Diweddariad Arfaethedig i Gynlluniau Rheoli Basnau Afonydd Cymru
Bydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn diweddaru’r cynllun rheoli basn afon ar gyfer Ardal Basn Afon Hafren.
Mae’r cynlluniau’n disgrifio’r pwysau sy’n wynebu amgylchedd dŵr tair ardal basn afon Cymru. Byddant yn pennu amcanion ar gyfer ein hafonydd, llynnoedd, aberoedd, dyfroedd arfordirol a dŵr daear rhwng 2015 a 2021. Mae pob cynllun yn amlinellu’r camau sydd eu hangen i wella’r amgylchedd dŵr, y manteision posibl a phwy sydd yn y sefyllfa orau i’w cyflawni.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn gam pwysig yn y gwaith o lywio’r gwaith reoli’r amgylchedd dŵr ledled Cymru, ac mae’n gyfle i chi ddylanwadu ar y dull o wneud hynny. Y ffordd orau o ddiogelu a gwella’r amgylchedd dŵr yw sicrhau bod pawb yn cymryd rhan weithredol yn y broses.
Hoffem glywed eich barn ar yr hyn ddylai ddigwydd, ble a phryd, a hoffem dderbyn unrhyw dystiolaeth sydd gennych chi i’n helpu i gynllunio’n well ar gyfer dyfodol ein dyfroedd.
Mae’r ymgynghoriad ar y cynlluniau rheoli perygl llifogydd yn cyd-ddigwydd gyda lansio’r ymgynghoriad hwn ac yn parhau tan 31 Ionawr 2015. Gellir gweld copi drafft o’r cynllun rheoli perygl llifogydd ar ein tudalen ymgynghori o’r 10 Hydref 2014.
Bydd cydlynu cynlluniau rheoli basn afon a rheoli perygl llifogydd yn ei gwneud yn haws i randdeiliaid sydd â diddordeb yn y ddwy i rannu eu barn, ac i bob un ohonom i gymryd golwg ehangach o gyfleoedd ar gyfer rheoli’r amgylchedd dŵr yn fwy effeithiol. Ar y cyd, fydd y ddau gynllun yn llunio penderfyniadau pwysig, arwain camau a buddsoddiad sylweddol a sicrhau cryn dipyn o fanteision i’r gymdeithas a’r amgylchedd.
Sut i ymateb
Defnyddiwch y profforma cwestiynau isod i roi gwybod i rannu’ch barn â ni. Gallwch e-bostio neu bostio’r profforma atom i’r cyfeiriadau isod.
E-bost:
Dogfen Afon Dyfrdwy -
ardalbasnafondyfrdwy@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk or
deerbd@naturalresourceswales.gov.uk
Dogfen Gorllewin Cymru -
ardalbasnafongorllewincymru@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk or
westernwalesrbd@naturalresourceswales.gov.uk
Post:
Jill Brown,
Cyfoeth Naturiol Cymru,
Ty Cambria,
29 29 Heol Casnewydd,
Caerdydd, CF24 0T
Atodiad trosolwg cynllunio yn cynnal dolennau cyswllt rhannu ffeiliau gwybodaeth Asiantaeth yr Amgylchedd
Teitl y Ddogfen | Dolen Ffeil |
---|---|
Adolygiad Dyfroedd a Addaswyd yn Sylweddol | https://ea.sharefile.com/d/sf455f6efe3d41d89 |
Methodoleg Dosbarthiad Dŵr Wyneb | https://ea.sharefile.com/d/sc0086b73edc4088a |
Methodoleg Dosbarthiad Dŵr Daear | https://ea.sharefile.com/d/se3d27107e9a4ee2b |
Crynodebau o Broblemau Rheoli Dŵr Sylweddol | https://ea.sharefile.com/d/sae688784f7946fcb |
Datganiadau Dull Asesu Perygl | https://ea.sharefile.com/d/sbdae032840d49c08 |
Mapiau Asesu Perygl | https://ea.sharefile.com/d/s7b2d35d7bd94651a |