Defnyddio'r Fformiwla Effeithlonrwydd Ynni R1
Cyn i chi wneud cais
Daeth y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff newydd i rym yng Nghymru a Lloegr yn Ebrill 2011. Mae wedi cyflwyno hierarchaeth gwastraff ag iddi bum cam, sef:
- atal gwastraff
- paratoi ar gyfer ailddefnyddio
- ailgylchu
- dulliau adfer eraill (yn cynnwys adfer ynni)
- gwaredu gwastraff
O dan y Gyfarwyddeb, gall llosgyddion gwastraff trefol gael eu galw'n weithrediadau adfer cyn belled â'u bod yn cyflawni lefel ofynnol o effeithlonrwydd ynni. Cyflwynwyd y Gyfarwyddeb i:
- hyrwyddo'r defnydd o wastraff mewn llosgyddion gwastraff trefol sy'n defnyddio ynni'n effeithlon
- annog arloesedd ym maes llosgi gwastraff
Defnyddir y fformiwla Effeithlonrwydd Ynni R1 sydd wedi'i gynnwys yn y Gyfarwyddeb i bennu a yw'r gweithgarwch yn cyflawni'r lefel ofynnol o effeithlonrwydd ynni.
Sut i wneud cais
Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r awdurdod cymwys sy'n penderfynu a yw Llosgydd Gwastraff Trefol yn gymwys i gael statws adfer gan ddefnyddio'r fformiwla effeithlonrwydd ynni R1. Os hoffech chi drosolwg o sut i fod yn gymwys yng Nghymru, lawrlwythwch a darllenwch y nodyn briffio o'r ddolen isod:
I wneud cais, mae angen i chi anfon y canlynol atom:
- llythyr esboniadol (yn cadarnhau eich bod chi'n gwneud cais am statws R1 trwy'r Fformiwla Effeithlonrwydd Ynni R1 sy’n nodi a ydych chi'n gwneud cais ar gyfer safle cyfan neu un llinell)
- rhan A o'r cais am Drwydded Amgylcheddol
- copi cyflawn o ffurflen gais R1 (Saesneg yn unig) (Excel 3.26MB) ynghyd â'r wybodaeth sy'n ategu'r ffigurau a roddir
E-bostiwch eich ceisiadau i ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk / gan nodi 'Cais Fformiwla Effeithlonrwydd Ynni R1/R1 Energy Efficiency Formula Application' fel testun y neges (rhaid i negeseuon fod yn llai na 10MB).