Gwneud cais am drwydded gweithgaredd perygl llifogydd

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn os byddwch yn gweithio ar, neu'n agos at brif afon, amddiffynfa rhag llifogydd, amddiffynfa forol neu orlifdir.

Cyn i chi ddechrau

Darllenwch sut i wneud cais am drwydded gweithgaredd perygl llifogydd fel eich bod yn barod i roi'r manylion sydd eu hangen arnom am eich gweithgareddau.

Byddwn yn eich holi am:

  • yr ymgeisydd
  • perchennog y tir
  • unrhyw gyfeirnod cyn ymgeisio
  • y math o weithgaredd perygl llifogydd yr ydych yn ymgeisio amdano
  • lleoliad y safle
  • gweithgareddau ydych eisiau eu gwneud
  • pryd ydych chi'n bwriadu dechrau a gorffen
  • unrhyw gyfeirnod caniatâd cynllunio 
  • y sawl a fydd yn gyfrifol am y safle
  • manylion talu – bydd y tâl yn cael ei gyfrifo pan fyddwch yn anfon eich cais

Amserlenni

Byddwn yn gwneud penderfyniad o fewn 4 mis ar ôl derbyn cais cyflawn a'r ffi gywir

Cael mwy o gymorth gyda'ch cais

Rydym yn darparu gwasanaeth cynghori un i un i'ch helpu i ddeall y gofynion cyfreithiol wrth ymgymryd â rhai gweithgareddau a chynorthwyo gyda'r broses ymgeisio.

Diweddarwyd ddiwethaf