Taliadau trwyddedau ar gyfer cyfleusterau sy’n cyflawni prosesau diwydiannol a gweithgynhyrchu (a elwir yn osodiadau)

Mae angen i chi dalu tâl pan fyddwch yn gwneud cais am drwydded amgylcheddol newydd, neu os ydych am newid eich trwydded, ei throsglwyddo neu ei hildio. Mae angen i chi hefyd dalu tâl blynyddol i dalu costau cydymffurfedd.

Mae dau fath o dâl: amrywiadwy ar gyfer ceisiadau cymhleth, a sefydlog ar gyfer ceisiadau  symlach â risg is.

Darganfyddwch a ydych yn gymwys i gael trwydded amgylcheddol effaith isel

Offeryn tâl ar gyfer ceisiadau trwydded cymhleth

Gallwch ddefnyddio'r offeryn tâl i gyfrifo'r gost ar gyfer yr holl weithgareddau yn eich cais 

Defnyddiwch yr offeryn tâl ar gyfer cais newydd

Defnyddiwch yr offeryn tâl i amrywio trwydded

Defnyddiwch yr offeryn tâl i ildio trwydded (Saesneg yn unig)

Defnyddiwch yr offeryn tâl i drosglwyddo trwydded

Mae'r taliadau cais am amrywiad gweinyddol, mân amrywiad technegol, trosglwyddiad llawn ac ildio risg isel yr un fath ar gyfer pob cais. Nid oes angen i chi ddefnyddio'r offeryn tâl ar gyfer y rhain.

Tâl blynyddol (a elwir yn dâl parhau)

Codir tâl blynyddol sefydlog am y gweithgareddau canlynol:

  • Gosodiad effaith isel – £615
  • Injan nwy tirlenwi annibynnol – £4,008
  • Gosodiad ffermio dwys – £1,223 (achrededig) neu £2,915 (heb ei achredu)
  • Gweithgarwch sy’n uniongyrchol gysylltiedig – £4,008
  • Cynhyrchu hydrogen trwy electroleiddio dŵr (graddfa fach) – £1,006
  • Treulio anaerobig – £2,396

Mae taliadau blynyddol am drwyddedau cymhleth yn seiliedig ar risgiau gweithredol.

Bydd angen i chi gwblhau ein taenlen Asesiad Risg Gweithredol i gyfrifo faint y codir tâl arnoch (Saesneg yn unig).

Bydd angen i chi gwblhau’r daenlen Asesiad Risg Gweithredol yn flynyddol.

Trwyddedau  gosodiad pwrpasol

Mae taliadau ymgeisio yn dibynnu ar raddfa, cymhlethdod a nifer y gweithgareddau yn eich gweithrediad.

Mae trwyddedau cymhleth yn perthyn i bedwar band yn dibynnu ar ba mor gymhleth yw eich gweithrediad. Yn gyffredinol, os ydych yn cyflawni:

  • llai na thri gweithgaredd, dylech fod yn gymwys ar gyfer band 1
  • bydd tri i chwe gweithgaredd yn eich rhoi ym mand 2 fwy na thebyg
  • bydd mwy na chwe gweithgaredd yn drwydded band 3 bwrpasol
  • gall cymhlethdod ychwanegol fod yn fand 4

Cwblhewch yr offeryn tâl i ddarganfod yr union gost, gan gynnwys yr holl ffactorau.

Band 1 Trwydded gosodiad bwrpasol

Cais newydd: £14,439

Amrywio trwydded bresennol: £651 (gweinyddol), £2,858 (mân amrywiad technegol), £9,515 (arferol), £13,830 (sylweddol)

Trosglwyddo eich trwydded: £5,558 (yn rhannol), £2,844 (yn llawn)

Ildio eich trwydded: £7,100 (yn rhannol), £6,167 (yn llawn)

Ildio risg isel: £2,858

Ildio safle sydd byth wedi gweithredu: £1,293

Band 2 Trwydded gosodiad bwrpasol

Cais newydd: £21,718

Amrywio trwydded bresennol: £651 (gweinyddol), £2,585 (mân amrywiad technegol), £12,109 (arferol), £20,830 (sylweddol)

Trosglwyddo eich trwydded: £7,685 (yn rhannol), £2,844 (yn llawn)

Ildio eich trwydded: £9,725 (yn rhannol), £8,880 (yn llawn)

Ildio risg isel: £2,858

Ildio safle sydd byth wedi gweithredu: £1,293

Band 3 Trwydded gosodiad bwrpasol

Cais newydd: £34,711

Amrywio trwydded bresennol: £651 (gweinyddol), £2,858 (mân amrywiad technegol), £20,774 (arferol), £33,308 (sylweddol)

Trosglwyddo eich trwydded: £12,564 (yn rhannol), £2,844 (yn llawn)

Ildio eich trwydded: £19,467 (yn rhannol), £15,629 (yn llawn)

