Canllaw i ymarferwyr ar rwydweithiau ecolegol cadarn

Ymateb i'n hargyfyngau natur a hinsawdd drwy gynllunio rhwydweithiau ecolegol cadarn

Mae Cymru yn ymateb i'r argyfyngau natur a hinsawdd sy'n bygwth ein llesiant. Mae adfer natur yn allweddol i ailadeiladu cydnerthedd ecolegol (penodol) a chynnal y buddion mae'n eu rhoi i ni. Mae angen gwneud y gwaith ailadeiladu ar gyflymder cynt ac ar raddfa fwy os ydym am leihau effeithiau posibl y ddau argyfwng hyn.

Mae cynefinoedd a rhywogaethau yn fwy cydnerth i newidiadau niweidiol os ydynt yn amrywiol, os oes ganddynt ddigon o le, os ydynt mewn cyflwr da, ac os oes ganddynt gysylltiadau lluosog ledled y dirwedd. Mae meddwl ar raddfa tirwedd am reoli rhwydweithiau o gynefin integredig i wella cydnerthedd a chynnal neu wella natur (bioamrywiaeth) yn rhagolwg cymharol newydd. Mae'n un sy'n llywio nid yn unig y ffordd mae nodweddion tirwedd yn cael eu rheoli ond hefyd sut y gallai rhanddeiliaid gwahanol gydweithio i gyflawni buddion amgylcheddol ac economaidd-gymdeithasol lluosog. Yng Nghymru, rydym wedi bathu'r term rhwydweithiau ecolegol cadarn i ddisgrifio'r dull hwn. Mae'n ffordd newydd o weithio ar gyfer sawl sector felly mae CNC wedi cyhoeddi canllaw i ymarferwyr sy'n cynnig cyngor ymarferol ar ddefnyddio'r dull hwn.

Beth sydd yn y canllaw i ymarferwyr ar rwydweithiau ecolegol cadarn

Mae'r canllaw yn darparu ymarferwyr â fframwaith cymorth penderfynu tri cham ar gyfer cynllunio rhwydweithiau ecolegol cadarn yn seiliedig ar egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae dolenni i ystod eang o adnoddau a rhestrau gwirio ym mhob cam a cheir tasgau allweddol sydd wedi'u diffinio'n glir. Caiff y darllenydd ei gyflwyno i ddiffiniad CNC o gydnerthedd ecosystemau gyda'i nodweddion o amrywiaeth, maint, cyflwr a chysylltedd. Mae rôl ardaloedd craidd a'r cymysgedd o ddefnyddiau tir rhyngddynt mewn rhwydweithiau ecolegol cadarn yn cael ei disgrifio'n syml. Darperir rheolau ecolegol cyffredinol a chyfeiriadau teithio ar gyfer adeiladu cydnerthedd i helpu rhanddeiliaid ac ymarferwyr i nodi blaenoriaethau a chamau gweithredu. Mae cynnwys rhanddeiliaid yn hanfodol i fodolaeth tymor hir rhwydweithiau ecolegol cadarn, a’r gwaith o’u cynnal a’u cadw, felly caiff cyngor ei gynnig ar sut i gefnogi eu cyfranogiad.

Mae'r canllaw hwn yn un o ystod o gynhyrchion sy'n cael eu datblygu i fodloni dyhead Llywodraeth Cymru yn y Polisi Adnoddau Naturiol i hyrwyddo rhwydweithiau ecolegol cadarn. Bydd mwy o gyhoeddiadau yn dilyn yn y tymor canolig.

Y gynulleidfa ar gyfer y canllaw i ymarferwyr ar rwydweithiau ecolegol cadarn

Gallai amrywiaeth eang o ymarferwyr ddefnyddio'r canllaw hwn ond yn enwedig y rhai sy'n cymryd rhan mewn prosiectau a chynlluniau partneriaeth. Mae'r canllaw hefyd yn addas ar gyfer: awdurdodau lleol a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus, cyrff anllywodraethol amgylcheddol a grwpiau cymunedol, busnesau, rheolwyr tir, a chwmnïau ymgynghori sy'n ymwneud â mentrau a phrosiectau defnydd tir.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf