Ymgynghoriad ynghylch Newidiadau Arfaethedig i Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) Skokholm a Skomer

Mae'r ymgynghoriad wedi cau erbyn hyn:

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn y broses o ystyried ac ymateb i'r sylwadau a gawsom. Byddwn yn casglu'r ymatebion i'r ymgynghoriad ac yn cyflwyno'r rhain i Lywodraeth Cymru. Bydd crynodeb o'r ymatebion a wnaed i Gyfoeth Naturiol Cymru ar gael i'r cyhoedd ar y wefan maes o law.

Sut y byddaf yn cael gwybod am y penderfyniad?

Bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan y Gweinidog Cymreig dros Gyfoeth Naturiol a Bwyd ar p'un ai i wneud y newidiadau i'r AGA. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ysgrifennu at randdeiliaid, gan gynnwys y rhai sydd wedi gwneud sylwadau, i roi gwybod iddynt am benderfyniad y Gweinidog a diweddaru'r wybodaeth ar ein gwefan.

Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) bresennol

Mae’r ynysoedd yn cynnal niferoedd rhyngwladol bwysig o adar môr sy’n nythu yno.

I gael rhagor o wybodaeth am y safle presennol trowch at we dudalen AGA Skokholm and Skomer Cyfoeth Naturiol Cymru, lle gwelir y map presennol a’r Gofrestr o Gofnod Safleoedd Ewropeaidd sy’n rhestru’r rhywogaethau cymwys.

Newidiadau Arfaethedig i’r Safle

Mae cyngor ffurfiol i lywodraeth y Deyrnas Unedig mewn adroddiad sy’n dwyn yr enw ‘2001 SPA review’ (Stroud et al. 2001) yn awgrymu newidiadau i’r rhestr o rywogaethau cymwys. Y rhywogaethau cymwys ychwanegol sy’n cael eu cynnig yw’r frân goesgoch (bridio), y dylluan glustiog (bridio), yr wylan gefnddu leiaf (bridio), yn ogystal â chasgliad o bron i 395,000 o adar môr sy’n bridio.

Bernir ei bod yn bwysig cynnwys y dylluan glustiog gan ei bod ar gyrion y boblogaeth Ewropeaidd a dyma’i hunig safle yng Nghymru.

Argymhellir hefyd y dylid tynnu’r llurs (bridio) oddi ar y rhestr o rywogaethau unigol o adar sy’n cyrraedd y lefel ofynnol i gael eu hystyried mewn AGA, er bod y llurs yn dal yn rhan o’r casgliad o adar môr sy’n bridio.

Nid yw adolygiad safleoedd AGA 2001 ei hun yn argymell unrhyw newidiadau ffiniau yn sgil y cynigion hyn i gynnwys yr adar newydd. Fodd bynnag, newid arall posibl sy’n cael ei gynnig, er mwyn cyflawni rhwymedigaethau o dan Gyfarwyddeb Adar y Cyngor Ewropeaidd i nodi’r tiriogaethau mwyaf addas ar y môr, yw ymestyn ffin yr AGA i gynnwys ardaloedd cyfagos sy’n cael eu defnyddio gan adar drycin Manaw o’r AGA bresennol.

Mae’r safle’n cynnal tipyn mwy na hanner poblogaeth fridio’r byd o Adar Drycin Manaw.

Yr estyniad sy’n cael ei argymell i safleoedd gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur yw ‘o leiaf 4 km, a mwy na hynny lle mae data penodol am safle yn cefnogi hynny’.

Yng nghyd-destun AGA Skokholm and Skomer mae’r estyniad sy’n cael ei awgrymu i’r ffin yn 4km tua’r môr o amgylch yr ynysoedd y tu hwnt i’r ffin bresennol a byddai’n gwarchod rhywogaethau eraill ar y safle megis pâl, gwylog a llurs.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y safle, cysylltwch â’r swyddog lleol, Andrea Winterton, yn Cyfoeth Naturiol Cymru, neu cysylltwch â’r Ganolfan Gofal Cwsmeriaid yn Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 065 3000.

Sesiwn Galw i Mewn

Rydym yn sylweddoli y gallai fod gennych ragor o gwestiynau ac mae croeso ichi ddod i sesiynau galw heibio i drafod unrhyw gwestiynau sydd gennych wyneb yn wyneb. 

AGA Skokholm and Skomer
Awdurdod lleol: Sir Benfro
Dyddiad ac Amser: Dydd Iau, 20 Chwefror 2014 - O 13:30 hyd at 20:00
Lleoliad: Neuadd Bentref Marloes, Marloes, Hwlffordd, Sir Benfro SA62 3AZ
Cyswllt Rhanbarthol: Andrea Winterton /Alex Harding - Ffon. 0300 065 3000
swyddfa rhanbarthol: Cyfoeth Naturiol Cymru, Tŷ Llanion, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro SA72 6DY

Sut i ymateb

Bydd crynodeb o'r ymatebion a dderbyniwyd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru ar ôl diwedd y cyfnod ymgynghori. Ni fydd yn cynnwys enwau ymatebwyr.

Dylech wybod y gallem gael cais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol am gopi o’r adroddiad llawn ar yr ymatebion i’r ymgynghoriad, ac mae’n bosibl y gofynnir i ni ddarparu copïau o ymatebion unigol, yn cynnwys enwau a chyfeiriadau’r unigolion neu’r sefydliadau a’u hanfonodd. Mewn achosion o’r fath, rhaid i ni benderfynu a ddylid rhyddhau’r wybodaeth honno ai peidio, ac os yw rhywun wedi gofyn i ni beidio â datgelu ei enw a’i gyfeiriad, gallwn ystyried hynny wrth benderfynu a ydym am ryddhau’r wybodaeth honno ai peidio.

Mae rhagor o wybodaeth ym mholisi Rhyddid Gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru.

Anfonwch y Ffurflen Ymateb i Ymgynghoriad trwy:

Ebost:

ymgynghoriadaga@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Gallwch ymateb dros yr ebost erbyn hanner nos 25 Ebrill 2014, gydag atodiadau, os oes angen, hyd at uchafswm o 20mb.

Post:

Tîm Safleoedd Rhyngwladol
Cyfoeth Naturiol Cymru
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW

Newidiadau posibl i safleoedd AGA eraill yng Nghymru

  • Glannau Aberdaron ac Ynys Enlli / Aberdaron Coast and Bardsey Island
  • Grassholm