Ildio risg isel: £2,858

Ildio safle sydd byth wedi gweithredu: £1,293

Band 4 Trwydded gosodiad bwrpasol

Cais newydd: £47,582

Amrywio trwydded bresennol: £651 (gweinyddol), £2,858 (mân amrywiad technegol), £37,272 (arferol), £45,288 (sylweddol)

Trosglwyddo eich trwydded: £15,531 (yn rhannol), £2,844 (yn llawn)

Ildio eich trwydded: £25,777 yn rhannol), £21,812 (yn llawn)

Ildio risg isel: £2,858

Ildio safle sydd byth wedi gweithredu: £1,293 

Gweithgareddau cyfarpar hylosgi canolig ar gyfer gosodiadau

Os oes gennych gyfarpar hylosgi canolig ynghlwm wrth eich gosodiad, codir tâl arnoch am y gweithgareddau ychwanegol hyn.

Cais newydd: £1,726

Amrywio trwydded bresennol: £1,037

Trosglwyddo eich trwydded: Dim tâl ychwanegol

Ildio eich trwydded: £1,037

Gweithgarwch awdurdodau lleol (gweithgarwch Rhan A2 neu Ran B) ar osodiadau

Os oes gennych weithgarwch Rhan A2 neu Ran B ar eich gosodiad, codir tâl am y gweithgareddau ychwanegol hyn:

Cais newydd: £1,726

Amrywio trwydded bresennol: £1037

Trosglwyddo eich trwydded: Dim tâl ychwanegol

Ildio eich trwydded: £1037

Asesiadau ychwanegol

Fel rhan o'ch cais am drwydded gosodiad, byddwch yn cynnal ymarfer sgrinio. Yn dibynnu ar ganlyniadau'r sgrinio, efallai y bydd angen i chi gynnal un o'r asesiadau pellach isod.

Asesiad modelu ansawdd aer llawn: £2,857

Asesiad allyriadau sy’n ffoi: £1,759

Asesiad arogl: £1,719

Asesiad modelu bioaerosol: £3,587

Asesiad effaith modelu sŵn llawn: £2,573

Cynllun atal a lliniaru tân: £2,487

Blaendal ar gyfer asesiad adfer: £1,841

Asesiad y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr o elifyn prosesau: £3,419

 

Taliadau ymgeisio am osodiadau  risg is

Trwyddedau rheolau safonol effaith isel (SR2009 rhif 2)

Cais newydd: £4,699

Amrywio trwydded bresennol: £651

Trosglwyddo eich trwydded: £2,228 (trosglwyddo’n rhannol neu’n llawn)

Ildio eich trwydded: £274 (ildio’n rhannol neu’n llawn)

Rheolau safonol ar gyfer treulio anaerobig

Cais newydd: £4,930

Amrywio trwydded bresennol: £651

Trosglwyddo eich trwydded: £2,228 (trosglwyddo’n rhannol neu’n llawn)

Ildio eich trwydded: £274 (ildio’n rhannol neu’n llawn)

Injan nwy tirlenwi annibynnol

Cais newydd: £13,781

Amrywio trwydded bresennol: £651 (gweinyddol), £2,007 (mân amrywiad technegol), £8,643 (arferol), £12,396 (sylweddol)

Trosglwyddo eich trwydded: £4,240 (yn rhannol), £2,688 (trosglwyddo’n llawn)

Ildio eich trwydded: £2,688 (yn rhannol), £1,833 (ildio’n llawn)

Trwydded bwrpasol ar gyfer gosodiadau effaith isel

Cais newydd: £7,722

Amrywio trwydded bresennol: £651 (gweinyddol), £1,100 (mân amrywiad technegol), £4,831 (arferol), £6,944 (sylweddol)

Trosglwyddo eich trwydded: £4,240 (yn rhannol), £2,688 (yn llawn)

Ildio eich trwydded: £2,688 (yn rhannol), £1,883 (yn llawn)

Gosodiad ffermio dwys

Cais newydd: £10,132

Amrywio trwydded bresennol: £651 (gweinyddol), £2,858 (mân amrywiad technegol), £6,378 (arferol)

Substantial variations for non-accredited farming installations  £8,106.

Trosglwyddo eich trwydded: £2,858 (trosglwyddo’n rhannol neu’n llawn)

Ildio eich trwydded: £6,167 (ildio’n rhannol neu’n llawn)

Gweithgareddau sy’n uniongyrchol gysylltiedig

Mae’n bosibl y bydd angen trwydded ar gyfer gweithgareddau sy’n uniongyrchol gysylltiedig â gweithgareddau sy’n rhan o osodiad ond sy’n cael eu cyflawni gan gwmni annibynnol.

Cais newydd: £8,470

Amrywio trwydded bresennol: £651 (gweinyddol), £1,211 (mân amrywiad technegol), £5,308 (arferol), £7,616 (sylweddol)

Trosglwyddo eich trwydded: £4,240 (yn rhannol), £2,688 (yn llawn)

Ildio eich trwydded: £2,688 (yn rhannol), £1,883 (yn llawn)

 

 

 

 

 

 

Diweddarwyd ddiwethaf