Trwyddedu morol yng Nghymru
Efallai y bydd angen trwydded forol arnoch os ydych chi’n bwriadu cynnal gwaith yn yr ardal drwyddedadwy forol.
Mae trwyddedu morol yn amddiffyn yr amgylchedd a defnyddwyr môr eraill wrth ganiatáu gwaith datblygu.
Pwy all wneud cais
Gall trwyddedau morol fod ar gyfer:
- unigolion
- sefydliadau
- cyrff cyhoeddus, fel cynghorau lleol
Chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod gennych y caniatâd cywir cyn i chi ddechrau ar y gwaith.
Gweithgareddau a allai fod angen trwydded ar eu cyfer
Efallai y bydd angen trwydded forol arnoch ar gyfer gweithgareddau yn yr ardal drwyddedadwy forol.
Gall hyn gynnwys y canlynol:
- gwaith adeiladu
- carthu
- dyddodi deunyddiau
- tynnu deunyddiau
- gosod ceblau neu biblinellau
Dysgwch fwy am weithgareddau sydd angen trwydded forol.
Gweithgareddau nad oes angen trwydded ar eu cyfer
Nid oes angen trwydded forol ar gyfer rhai gweithgareddau y byddai fel arfer angen un ar eu cyfer os ydynt yn bodloni gofynion penodol.
Dysgwch fwy am weithgareddau sydd wedi’u heithrio rhag trwyddedu morol.
Y gwahanol fathau o drwyddedau
Mae tri math o drwydded forol:
- Band 1
- Band 2
- Band 3
Bydd angen i chi wneud cais am ba bynnag fand sy’n addas ar gyfer eich gweithgaredd.
Taliadau
Rhaid i chi dalu ffi pan fyddwch chi’n gwneud cais am drwydded forol.
Mae’r swm rydych chi’n ei dalu yn dibynnu ar y band.
Mae band 1 a band 2 yn daliadau cyfradd sefydlog.
Codir tâl fesul awr am geisiadau band 3.
Camau trwyddedu morol
1. Gwiriwch a oes angen trwydded arnoch a pha drwydded sydd ei hangen arnoch
Cadarnhewch a oes angen trwydded ar gyfer eich gweithgaredd a pha fand sy’n berthnasol.
2. Paratowch eich cais
Ceisiwch gyngor cyn ymgeisio gennym ni neu gan sefydliadau eraill, paratowch unrhyw ddogfennau ategol, a chwblhewch y cais.
3. Cyflwynwch a thalwch am eich cais
Yna bydd eich cais yn cael ei wirio i wneud yn siŵr ei fod yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom i ddechrau ein hasesiad. Enw hyn yw ‘wedi’i wneud yn briodol’.
4. Ymgynghori ac asesu
Efallai y byddwn yn ymgynghori â sefydliadau eraill a’r cyhoedd i’n helpu i asesu unrhyw effeithiau o ganlyniad i’ch prosiect. Efallai y byddwn hefyd yn cysylltu â chi am ragor o wybodaeth.
5. Penderfyniad
Byddwn yn rhoi neu’n gwrthod trwydded.
Gwiriadau cais
Ar gyfer rhai ceisiadau band 2 a 3, efallai y byddwn yn cynnal gwiriad cyn-asesu o’r enw ‘gwiriad addasrwydd’.
Dyma adolygiad cynnar o’ch dull arfaethedig. Mae’n helpu i nodi bylchau cyn i ni asesu eich cais yn ffurfiol.
Gall hyn leihau oedi wrth asesu yn ddiweddarach.
Mae gwiriad addasrwydd yn debygol ar gyfer prosiectau lle mae’r canlynol yn berthnasol:
- mae angen asesiad o’r effaith amgylcheddol
- maent yn ddatblygiadau seilwaith mawr (band 3)
- maent yn defnyddio technolegau neu ddulliau newydd (band 2 neu 3)
- maent yn cynnwys dyframaeth
- gallent effeithio ar ddefnyddwyr môr eraill
- maent mewn ardaloedd sensitif
Byddwn yn ymgynghori â nifer fach o sefydliadau allweddol i wirio’r canlynol:
- yr wybodaeth rydych chi’n ei darparu
- data ac arolygon
- dulliau asesu
Mae gwiriad addasrwydd fel arfer yn cymryd rhwng pedair ac wyth wythnos. Dylech ystyried hyn yn amseriadau eich cais.
