Ceisiwch gyngor cyn i chi wneud cais am drwydded forol

Rhaid i gais am drwydded forol roi’r wybodaeth sydd ei hangen arnom i asesu effaith eich prosiect.

Gall cael cyngor cyn i chi wneud cais leihau’r oedi hwn drwy eich helpu i wneud y canlynol:

  • deall pa wybodaeth i’w darparu
  • nodi problemau yn gynnar
  • ceisio darganfod sut i ddatrys unrhyw broblemau
  • gwneud eich cais yn haws ei asesu

Os oes gwybodaeth ar goll neu os yw’n aneglur, efallai y bydd yn rhaid i ni ddychwelyd eich cais neu ofyn i chi am fwy o fanylion.

Mewn rhai achosion, efallai y byddwn yn dychwelyd eich cais ac yn gofyn i chi gyflwyno eich cais eto.

Cyngor gennym ni

Gwybodaeth gyffredinol am drwyddedu morol

Gallwch anfon e-bost atom os oes gennych gwestiwn cyffredinol am drwyddedu morol.

Gallwn wneud y canlynol:

  • dweud wrthych ble i ddod o hyd i’r canllawiau perthnasol
  • eich helpu i ddeall y broses drwyddedu
  • esbonio i ba fand ymgeisio y gallai eich prosiect fod yn perthyn

Ni allwn wneud y canlynol:

  • darparu cyngor technegol sy’n benodol i’r prosiect
  • adolygu ceisiadau neu ddogfennau drafft
  • cadarnhau a fydd eich cais yn cael ei gymeradwyo
  • mynychu cyfarfodydd

Os oes angen cyngor manwl neu benodol i’r prosiect arnoch, gallwch ystyried ein gwasanaeth cyngor trwyddedu penodol.

E-bost marinelicensing@naturalresourceswales.gov.uk

Cyngor penodol ar drwyddedu morol

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn os oes gennych gwestiynau manwl yn ymwneud â’r gwaith penodol rydych chi am ei wneud. 

Mae’r gwasanaeth hwn yn costio £120 yr awr.

Mae’n arbennig o ddefnyddiol ar gyfer prosiectau sy’n cynnwys y canlynol:

  • cais band 3 sy’n gofyn am asesiad o’r effaith amgylcheddol
  • datblygiad seilwaith mawr
  • prosiectau sy’n defnyddio technolegau neu ddulliau newydd neu anarferol (trwydded band 2 neu fand 3)
  • dyframaethu

Gallwn wneud y canlynol:

  • trafod eich cynnig drwy e-bost
  • trefnu cyfarfod ar-lein i drafod eich cynlluniau

Ni allwn wneud y canlynol:

  • cyfarfod wyneb yn wyneb
  • mynychu ymweliadau safle

E-bost marinelicensing@naturalresourceswales.gov.uk

Barn sgrinio

Bydd angen i rai ceisiadau band 3 gynnwys asesiad o’r effaith amgylcheddol.

Cyn paratoi eich cais, gallwch ofyn am farn sgrinio gan ein tîm trwyddedu morol i benderfynu a oes angen asesiad o’r effaith amgylcheddol.

Mae’r gwasanaeth hwn yn costio £600.

Dysgwch fwy a gofynnwch am farn sgrinio.

Barn gwmpasu

Os yw’r farn sgrinio yn cadarnhau bod angen asesiad o’r effaith amgylcheddol, gallwch ofyn am farn gwmpasu. Mae hyn yn nodi beth y mae’n rhaid i’ch asesiad o’r effaith amgylcheddol ei gynnwys.

Mae’r gwasanaeth hwn yn costio £120 yr awr.

Dysgwch fwy a gofynnwch am farn gwmpasu.

Cynlluniau samplu gwaddodion

Cyn i chi wneud cais am drwydded i garthu neu gael gwared ar ddeunydd sydd wedi’i garthu, rhaid sicrhau bod amrediad o briodweddau ffisegol a chemegol y deunydd wedi’u dadansoddi.

Mae’r gwasanaeth hwn yn costio £420.

Dysgwch fwy a gofynnwch am gynllun samplu.

Cyngor amgylcheddol disgresiynol

Os yw eich gwaith yn digwydd o fewn ardal forol Cymru, gall ein gwasanaeth cyngor morol yn Cyfoeth Naturiol Cymru ddarparu cyngor ynghylch rhywogaethau gwarchodedig a safleoedd dynodedig.

Cysylltwch â’n gwasanaeth cyngor morol yn Cyfoeth Naturiol Cymru os nad ydych yn siŵr a yw lleoliad eich prosiect a’ch gweithgaredd arfaethedig yn golygu bod gennych y potensial i effeithio ar safle gwarchodedig neu sensitif.

Mae’r gwasanaeth hwn yn costio £125 yr awr, ynghyd â TAW.

E-bost: marine.advice@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Os oes gan y gwaith botensial i effeithio ar safleoedd y tu hwnt i 12 milltir forol, dylech hefyd gysylltu â’r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur.

Cyngor gan sefydliadau eraill

Cysylltwch â sefydliadau perthnasol yn gynnar er mwyn i chi ganiatáu amser iddynt ymateb. Efallai y bydd rhai’n codi tâl am gyngor.

Bydd pwy y byddwch chi’n cysylltu ag ef yn dibynnu ar ba fand trwydded forol sydd ei angen arnoch chi.

Ceisiadau band 1

Dysgwch fwy am gael cyngor ar gyfer cais band 1.

Ceisiadau band 2 neu 3

Yn dibynnu ar y gweithgareddau rydych am eu gwneud, a ble rydych am eu gwneud, efallai y byddwch am ymgynghori â sefydliadau eraill cyn i chi wneud cais am drwydded, gan gynnwys y canlynol:

  • Tŷ’r Drindod
  • Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau
  • Awdurdodau harbwr lleol
  • Heneb – Archaeoleg i Gymru – Cartref pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru
  • Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
  • Ystad y Goron
  • Awdurdodau cynllunio lleol
  • Porthladdoedd lleol
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Cadw
  • Y Weinyddiaeth Amddiffyn
  • Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar
  • Y Gymdeithas Hwylio Frenhinol
  • Cymdeithas Pysgotwyr Cymru
  • Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau Pysgotwyr
  • Siambr Morgludiant
  • Gwasanaethau Traffig Awyr Cenedlaethol

Os credwch y gallai eich prosiect ddenu diddordeb y cyhoedd, ymgysylltwch â chymunedau cyn i chi wneud cais am drwydded.

Paratowch eich cais

Defnyddiwch ein hofferyn gwirio pa drwydded forol sydd ei hangen arnoch os nad ydych chi’n siŵr pa fand trwydded forol y mae angen i chi wneud cais amdano. 

Dysgwch sut i baratoi cais ar gyfer:

Diweddarwyd ddiwethaf