Gwrthod llwythi gwastraff peryglus
Mae'r canllaw hwn yn egluro'r rheolau ar gyfer y derbynnydd, y cludydd, y cynhyrchydd a'r deiliad o ran gwrthod gwastraff peryglus.
Gwiriwch y gwastraff a'r nodyn cludo cyn i chi ei dderbyn
Rhaid i chi wirio'r gwastraff a'r nodyn cludo cyn ei dderbyn.
Rhaid i chi wrthod y gwastraff os yw'r canlynol yn wir:
- nid oes nodyn cludo
- mae'r nodyn cludo yn anghyflawn neu'n anghywir – er enghraifft, mae’n nodi cod Catalog Gwastraff Ewropeaidd, disgrifiad neu faint anghywir
- nid yw'r gwastraff wedi'i ganiatáu o dan eich trwydded amgylcheddol
Rhaid i chi benderfynu a ddylech dderbyn neu wrthod y gwastraff cyn i chi gwblhau Rhan E o'r nodyn cludo. Ar ôl i chi lofnodi i nodi eich bod yn derbyn y gwastraff, ni allwch wrthod y gwastraff yn ddiweddarach.
Gwrthod llwyth gyda nodyn cludo
Dilynwch bedwar cam i wrthod gwastraff gyda nodyn cludo.
- Cwblhewch Ran E o'r nodyn cludo a chofnodwch beth sy'n cael ei wrthod a pham
- Cadwch un copi
- Rhowch un copi i'r cludydd
- Anfonwch gopïau at y traddodwr, y cynhyrchydd a'r deiliad cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol
Gwrthod llwyth heb nodyn cludo
Peidiwch â chreu nodyn cludo ar ôl i'r gwastraff gyrraedd.
Dilynwch bedwar cam i wrthod gwastraff heb nodyn cludo.
1. Crëwch gofnod gwrthod ysgrifenedig yn cynnwys:
- y rheswm dros wrthod y gwastraff
- disgrifiad o’r gwastraff / dosbarthiad y gwastraff, os ydych chi'n ei wybod
- enwau'r cynhyrchydd, y deiliad, y traddodwr a'r cludydd
- cyfeirnod unigryw yn y fformat canlynol: REJECT/XXXXX
2. Cadwch gopi o'ch cofnod gwrthod
3. Rhowch gopi o'r cofnod i'r cludydd
4. Anfonwch gopïau o'r cofnod at y cynhyrchydd, y deiliad a’r traddodwr cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol
Cyfrifoldebau cludwyr ar ôl i'r gwastraff gael ei wrthod
Hysbyswch y rheoleiddiwr cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
Cysylltwch â'r cynhyrchydd neu'r deiliad am gyfarwyddiadau (ynglŷn â beth). Cymerwch gamau rhesymol i ddilyn y cyfarwyddiadau hynny.
Cyfrifoldebau'r cynhyrchydd neu'r deiliad ar ôl i'r gwastraff gael ei wrthod
Eich blaenoriaeth yw dod o hyd i safle awdurdodedig arall cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
Gallwch wneud y canlynol:
- anfon y gwastraff at dderbynnydd awdurdodedig arall
- dychwelyd y gwastraff i'ch safle eich hun (fel arfer o fewn pum diwrnod busnes)
- gofyn i'r derbynnydd gwreiddiol ei dderbyn
Bydd angen i chi greu llwyth newydd.
Derbyn gwastraff a wrthodwyd yn flaenorol
Dim ond os yw'r canlynol yn wir y gallwch dderbyn gwastraff a wrthodwyd sydd â nodyn cludo sydd ar goll, yn anghyflawn neu'n anghywir:
- cofnodwyd y gwrthodiad gwreiddiol ar nodyn cludo arall
- mae problemau wedi cael eu cywiro
- mae eich trwydded yn caniatáu hynny
Rhaid cyhoeddi nodyn cludo newydd a chywir. Nid oes rhaid i chi ei dderbyn.
Pa mor fuan y mae'n rhaid i chi symud gwastraff
Rhaid cael gwared ar wastraff cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol os na ellir ei storio'n ddiogel neu'n gyfreithlon.
Fel arall, o fewn pum diwrnod busnes.
Rhaid i’r dull storio gydymffurfio ag amodau'r drwydded.
Cofnodi ac adrodd am wrthod llwythi
Rhaid i chi gofnodi llwythi a wrthodwyd ar eich ffurflen derbynnydd.
Ni chodir tâl am lwythi a wrthodwyd (dylid cofnodi hyn yn glir gan ddefnyddio'r fformat safonol a gofnodwyd yn y nodyn cludo fel y cyfeirir ato yn Adran 2).
Os caiff ei dderbyn yn ddiweddarach, cofnodwch y llwyth fel llwyth ar wahân.
Gwrthod rhan o lwyth
Gallwch wrthod rhan o lwyth os yw gwahanol fathau o wastraff yn hawdd eu hadnabod a’u gwahanu.
Dilynwch y gweithdrefnau gwrthod ar gyfer gwastraff a wrthodwyd a'r gweithdrefnau arferol ar gyfer gwastraff a dderbynnir.
Os yw gwahanol mathau o wastraff wedi’u cymysgu neu na ellir eu cysylltu â llwythi, gwrthodwch yr holl wastraff.