Cyngor sychder ar gyfer cyflenwadau dŵr preifat

Cyflenwad dŵr preifat

Cyflenwad dŵr preifat yw unrhyw gyflenwad dŵr nad yw'n cael ei ddarparu gan gwmni dŵr. Mae'r rhan fwyaf o gyflenwadau dŵr preifat wedi'u lleoli mewn rhannau mwy ynysig a gwledig o'r wlad. Gallai ffynhonnell y cyflenwad fod yn ffynnon, twll turio, ffrwd, nant, afon, llyn neu bwll. Gall y cyflenwad wasanaethu un eiddo neu sawl eiddo.

Caiff lefelau dŵr daear eu bwydo gan law. Fel arfer, mae lefelau dŵr daear yn cynyddu yn ystod y gaeaf ac yn lleihau yn ystod yr haf. Gall gymryd amser i lefelau dŵr daear gynyddu mewn ymateb i law oherwydd bod yn rhaid i ddŵr wlychu'r pridd a theithio drwy'r ddaear ac i'r bylchau rhwng creigiau ymhellach o dan y ddaear.

Pan fo diffyg glaw dros gyfnod hir, gall lefelau dŵr daear fod yn eithriadol o isel a gall hyn effeithio ar gyflenwadau dŵr preifat megis ffynonellau ffrydiau’n sychu neu bympiau'n sychu hefyd.

Camau gweithredu y gallwch eu cymryd

  • monitro lefelau’r dŵr yn eich ffynnon neu'ch twll turio'n rheolaidd neu wirio llif ffrydiau
  • cymryd dŵr ar raddfa sefydlog ac ar gyfradd mor isel â phosib

Defnyddio dŵr yn effeithlon:

  • cael cawod yn lle bath
  • diffodd tapiau wrth frwsio'ch danned
  • golchi'ch car gyda bwced, nid pibell ddŵr
  • ailddefnyddio dŵr bath 

Sicrhau bod eich pwmp wedi’i leoli’n is na lefel y dŵr. Gall eich pwmp gael ei ddifrodi os yw'n ceisio pwmpio mewn ffynnon neu dwll turio sych a gall fod yn ddrud i osod un newydd. Dylech ystyried gostwng uchder eich pwmp os yw'n bosib.

Byddwch yn ymwybodol wrth i lefelau dŵr fynd yn is, gall dŵr gael ei dynnu i'r ffynnon neu'r twll turio o bellteroedd mwy, a gall hyn effeithio ar ansawdd eich dŵr yfed. Os oes gennych bryderon, cysylltwch â'ch awdurdod lleol.

Dylech ystyried dyfnhau eich ffynnon neu eich twll turio i leihau'r risg eu bod yn sychu.

Ystyriwch osod tanciau storio dŵr er mwyn gwneud eich cyflenwad dŵr yn fwy gwydn pan fydd cyfnodau o dywydd sych.

Dylech ganfod a oes hanes o'r ffynhonnell yn sychu yn ystod cyfnodau sychder cynharach megis 1976, 1990-92, 1995-6 a 2005-6, a'r hyn a ddigwyddodd bryd hynny. Gall hyn eich helpu i ddeall pa mor debygol ydyw, a'r camau gweithredu sydd wedi gweithio neu y rhoddwyd cynnig arnynt yn y gorffennol.

Cyflenwad amgen

Diweddarwyd ddiwethaf