Sut i baratoi cais am drwydded forol band 2
Gwnewch gais am drwydded forol band 2 os yw’r canlynol yn berthnasol i’ch gwaith:
- nid yw wedi’i gynnwys ar restr gweithgareddau band 1
- bydd cyfanswm y gost yn llai na £1 miliwn
- nid yw’n cynnwys gweithgareddau adeiladu a charthu
Beth i’w gynnwys
Rhaid i bob cais band 2 gynnwys y canlynol:
- ffurflen gais wedi’i chwblhau
- datganiad dull
- asesiad Cyfarwyddeb Framwaith Dŵr
- dogfen gyfeirio Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru [Excel, 25.2 KB, Saesneg yn unig], yn dangos sut mae’r prosiect yn cyd-fynd â pholisïau morol
- cynlluniau adeiladu a lluniadau adrannol
- map sy'n dangos ffin yr ardal gyfan y byddwch chi'n gweithio ynddi (rydym yn galw hyn yn ardal y drwydded)
Cyfrinachedd y gofrestr gyhoeddus
Rydym yn cyhoeddi ceisiadau am drwyddedau morol ar ein cofrestr gyhoeddus.
Os ydych chi eisiau i unrhyw ran o’ch cais fod yn gyfrinachol, rhaid i chi esbonio pam.
Byddwn yn penderfynu a oes rheswm dilys dros gadw’r wybodaeth yn gyfrinachol.
Gwaith sy’n cynnwys carthu a gwaredu
Rhaid i bob cais am garthu a gwaredu gynnwys y canlynol:
- canlyniadau samplu a dadansoddi gwaddod [Excel, 521.6 KB]
- asesiad risg bioddiogelwch [Word, 210.9 KB]
Dysgwch sut i gynhyrchu asesiad risg bioddiogelwch [Word, 212.1 KB].
Gwaith sy’n cynnwys dyframaethu
Rhaid i bob cais am ddyframaeth gynnwys y canlynol:
- asesiad risg bioddiogelwch [Word, 210.9 KB]
- asesiad risg mordwyo
- cynllun ymglymiad mamaliaid morol
Dysgwch sut i gynhyrchu asesiad risg bioddiogelwch [Word, 212.1 KB].
Gwaith sy’n effeithio ar draethlin
Os yw’r gwaith yn newid neu’n cynnal safle presennol y draethlin, rhaid i chi wneud y canlynol:
- nodi pa uned polisi o’r cynllun rheoli traethlin sy’n berthnasol
- ystyried asesiad gwasgfa arfordirol
Lawrlwytho ffurflen gais
Lawrlwythwch y ffurflen i wneud cais am drwydded forol carthu a gwaredu band 2 [Word, 219.3 KB].
Lawrlwythwch y ffurflen i wneud cais am drwydded gwaith morol band 2 [Word, 210.7 KB].
Pa mor hir mae’n ei gymryd
Fel arfer, byddwch yn derbyn penderfyniad o fewn 18 wythnos.
Mae’r cyfnod o 18 wythnos yn dechrau o’r adeg y byddwn yn cadarnhau bod eich cais wedi’i gwblhau. Efallai na fydd yn dechrau ar y diwrnod y byddwch yn ei gyflwyno.
Bydd trwydded forol yn ei gwneud yn ofynnol i chi gyflawni nifer o dasgau cyn y cewch ddechrau gweithio.
Gall y tasgau hyn gynnwys:
- hysbysu pobl neu sefydliadau perthnasol
- cyflwyno dogfennau ychwanegol i ni eu cymeradwyo
Os oes angen mwy o gyngor arnoch
Gallwch gael cyngor gennym ni os oes angen help arnoch i baratoi eich cais.