Sut i baratoi cais am drwydded forol band 1

Gwnewch gais am drwydded forol Band 1 os yw’r canlynol yn berthnasol i’ch gwaith:

  • mae wedi’i gynnwys ar restr gweithgareddau band 1
  • bydd yn cymryd llai na 12 mis
  • bydd cyfanswm y gost yn llai na £1 miliwn
  • ni fydd mewn ardal a ddefnyddir ar gyfer amddiffyn milwrol neu’n cynnal ceblau na phiblinellau

Sut i wneud cais

Cyn gwneud cais am drwydded forol, mae angen i chi baratoi gwybodaeth a dogfennau.

Defnyddiwch y ffurflen ar-lein i wneud cais pan fyddwch wedi paratoi popeth.

Pa wybodaeth sydd ei hangen

Bydd angen i chi wybod y canlynol:

  • teitl eich prosiect
  • crynodeb o’r hyn rydych chi eisiau ei wneud
  • manylion yr ymgeisydd ac unrhyw asiant
  • dyddiad cychwyn y gwaith
  • lleoliad y prosiect gan ddefnyddio hydred a lledred mewn graddau degol i bum lle degol
  • pa ddeunyddiau y byddwch chi’n eu dyddodi neu’n eu tynnu
  • a fyddwch chi’n defnyddio unrhyw longau neu gerbydau
  • cyfeirnod ar gyfer unrhyw gyngor cyn ymgeisio y gwnaethom ei roi i chi
  • a oes gennych unrhyw bwerau statudol i roi cydsyniad i agweddau ar y gwaith ai peidio, ac o dan ba ddeddfwriaeth

Cyfrinachedd y gofrestr gyhoeddus

Rydym yn cyhoeddi ceisiadau am drwyddedau morol ar ein cofrestr gyhoeddus.

Os ydych chi eisiau i unrhyw ran o’ch cais fod yn gyfrinachol, rhaid i chi esbonio pam. 

Byddwn yn penderfynu a oes rheswm dilys dros gadw’r wybodaeth yn gyfrinachol.

Pa ddogfennau i’w paratoi

Rhaid i bob cais band 1 gynnwys y canlynol:

Gwaith mewn harbyrau

Os yw eich gwaith yn digwydd mewn harbwr neu o’i gwmpas, rhaid i chi gynnwys y canlynol:

  • cadarnhad ysgrifenedig gan yr awdurdod harbwr lleol na fydd eich gwaith yn peri risg i ddefnyddwyr môr eraill

Gwaith sy’n cynnwys symud pethau

Os yw eich gwaith yn cynnwys unrhyw fath o symud neu reoli traeth, rhaid i chi gynnwys y canlynol:

Dogfennau dewisol

Gallwch gynnwys:

  • cynlluniau adeiladu a lluniadau adrannol
  • unrhyw ohebiaeth ag ymgynghoreion eraill

Pa mor hir mae’n ei gymryd

Fel arfer, byddwch yn derbyn penderfyniad o fewn chwe wythnos.

Mae’r cyfnod o chwe wythnos yn dechrau o’r adeg y byddwn yn cadarnhau bod eich cais wedi’i gwblhau. Efallai na fydd yn dechrau ar y diwrnod y byddwch yn ei gyflwyno, os yw gwybodaeth ar goll neu’n anghywir.

Bydd trwydded forol yn ei gwneud yn ofynnol i chi gyflawni nifer o dasgau cyn y cewch ddechrau gweithio.

Gall y tasgau hyn gynnwys:

  • hysbysu pobl neu sefydliadau perthnasol
  • cyflwyno dogfennau ychwanegol i ni

Os oes angen mwy o gyngor arnoch

Gallwch gael cyngor gennym ni os oes angen help arnoch i baratoi eich cais. 

Gwneud cais am drwydded band 1

Diweddarwyd ddiwethaf