Sut i baratoi cais am drwydded forol band 3

Gwnewch gais am drwydded forol band 3 os yw eich gwaith yn bodloni unrhyw un o’r meini prawf canlynol:

  • bydd yn costio o leiaf £1 miliwn
  • mae angen asesiad o'r effaith amgylcheddol
  • mae’n cynnwys adeiladu a charthu
  • mae’n cynnwys suddo
  • mae’n cynnwys defnyddio ffrwydron

Beth i’w gynnwys

Rhaid i bob cais band 3 gynnwys y canlynol:

Dysgwch sut i gynhyrchu asesiad risg bioddiogelwch [Word, 212.1 KB].

Cyfrinachedd y gofrestr gyhoeddus

Rydym yn cyhoeddi ceisiadau am drwyddedau morol ar ein cofrestr gyhoeddus.

Os ydych chi eisiau i unrhyw ran o’ch cais fod yn gyfrinachol, rhaid i chi esbonio pam. 

Byddwn yn penderfynu a oes rheswm dilys dros gadw’r wybodaeth yn gyfrinachol.

Ceisiadau sydd angen asesiad o’r effaith amgylcheddol

Rhaid i geisiadau band 3 sydd angen asesiad o’r effaith amgylcheddol gynnwys y canlynol:

Gwaith sy’n cynnwys carthu a gwaredu

Rhaid i bob cais am garthu a gwaredu gynnwys:

Gwaith sy’n cynnwys dyframaethu

Rhaid i bob cais am ddyframaeth gynnwys y canlynol:

Dysgwch sut i gynhyrchu asesiad risg bioddiogelwch [Word, 212.1 KB].

Gwaith sy’n cynnwys agregau neu fwynau

Rhaid i bob cais am agregau morol (mwynau) gynnwys:

  • asesiad o’r effaith arfordirol

Gwaith sy’n effeithio ar draethlin

Os yw’r gwaith yn newid neu’n cynnal safle presennol y draethlin, rhaid i chi wneud y canlynol:

Lawrlwytho ffurflen gais

Lawrlwythwch y ffurflen i wneud cais am drwydded forol carthu a gwaredu band 3 [Word, 219.3 KB].

Lawrlwythwch y ffurflen i wneud cais am drwydded gwaith morol band 3 [Word, 210.7 KB].

Lawrlwythwch y ffurflen i wneud cais am drwydded agregau morol (mwynau) band 3 [Word, 1.3 MB].

Pa mor hir mae’n ei gymryd

Cyflwynwch eich cais band 3 cyn gynted â phosibl, gan na allwn roi amserlen ar gyfer penderfyniad.

Bydd trwydded forol yn ei gwneud yn ofynnol i chi gyflawni nifer o dasgau cyn y cewch ddechrau gweithio.

Gall y tasgau hyn gynnwys:

  • hysbysu pobl neu sefydliadau perthnasol
  • cyflwyno dogfennau ychwanegol i ni eu cymeradwyo

Os oes angen mwy o gyngor arnoch

Dylech gael cyngor gennym ni os oes angen help arnoch i baratoi eich cais.

Gwneud cais am drwydded band 3

Diweddarwyd ddiwethaf