Ymgynghoriad ar newidiadau i fap prif afonydd Cymru
Drwy’r ymgynghoriad hwn rydym yn ceisio eich barn ynghylch newidiadau arfaethedig i fap prif afonydd Cymru yn y lleoedd canlynol:
- Afon Lliedi – Llanelli, Sir Gaerfyrddin
- Afon Bechan – Tregynon, Powys
Rydym yn awyddus i ganfod a ydych yn cytuno ai peidio â’r newidiadau arfaethedig. Gellir ceir rhagor o fanylion isod mewn dogfen y gellir ei lawrlwytho.
Dan Ddeddf Dŵr 2014, mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru gyfrifoldeb i gynnal a diweddaru map prif afonydd Cymru. Diffinnir prif afon fel un sydd wedi ei chynnwys ar fap y prif afonydd y gellir ei weld yma: Mapiau perygl llifogydd. Os yw cwrs dŵr yn cael ei ddynodi fel prif afon, bydd yn rhoi’r gallu i Cyfoeth Naturiol Cymru arfer pwerau yn uniongyrchol arno.
Sut i ymateb
Anfonwch eich sylwadau os gwelwch yn dda erbyn 17:00 ar 29/02/2016, mewn unrhyw un o’r ffyrdd canlynol:
E-bost:
main.river.enquiries@naturalresourceswales.gov.uk
neu drwy
Post:
Cyd-gysylltydd Prif Afonydd
Rheoli Perygl Llifogydd a Gweithrediadau
Cyfoeth Naturiol Cymru
29 Heol Casnewydd
Caerdydd, CF24 0TP
Cyhoeddi canlyniadau ein hymgynghoriad
Byddwn yn cyhoeddi ein penderfyniad yn dilyn yr ymgynghoriad ar ein gwefan erbyn 01/03/2016.