Os oes angen gwiriad addasrwydd, byddwn yn cysylltu â chi i egluro beth sydd ei angen a beth sy’n digwydd nesaf.
Mewn rhai achosion, yn dilyn gwiriad addasrwydd, efallai y byddwn yn dychwelyd y cais. Gallen ni ofyn i chi wneud cais eto os nad yw’n cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom i’w asesu.
Amseroedd asesu band 1 a 2
Mae pa mor hir y mae’n ei gymryd i asesu eich cais yn dibynnu ar ba drwydded band sydd ei hangen arnoch a pha mor gymhleth yw’r gweithgaredd.
Band 1: Chwe wythnos
Band 2: 18 wythnos
Mae’r amserlenni hyn yn dechrau o’r adeg y byddwn yn cadarnhau bod eich cais wedi’i gwblhau ac yn barod i’w asesu. Efallai na fydd yn dechrau o’r dyddiad y byddwch yn ei gyflwyno.
Amseroedd asesu band 3
Gall ceisiadau band 3 fod yn wahanol iawn o ran pa mor gymhleth ydynt. Mae pa mor hir y mae’n ei gymryd i asesu cais yn dibynnu ar fath a maint y prosiect.
Mae’r tabl isod yn dangos yr amseroedd penderfynu byrraf, hiraf a chyfartalog ar gyfer gwahanol fathau o brosiectau band 3.
| Math o brosiect band 3 | Yr amser byrraf a gymerir | Yr amser hiraf a gymerir | Yr amser cyfartalog a gymerir |
| Cynlluniau amddiffyn arfordirol | 4 mis | 1 flwyddyn 6 mis | 10 mis |
| Ehangu porthladdoedd | 1 flwyddyn | 2 flwyddyn 1 mis | 1 flwyddyn 6 mis |
| Ynni adnewyddadwy ar y môr | 1 flwyddyn 1 mis | 1 flwyddyn 5 mis | 1 flwyddyn 3 mis |
| Prosiectau eraill sydd angen asesiad o’r effaith amgylcheddol | 11 mis | 1 flwyddyn 3 mis | 1 flwyddyn 1 mis |
| Prosiectau eraill nad oes angen asesiad o’r effaith amgylcheddol arnynt | 1 mis | 9 mis | 4 mis |
Os byddwn angen mwy o wybodaeth gennych chi, bydd eich cais yn cael ei ohirio, a fydd yn cynyddu’r amser a gymerir i gyrraedd penderfyniad.
Os cewch drwydded
Bydd eich trwydded forol yn cynnwys y canlynol:
- disgrifiad o’r gwaith y caniateir i chi ei wneud
- unrhyw amodau y mae’n rhaid i chi eu dilyn
- cadarnhad o pryd mae’r drwydded yn dechrau ac yn gorffen
Mae hyd trwydded yn dibynnu ar y gweithgaredd a’i faint. Ni all trwyddedau band 1 fod yn hirach na blwyddyn.
Os bydd eich gwaith arfaethedig yn newid, efallai y bydd angen i chi wneud cais i amrywio'ch trwydded. Ni allwch amrywio trwydded band 1.
Caniatadau eraill y gellir fod eu hangen arnoch
Efallai y bydd angen trwyddedau, caniatadau neu gydsyniadau eraill arnoch cyn i chi ddechrau gweithio. Nid yw trwydded forol yn disodli’r rhain.
Caniatadau eraill gennym ni
Efallai y bydd angen:
- trwydded gweithgaredd perygl llifogydd os ydych chi am wneud gwaith yn, dros, o dan neu ger prif afon, gwastadedd llifogydd neu amddiffynfa rhag llifogydd
- caniatâd ar gyfer gwaith sy’n effeithio ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
- trwydded Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop os gallai eich gweithgaredd effeithio ar rywogaethau gwarchodedig
Caniatadau gan sefydliadau eraill
Efallai y bydd angen i chi hefyd gael y canlynol:
- caniatâd cynllunio gan eich awdurdod cynllunio lleol
- caniatâd gan dirfeddiannwr, fel Ystad y Goron
Nid yw hon yn rhestr gyflawn. Chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod gennych yr holl ganiatadau sydd eu hangen arnoch gennym ni a sefydliadau eraill cyn i chi ddechrau unrhyw waith.