Gweithgareddau sydd angen trwydded forol

Efallai y bydd angen trwydded forol arnoch os ydych chi’n bwriadu cynnal gweithgareddau penodol yn ardal drwyddedadwy forol Cymru

Mae’r angen am drwydded fel y’i diffinnir yn adran 66 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009.

Gweithgareddau y mae angen trwydded ar eu cyfer fel arfer

Efallai y bydd angen trwydded forol arnoch os yw eich gweithgaredd mewn ardal drwyddedadwy ac yn cynnwys y canlynol:

  • dyddodi neu symud deunyddiau neu sylweddau gan ddefnyddio cerbyd neu long
  • adeiladu, newid, gwella neu symud adeiledd yn yr ardal forol (gan gynnwys gwaith dros y môr, fel pont, neu o dan wely’r môr)
  • suddo llongau
  • carthu neu gael gwared ar waddod
  • defnyddio ffrwydron
  • llosgi gwrthrychau neu sylweddau yn y môr

Mae hyn ar gyfer gwaith parhaol a dros dro.

Gweithgareddau nad oes angen trwydded forol ar eu cyfer o bosibl

Nid oes angen trwydded forol ar gyfer rhai gweithgareddau y byddai fel arfer angen un ar eu cyfer os ydynt yn bodloni gofynion penodol.

Dysgwch fwy am weithgareddau sydd wedi’u heithrio rhag trwyddedu morol.

Bandiau trwydded forol

Os oes angen trwydded forol ar gyfer eich gweithgaredd, bydd angen i chi wneud cais am drwydded band 1, 2 neu 3.

Gwiriwch pa drwydded forol sydd ei hangen arnoch.

Ardal drwyddedadwy forol Cymru

Mae’r ardal drwyddedadwy yn gyffredinol yn ymestyn o benllanw cymedrig y gorllanw allan i’r môr, i ymyl parth Cymru.

Mae hyn yn cynnwys y canlynol:

  • afonydd llanw ac aberoedd
  • sianeli lle mae’r llanw’n llifo neu y gallai lifo
  • dyfroedd caeedig sy’n gysylltiedig â’r môr lle mae dŵr y môr yn llifo neu y gallai lifo, fel doc

Mae’r diffiniad cyfreithiol llawn yn adran 42 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009

Penllanw cymedrig y gorllanw

Penllanw cymedrig y gorllanw yw’r uchder cyfartalog a gyrhaeddir gan y môr adeg penllanw pan fydd gorllanw yn digwydd.

Nid ydym yn gosod nac yn cyhoeddi llinell bendant ar gyfer penllanw cymedrig y gorllanw.

Gellir defnyddio mapiau’r Arolwg Ordnans fel canllaw, ond nid ydynt yn ddiffiniol oherwydd gall llinell penllanw cymedrig y gorllanw newid.

Gallwch sefydlu penllanw cymedrig y gorllanw drwy wneud y canlynol:

  • defnyddio data uchder llanw o’r porthladd agosaf
  • cymharu data uchder llanw ag arolwg safle yn lleoliad eich prosiect

Mae data penllanw cymedrig y gorllanw ar gyfer prif borthladdoedd, gan gynnwys trosi i ddata uwchlaw’r seilnod ordnans, ar gael o wefan Rhagfynegiadau Llanw Cenedlaethol ar gyfer Porthladdoedd y DU ac Iwerddon.

Efallai y bydd mwy o ddata lleol ar gael i’w brynu hefyd.

Os nad ydych chi’n siŵr a oes angen trwydded forol arnoch chi

Ceisiwch gyngor cyn i chi wneud cais neu cysylltwch â’r tîm trwyddedu morol i gael cyngor. 

E-bost: marinelicensing@naturalresourceswales.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf