Gwneud cais am drwydded forol band 3

Ar gyfer pwy mae’r gwasanaeth hwn

Mae’r gwasanaeth hwn ar gyfer yr ymgeiswyr canlynol sydd:

  • yn gwybod bod eu gweithgaredd yn gymwys ar gyfer band 3
  • yn barod i gyflwyno eu cais

Gwiriwch pa fand trwydded forol sydd ei angen arnoch os nad ydych chi’n siŵr.

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen i chi wneud y canlynol:

Taliadau

Codir tâl o £120 arnoch am bob awr o amser asesu’r Tîm Trwyddedu Morol.

Anfonir anfonebau rheolaidd atoch.

Beth sy’n digwydd ar ôl i chi wneud cais

Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • adolygu eich cais i wirio ei fod yn gyflawn
  • cysylltu â chi os oes angen rhagor o wybodaeth arnom
  • cadarnhau drwy e-bost pan fydd gennym bopeth sydd ei angen arnom i’w asesu

Gan fod ceisiadau band 3 yn gymhleth, ni allwn roi amserlen ar gyfer penderfyniad.

Efallai y byddwn yn cynnal adolygiad cynnar o’ch dull arfaethedig, a elwir yn ‘wiriad addasrwydd’. Byddwn yn cysylltu â chi ynglŷn â hyn os oes angen.

Cyflwyno eich cais drwy e-bost

Rhaid i chi gyflwyno eich ffurflenni wedi’u cwblhau a’ch dogfennau ategol drwy e-bost i: 
permitreceiptcentre@naturalresourceswales.gov.uk

Os yw eich ffeiliau’n rhy fawr i’w hatodi, anfonwch e-bost i roi gwybod i ni. Yna byddwn yn dweud wrthych beth i’w wneud nesaf.

Diweddarwyd ddiwethaf