Cynaeafu cocos yng Nghilfach Tywyn

Cynaeafwyr masnachol

Rhaid i gynaeafwyr masnachol gael trwydded gennym i gasglu cocos yng Nghilfach Tywyn.

Mae'r rhestr aros ar gau i ymgeiswyr newydd.

Os bydd y rhestr aros yn agor byddwn yn rhoi’r wybodaeth ar ein gwefan.

Aelodau o'r cyhoedd

Gall aelodau'r cyhoedd gymryd hyd at 8kg o gocos y dydd at ddefnydd personol yn unig. Ni chaniateir i chi werthu'r cocos na'u prosesu i'w gwerthu.

Gallwch chi gasglu cocos at ddefnydd personol yn unig i'r dwyrain o'r ardal rhwng Llanrhidian Pill yn y de a Doc Llanelli yn y gogledd.

Adnewyddu eich trwydded cocos Cilfach Tywyn

Bydd angen i gynaeafwyr masnachol adnewyddu eu trwydded bob blwyddyn, cyn 1 Ebrill.

Byddwn yn cysylltu â phob deiliad trwydded yn unigol i'ch gwahodd i'w hadnewyddu.

Cysylltwch â ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, neu i drafod ardystiad, cysylltwch â ni.

Anfonwch e-bost at burryinletfishery@naturalresourceswales.gov.uk.

Ysgrifennwch atom yn:

Trwyddedu Cocos Cilfach Tywyn
Canolfan Cwsmeriaid
Cyfoeth Naturiol Cymru
Maes y Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW

Ffoniwch 0300 065 3000.

Diweddarwyd ddiwethaf