ei dynnu
 - manylion unrhyw ddeunydd y byddwch yn ei ddyddodi
 - mesurau y byddwch yn eu cymryd i leihau’r risg i’r amgylchedd morol
 - mesurau y byddwch yn eu cymryd i atal ymyrraeth ormodol i eraill
 - mesurau y byddwch yn eu cymryd i gynnal diogelwch mordwyo, gan gynnwys sut y byddwch yn marcio ac yn goleuo'r gwaith
 
Pentyrrau amnewid a thyllau turio neu vibrocores
Rhaid i ddatganiadau dull ar gyfer y gweithgareddau hyn hefyd gynnwys:
- diamedr y pentwr
 - nifer y tyllau turio neu vibrocores
 - lefelau sŵn a ragwelir yn y ffynhonnell
 - yr union leoliad arfaethedig, os yw'n hysbys
 
Mae hyn yn ein galluogi i asesu effaith y gwaith o ran sŵn ar y cyd â gwaith posibl arall gerllaw.
Rheoli traethau
Rhaid i ddatganiad dull ynghylch rheoli traeth hefyd nodi:
- cyfaint/tunelledd y deunydd y disgwyliwch ei symud
 - y lleoliadau lle byddwch yn symud deunydd iddynt ac oddi wrthynt