Ymgynghoriad drafft yw hwn.

Mae’r ymgynghoriad yn rhedeg o ddydd Gwener, 11 Medi 2020 i ddydd Gwener, 25 Medi 2020.

Dywedwch wrthym beth yw eich barn chi.

Yr hyn a olygir gan asesu’r effaith amgylcheddol

Mae asesu’r effaith amgylcheddol yn broses ar gyfer nodi effeithiau amgylcheddol cadarnhaol a negyddol ar gyfer datblygiad arfaethedig. Mae'n ymwneud â phrosiectau sy'n debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd oherwydd eu natur, eu maint neu eu lleoliad.

Darperir gwybodaeth i benderfynwyr ynghylch yr effeithiau amgylcheddol mewn datganiad amgylcheddol (ES). Caiff hwn ei ddefnyddio i helpu i benderfynu a ddylid rhoi caniatâd i ddatblygiad fynd yn ei flaen neu beidio. Caiff hyn ei wneud mewn ymgynghoriad â sefydliadau a'r cyhoedd.

Mae datblygwyr yn gyfrifol am gynnal asesiad o'r effaith amgylcheddol.

Mae Rheoliadau Asesu Effaith Amgylcheddol 2020 yn amlinellu'r weithdrefn ar gyfer asesiad o'r effaith amgylcheddol. Mae pob cyfres o Reoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol yn cynnwys manylion penodol, gan ddibynnu ar fath, graddfa a lleoliad y prosiect. Gall fod angen nifer o ganiatadau ar ddatblygiadau morol, sy'n golygu y gall mwy nag un gyfres o Reoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol fod yn gymwys.

Camau'r broses o asesu'r effaith amgylcheddol

Mae'r broses o asesu'r effaith amgylcheddol yn cynnwys camau gwahanol. Mae'r prif gamau fel a ganlyn:

  • Sgrinio asesiadau o'r effaith amgylcheddol – er mwyn penderfynu a yw'n ofynnol asesu'r effaith amgylcheddol a chyflwyno datganiad amgylcheddol. Gallwch wneud cais am farn sgrinio gan y penderfynwr. Mae Atodlenni Rheoliadau Asesu Effaith Amgylcheddol 2020 yn amlinellu datblygiadau mae arnynt angen asesiad o'r effaith amgylcheddol gorfodol (Atodlen 1) a datblygiadau sy'n amodol ar broses sgrinio i benderfynu a yw asesiad o'r effaith amgylcheddol yn angenrheidiol (Atodlen 2).
  • Cynnal ymarfer cwmpasu ar gyfer asesu'r effaith amgylcheddol – er mwyn penderfynu pa wybodaeth y caiff ei hasesu a'i dogfennu mewn datganiad amgylcheddol. Gallwch wneud cais am farn gwmpasu gan y penderfynwr. Mae cynnal ymarfer cwmpasu'n broses ailadroddol sy'n raddol grisialu effeithiau sylweddol yr asesiad.
  • Llunio a chyflwyno'r datganiad amgylcheddol – y cam asesu manwl er mwyn penderfynu beth fydd effeithiau amgylcheddol sylweddol tebygol y prosiect. Mae canfyddiadau'r asesiad, a sut y rhoddwyd sylw i unrhyw ystyriaethau o safbwynt barn gwmpasu, wedi'u dogfennu yn y datganiad amgylcheddol ac yn cael eu cyflwyno i'r awdurdod sy'n trwyddedu.

Ein rolau mewn asesu’r effaith amgylcheddol

Mae gennym lawer o rolau a chyfrifoldebau ar draws Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae ein prif rolau yn y broses o asesu’r effaith amgylcheddol ar gyfer datblygiadau morol yn cynnwys gweithredu fel y canlynol:

  • Rheoleiddiwr: Gwasanaeth Trwyddedu Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r rheoleiddiwr a'r awdurdod priodol, a elwir yn 'benderfynwr' yma, ar gyfer asesu'r effaith amgylcheddol ar gyfer datblygiadau morol sydd angen trwydded forol yn nyfroedd Cymru. Mae'n gyfrifol am sicrhau bod yr holl destunau cwmpasu wedi derbyn sylw.
  • Cynghorydd: Mae Panel Cynghori Cyfoeth Naturiol Cymru yn darparu cyngor i benderfynwyr datblygiadau morol ar waith asesu'r effaith amgylcheddol fel ymgynghorai statudol. Gallwn hefyd ddarparu cyngor i ddatblygwyr drwy ein gwasanaeth cyngor yn ôl disgresiwn er mwyn helpu i ddiffinio cwmpas yr asesiad.

Testunau derbynnydd adnoddau amgylcheddol a naturiol penodol yn unig y mae cylch gwaith Panel Cynghori Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei gwmpasu. Gallwch holi'r penderfynwr ynghylch pa sefydliadau eraill y bydd angen i chi gysylltu â nhw am gyngor o safbwynt testunau derbynnydd.

Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r penderfynwr ar gyfer datblygiadau morol sy’n destun asesiad o'r effaith amgylcheddol sydd angen trwydded forol yng Nghymru. Gwybodaeth am wneud cais ar gyfer trwydded forol, a chanllaw ar y broses o asesu'r effaith amgylcheddol.

Asesu’r effaith amgylcheddol ar gyfer datblygiadau morol

Rydym yn darparu gwybodaeth a chanllawiau arfer da ar gyfer asesu'r effaith amgylcheddol ar gyfer datblygiadau morol (sef y rheiny sydd islaw neu'n rhannol islaw penllanw cymedrig y gorllanw).

Mae'r wybodaeth hon yn egluro yr hyn y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei disgwyl, fel cynghorydd statudol, gan ddatblygiadau morol sy’n destun asesiad o'r effaith amgylcheddol.

Nid yw'r canllaw hwn yn ffurfio cyngor cyfreithiol ar y broses o asesu'r effaith amgylcheddol na chyngor ar y broses ymgeisio.

Efallai y bydd angen i chi gysylltu â phenderfynwyr a sefydliadau eraill ar gyfer testunau sy'n ymwneud ag asesu'r effaith amgylcheddol nad ydynt o fewn cylch gwaith Panel Cynghori Cyfoeth Naturiol Cymru.

Ein dull cynghorol ar gyfer asesu’r effaith amgylcheddol

Ein nod yw darparu cyngor sy'n cael dylanwad cadarnhaol ar ddatblygiadau a gwneud penderfyniadau, er mwyn sicrhau bod yr amgylchedd morol ac adnoddau naturiol yn cael eu cynnal, a'u gwella a'u defnyddio, mewn modd cynaliadwy, nawr ac ar gyfer y dyfodol. Mae ein cyngor morol yn seiliedig ar ddefnyddio nifer o egwyddorion i sicrhau bod y cyngor rydym yn ei ddarparu yn gadarn a chymesur.

Gweithio gyda ni

  • Ymgysylltwch â ni yn gynnar wrth gynllunio prosiect – gall hyn ein helpu i ddeall y datblygiad o'r cychwyn a sicrhau bod cwmpas yr asesiad yn gymesur.
  • Cynlluniwch eich ymgysylltiad â ni – mae hyn yn ein helpu i gynllunio ein hadnoddau er mwyn gallu darparu'r gwasanaeth y bydd ei angen arnoch o bosibl.
  • Edrychwch ar ein canllawiau presennol – efallai y bydd ein canllawiau morol ac arfordirol yn ateb rhai o'ch cwestiynau a lleihau faint o wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen.
  • Cyflwynwch wybodaeth gyflawn, a thystiolaeth i'w chefnogi – mae hyn yn lleihau oedi a'r angen am ofyn am fwy o wybodaeth ynglŷn â dulliau a chasgliadau asesu.
  • Dylech neilltuo amser digonol ar gyfer ymgynghori – bydd hyn yn golygu y gallwn ystyried y wybodaeth a darparu ymateb cadarn.
  • Dylech gyflwyno dogfennau hygyrch – lle bo hynny'n bosibl, dylech gyflwyno dogfennau electronig a ffeiliau Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol. Os yw dogfennau'n fawr iawn, trafodwch â ni ymlaen llaw cyn eu hanfon atom.

Cysylltu â ni

Ar gyfer cyngor ar brosiectau gan ein hadran Cynllunio Datblygu a Gwasanaethau Morol, defnyddiwch y Gwasanaeth Cynghori yn ôl Disgresiwn.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dal data a allai fod o gymorth i chi wrth ddatblygu asesiad ar gyfer eich prosiect. Edrychwch ar ein tudalennau gwe i weld sut i gael mynediad i ddata oddi wrth Cyfoeth Naturiol Cymru a gwybodaeth am y setiau data ecoleg forol rydym yn eu dal.

Gallwch hefyd gysylltu â Thîm Rheoli a Chyngor Gweithredol yr Ardal Forol ar gyfer cyngor o safbwynt y prosiect: marine.area.advice@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Edrychwch ar ein canllawiau morol ac arfordirol cyn cysylltu â ni.

Diweddarwyd ddiwethaf