Hysbysiad o fwriad i beidio â pharatoi datganiad amgylcheddol

Rheoli Perygl Llifogydd Woodland Terrace, Aber-bîg 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn hysbysu ei fod yn bwriadu gwneud gwaith i wella amddiffynfeydd llifogydd ar Ebwy Fach yn Aber-bîg, Blaenau Gwent ar hyd y lôn y tu ôl i Woodland Terrace rhwng (NGR SO 21199 02249) a (NGR SO 21135 02176). Bydd y gwaith arfaethedig yn cynnwys gwella’r amddiffynfa llifogydd 110m gyfredol drwy ddarparu mur llifogydd newydd o fewn amlinelliad yr amddiffynfa gyfredol a sail concrid ar ymyl y cwrs dŵr. Bydd yr holl waith yn cael ei wneud ar lan ogleddol Afon Ebwy Fach. 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynnal gwerthusiad amgylcheddol ac yn ystyried nad yw’r gwaith arfaethedig yn debygol o effeithio’n sylweddol ar yr amgylchedd ac o’r herwydd, nid yw’n bwriadu paratoi Datganiad Amgylcheddol ar gyfer y gwaith. Fodd bynnag, yn unol ag ymarfer amgylcheddol da bydd Cynllun Gweithredu Amgylcheddol yn cael ei baratoi i sicrhau fod unrhyw berygl cysylltiedig â’r gwaith yn cael ei reoli’n briodol. 

Dylai unrhyw un sy’n dymuno gwneud sylwadau i Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas ag effeithiau amgylcheddol tebygol y gwaith arfaethedig, wneud hynny yn ysgrifenedig, a’u hanfon i swyddfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru i’r cyfeiriad a nodir isod, o fewn 28 diwrnod ar ôl dyddiad cyhoeddi’r hysbysiad hwn. 

Paul Isaac (Rheolwr Prosiect)

Tŷ Cambria (Llawr 1af)

29 Heol Casnewydd,
Caerdydd,
CF24 0TP 

paul.isaac@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk