Cynllun llifogydd Llanelwy - ymgynghoriad cyn cais cynllunio, pecyn B

Rydym yn paratoi i gyflwyno cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer Gwaith Pecyn B Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Llanelwy.

Er mwyn bodloni ein rhwymedigaethau dan y deddfau uchod, rydym yn ysgrifennu at bob tirfeddiannwr/deiliad perthnasol, ymgyngoreion yn y gymuned ac ymgyngoreion arbenigol, a hefyd yn arddangos hysbysiadau cyhoeddus ar y safle, er mwyn gwahodd adborth ynglŷn â’n cais cynllunio drafft a’r dogfennau technegol ategol.

Bydd y cyfnod ymgynghori ar waith am 28 diwrnod - o  19 Awst 2016 tan 16 Medi 2016. Yna, byddwn yn cyflwyno cais cynllunio Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Llanelwy i Gyngor Sir Ddinbych.

Mae'r pecyn yn cynnwys y dogfennau, adroddiadau a lluniau canlynol

  1. Tree Survey 1_May 2014
  2. Tree Survey 2_May 2016
  3. St Asaph Flood Risk Management Scheme Flood Consequence Assessment
  4. Environmental Constraints Plans - Plan 1; Plan 2; Plan 3
  5. St Asaph Flood Risk Management Scheme Contaminated Land Preliminary Risk Assessment
  6. Environmental Assessment Summary
  7. Site Location Plans - Plan 1; Plan 2; Plan 3
  8. General Arrangement Drawings - Drawing 1; Drawing 2; Drawing 3; Drawing 4; Drawing 5; Drawing 6; Drawing 7; Drawing 8; Drawing 9
  9. St Asaph Bat Roost Potential Report 2015
  10. St Asaph Great Crested Newts Report 2015
  11. St Asaph Preliminary Ecological Assessment
  12. St Asaph FRMS (PAR) – Ground Investigation 2014 Factual Report
  13. St Asaph FRMS (Detailed Design) Ground investigation 2016 
  14. Design and Access Statement incorporating Planning Statement
  15. Bat Survey Report: Tree Roosts
  16. Package B Draft Planning Application Form

Yn ogystal ag ymgynghori gyda’r rheini y bydd y cynllun yn effeithio’n uniongyrchol arnynt, fel y datblygwr rydym hefyd yn croesawu adborth gan y gymuned yn gyffredinol ynghylch ein cynnig i adeiladu amddiffyniad rhag perygl llifogydd yn Llanelwy, rhwng Ffordd Dinbych Isaf a Pharc Carafannau Spring Gardens ac mewn llecynnau byr i lawr yr afon yn Nol Afon a Ffordd yr Orsaf yn Rhuddlan.

Bydd unrhyw sylwadau’n cyfrannu at ein cais cynllunio i’r awdurdod cynllunio lleol. Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir yn ystod y cyfnod ymgynghori’n cael eu cofnodi a’u trafod mewn Adroddiad Ymgynghori, a fydd yn cael ei gyflwyno gyda’n cais cynllunio.

Rhaid i bawb sy’n dymuno cyflwyno sylwadau ynghylch y datblygiad arfaethedig ysgrifennu atom i’r cyfeiriad e-bost

cynllun.llifogydd.llanelwy@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

neu’r cyfeiriad Cyfoeth Naturiol Cymru, (dan ofal John M. Davies), Ffordd Caer, Bwcle, Sir y Fflint, CH7 3AJ.

Bydd yr ymgynghoriad ar waith rhwng 19 Awst 2016 ac 16 Medi 2016.