Ymgynghoriad ar ein Cynllun Taliadau ar gyfer 2019/20
Mae'r Llywodraeth yn ei gwneud yn ofynnol i ni adennill y gost o ddarparu ein gwasanaethau rheoleiddio, oddi wrth y rhai a reoleiddir gennym, yn hytrach nag ariannu hyn drwy dreth gyffredinol. Mae hyn yn cyfrif am oddeutu 20% o gyfanswm arian Cyfoeth Naturiol Cymru. Rydym yn agored ac yn dryloyw o ran strwythur ein ffioedd a thaliadau, yn ogystal â sut mae'r arian yn cael eu casglu a'u defnyddio wedyn.
Mae ein Cynllun Ffioedd a Thaliadau yn cael ei adolygu'n rheolaidd i sicrhau bod ein costau yn cael eu talu, a bod gofynion technegol yn cael eu bodloni. O ganlyniad i'n hadolygiad rydym wedi nodi rhywfaint o danadennill ac rydym yn cynnig cynyddu taliadau i gyfleusterau gwastraff, gosodiadau, adfer metel a thaliadau Cynllun Masnachu Allyriadau'r Undeb Ewropeaidd. Mae angen inni hefyd gynyddu'r Tâl Uned Safonol am Dynnu Dŵr er mwyn talu am fuddsoddiadau mewn seilwaith. Mae'r cynigion eraill yr ydym yn ymgynghori yn eu cylch yn cynnwys newidiadau i'r gyfradd fesul awr ar gyfer rheoleiddio Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr, diwygiadau i'r Gyfarwyddeb Gweithfeydd Hylosgi Canolig a chyflwyno ffi sefydlog ar gyfer asesu cynlluniau adennill gwastraff. Rydym hefyd yn gwneud rhai newidiadau polisi sydd wedi'u hamlinellu yn yr ymgynghoriad hwn o dan adran 5, 'Materion eraill i'w nodi'. Bydd yr holl gynlluniau statudol eraill yn parhau ar lefelau 2018/19.
Yn dilyn yr adolygiad blynyddol hwn rydym yn bwriadu cynnal adolygiad strategol o'n cynllun codi tâl i sicrhau bod ein gwaith rheoleiddio'n gynaliadwy yng Nghymru ac yn cyflawni canlyniadau hirdymor. Wrth i ni gynnal yr adolygiad hwn ein bwriad yw cyfyngu cymaint â phosibl yr adolygiad blynyddol o daliadau dros y tymor byr oni bai fod angen gwneud newidiadau hanfodol.
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau i ni erbyn 14 Ionawr 2019.
Gallwch ymateb yn y ffyrdd canlynol:
E-bost -
feesandchargesconsultation@naturalresourceswales.gov.uk
Post -
Tîm Rheoleiddio'r Dyfodol – Ymgynghoriad Ffioedd a Thaliadau
Cyfoeth Naturiol Cymru
Maes y Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW