Cynlluniau bioddiogelwch morol i Gymru
Gall rhywogaethau estron goresgynnol (INNS) morol amharu ar ecosystemau a niweidio ein moroedd. Gallant fynd yn drech na rhywogaethau brodorol, newid cynefinoedd a lledaenu clefydau. Gall hyn arwain at golli bioamrywiaeth, difrod i bysgodfeydd a dyframaethu, ac effeithiau economaidd sylweddol.
Mae’r adnoddau isod yn cynnig arweiniad, tystiolaeth ac offer i helpu i leihau’r perygl o gyflwyno a lledaenu rhywogaethau estron goresgynnol ym moroedd Cymru.
Maent yn ddefnyddiol os ydych:
- yn cynllunio neu’n cynnal gweithgaredd yn yr amgylchedd morol
- yn rheoli gweithgareddau a allai effeithio ar gynefinoedd neu rywogaethau morol
Gall y canllawiau eich helpu i:
- asesu risgiau bioddiogelwch sy’n gysylltiedig â gwahanol sectorau/gweithgareddau, INNS a safleoedd ym moroedd Cymru
- nodi camau ymarferol a all leihau’r perygl o gyflwyno a lledaenu INNS morol, gan gynnwys camau gweithredu sector-benodol
- dysgu am INNS morol a bioddiogelwch ym moroedd Cymru
- llunio cynllun bioddiogelwch morol ar gyfer safle neu weithgaredd yng Nghymru
- nodi adnoddau a chanllawiau cymeradwy ar gyfer INNS morol a bioddiogelwch ym moroedd Cymru
Am ragor o wybodaeth am fioddiogelwch morol yng Nghymru, ewch i wefan Moroedd Gwyllt Cymru.
Adnoddau bioddiogelwch
Nod y cynlluniau gweithredu isod yw eich helpu i ddeall a rheoli risgiau bioddiogelwch ym moroedd Cymru.
Maent yn cynnig cyngor ymarferol ar sail polisi a’r dystiolaeth gyfredol, ac yn cefnogi gweithredu cyson ac effeithiol ar draws amrywiaeth o sectorau a gweithgareddau.
Gall y cynlluniau helpu i:
- leihau’r perygl o gyflwyno a lledaenu INNS morol
- cefnogi ymarfer bioddiogelwch cyson ac effeithiol
- gwella ymwybyddiaeth, monitro ac adrodd
- cefnogi gweithredu cydgysylltiedig ar draws sefydliadau a sectorau
Cynlluniau Gweithredu Bioddiogelwch
Mae Cynlluniau Gweithredu Bioddiogelwch (Saesneg yn unig) yn amlinellu mesurau ymarferol i leihau’r perygl o gyflwyno neu ledaenu INNS ar lefel genedlaethol neu ar lefel safle.
Maen nhw’n gwneud y canlynol:
- nodi’r prif risgiau bioddiogelwch ar gyfer safle neu weithgaredd
- amlinellu camau ymarferol i reoli’r risgiau hynny
- rhoi arweiniad ar sut i ymgymryd â chamau gweithredu bioddiogelwch
- cefnogi gweithio cydlynol rhwng rhanddeiliaid
Mae Cynlluniau Gweithredu Bioddiogelwch wedi’u datblygu ar gyfer Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACAau) morol yng Nghymru:
Mae cynlluniau bioddiogelwch morol ar gyfer Aber Afon Hafren ac Aber Afon Dyfrdwy wedi’u datblygu mewn cydweithrediad â Natural England.
Mae Cynllun Gweithredu Bioddiogelwch Morol cenedlaethol i Gymru (Saesneg yn unig) hefyd ar gael.
Cynlluniau Gweithredu Llwybrau
Mae Cynlluniau Gweithredu Llwybrau (Saesneg yn unig) yn canolbwyntio ar reoli’r prif lwybrau y mae INNS yn cael eu cyflwyno a’u lledaenu drwyddynt.
Ymysg y prif lwybrau ym moroedd Cymru mae:
- llongau masnachol
- dyframaethu
- cychod hamdden (cwchiau bach)
- cychod hamdden (cwch mawr)
- pysgota o gychod
- pysgota ar y lan
- gweithgareddau hamdden ar y dŵr
Mae pob cynllun gweithredu llwybr yn cynnwys gwybodaeth am:
- sut mae INNS yn cael eu lledaenu gan y llwybr hwnnw
- sut gall INNS effeithio ar y gweithgareddau a’r gweithrediadau sy’n gysylltiedig â’r llwybr
- rhywogaethau risg uchel perthnasol ar gyfer y llwybr
- canllawiau arfer gorau i leihau’r risg
Mae Cynlluniau Gweithredu Llwybrau yn ffordd effeithiol o reoli’r risgiau a achosir gan INNS lluosog.
Cynlluniau Gweithredu Rhywogaethau
Mae Cynlluniau Gweithredu Rhywogaethau (Saesneg yn unig) yn cynnig canllawiau wedi’u targedu ar gyfer INNS morol â blaenoriaeth uchel yng Nghymru.
Maent yn cynnwys gwybodaeth am:
- lwybrau cyflwyno a lledaenu
- effeithiau posibl ar fioamrywiaeth a gweithgareddau
- mesurau rheoli a argymhellir
Ymysg y rhywogaethau morol â blaenoriaeth yng Nghymru mae: