Gwelliannau i Amddiffynfa Fôr Portland Grounds
Beth rydym yn ei wneud
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n rhybuddio bod datganiad amgylcheddol wedi’i lunio mewn perthynas â gwelliannau arfaethedig i’r amddiffynfa rhag llifogydd ar Aber Afon Hafren ger Magwyr a Gwndy, rhwng Cyfeirnod Grid Cenedlaethol ST438848 a Chyfeirnod Grid Cenedlaethol ST 453858, pellter o oddeutu 2 gilometr. Bydd y gwaith arfaethedig yn golygu codi o’r arglawdd pridd presennol i uchder o 9.56m uwchben datwm ordnans, er mwyn gwella’r amddiffynfa rhag llifogydd arfordirol.
Asesiad ecolegol
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi llunio datganiad amgylcheddol mewn perthynas ag effeithiau amgylcheddol posibl y gwelliannau.
Dylai’r sawl sy’n dymuno cyflwyno sylwadau’n ymwneud ag effeithiau amgylcheddol tebygol y gwelliannau arfaethedig wneud hynny’n ysgrifenedig, a’u hanfon i’r cyfeiriad isod, o fewn 28 diwrnod i gyhoeddi’r hysbysiad hwn.
Os na dderbynnir sylwadau’n ymwneud ag effeithiau amgylcheddol y cynnig o fewn y cyfnod hwn, yna bydd y cynnig yn cael ei weithredu. Rhagwelir y bydd y gwaith yn cychwyn yn ystod Gwanwyn 2015.
Gellir cael copïau o’r dogfennau hyn trwy ysgrifennu at
Abby Downing
Rheolwr Prosiect
Cyfoeth Naturiol Cymru
Tŷ Cambria
29 Heol Casnewydd
Caerdydd, CF24 0TP
Neu yrru neges e-bost at abby.downing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Os oes gennych unrhyw sylwadau, gyrrwch hwy erbyn 3 Mawrth.