Cyfarwyddyd ar cydymffurfio ag trwydded amgylcheddol am gosodiad
Ar gyfer gwybodaeth dechnegol sy'n benodol i sector o safbwynt cydymffurfio â'ch trwydded amgylcheddol ar gyfer gosodiadau, rydym yn argymell defnyddio canllawiau technegol ar gyfer diwydiant a reoleiddir sydd ar gael ar Gov.uk.
Mae gan Gov.uk ganllawiau sy'n benodol i sector Asiantaeth yr Amgylchedd ar sut i gydymffurfio â thrwydded amgylcheddol a dolenni hefyd i gasgliadau'r Technegau Gorau sydd ar Gael (BAT) a gyhoeddwyd gan yr UE.
Gallwch weld rhestr lawn o'r canllawiau sydd ar gael gan Asiantaeth yr Amgylchedd ar Gov.uk
Rydym yn defnyddio casgliadau'r Technegau Gorau sydd ar Gael yn Ewrop fel canllawiau ychwanegol ar gydymffurfio â thrwyddedau sy'n benodol i sector. Lle nad oes casgliadau Technegau Gorau sydd ar Gael wedi'u cyhoeddi, rydym yn defnyddio 'Canllawiau ychwanegol ar sut i gydymffurfio' gan Asiantaeth yr Amgylchedd.
Yng Nghymru, byddem yn defnyddio'r canllawiau canlynol sydd ar gael fel rhan o'n hasesiadau cydymffurfiaeth ac wrth osod cyfyngiadau ar allyriadau.
Prosesau sy'n ymwneud â hylosgi
Prosesau mwynol
Prosesau cemegol (gan gynnwys prosesau puro)
Lawrlwythwch Cemegion organig arbennig: canllawiau ychwanegol gan Gov.uk
Lawrlwythwch Cemegion anorganig: canllawiau ychwanegol gan Gov.uk
Prosesau metelegol
Lawrlwythwch Prosesu metel fferrus: canllawiau ychwanegol gan Gov.uk
Bwyd a diod
Lawrlwythwch Prosesu cig coch: canllawiau ychwanegol gan Gov.uk
Lawrlwythwch Prosesu dofednod: canllawiau ychwanegol gan Gov.uk
Gosodiadau sy'n ymwneud â phapur a mwydion
Proses adolygu Technegau Gorau sydd ar Gael yr UE
Swyddfa Atal a Rheoli Llygredd mewn ffordd Integredig Ewrop sy'n cydlynu proses Technegau Gorau sydd ar Gael yr UE. Mae gan bob sector bedwar statws:
- Cyhoeddwyd – lle bo casgliadau'r Technegau Gorau sydd ar Gael wedi'u cyhoeddi
- Mabwysiadwyd – lle bo'r ddogfen gyfeiriadol wedi'i mabwysiadu'n ffurfiol ond lle, yn hanfodol, nad yw casgliadau Technegau Gorau sydd ar Gael wedi'u datblygu
- Adolygiad wedi'i ddechrau – mae'r broses o adolygu’r Technegau Gorau sydd ar Gael wedi dechrau ond heb ddod i derfyn (mae hyn hefyd yn cynnwys cyhoeddi drafft terfynol o safbwyntiau Technegau Gorau sydd ar Gael y sector penodol hwnnw)
- Drafft terfynol – mae drafft terfynol o ddogfennau Technegau Gorau sydd ar Gael ar gael
Ar ôl 1/1/2021, ac wrth i'r DU symud allan o'r cyfnod pontio, bydd y DU yn disodli proses Technegau Gorau sydd ar Gael yr UE â'i dull ei hun. Ar hyn o bryd, mae'r DU yn datblygu cynigion ar gyfer ei fersiwn ei hun o’r Technegau Gorau sydd ar Gael ar gyfer y DU.
Unwaith y bydd proses Technegau Gorau sydd ar Gael y DU yn ei lle, byddwn yn defnyddio casgliadau Technegau Gorau sydd ar Gael y DU i ddisodli'r dogfennau 'Canllawiau ychwanegol ar sut i gydymffurfio' sy'n weddill.
I'r sectorau hynny sy'n rhan o broses adolygu Technegau Gorau sydd ar Gael yr UE ar hyn o bryd, ond lle na fydd y casgliadau wedi'u cyhoeddi erbyn 1/1/2021, byddwn yn mabwysiadu casgliadau Technegau Gorau sydd ar Gael y DU, a allai ddefnyddio gwybodaeth sydd ar gael ar gyfer Technegau Gorau sydd ar Gael yn eu tro, gan gynnwys gwybodaeth a gyhoeddwyd gan yr UE, fel sail ar gyfer datblygu unrhyw ganllawiau ar gyfer y DU.
Bydd casgliad Technegau Gorau sydd ar Gael yr UE a gyhoeddwyd cyn 1/1/2021 yn parhau i gael ei ddefnyddio nes y bydd y DU yn adolygu’r Technegau Gorau sydd ar Gael ac yn cyhoeddi ei chasgliadau Technegau Gorau sydd ar Gael ei hun ar gyfer y DU.