Cyfrifo gollyngiadau o ffermydd dofednod a moch: esiamplau

Newid math o ddofednod neu'r nifer sy'n cael eu magu

Defnyddiwch y fformiwla hon i gyfrifo gollyngiad pan fo nifer a/neu'r math o anifail a fagwyd gennych wedi newid yn ystod y flwyddyn

((N x F) x M/12) + ((n x F) x M12) = allyriadau mewn kg

Ble:

N = nifer y da byw

n = nifer newydd y da byw

F = ffactor allyrru perthnasol

M = y misoedd sy'n gymwys

Esiampl

Mae gan fferm brwyliaid 50,000 o adar yn ystod pum mis cyntaf y flwyddyn a 100,000 yn ystod y saith mis sy'n weddill. Y ffactor allyrru amonia ar gyfer brwyliaid yw 0.034. Y cyfrifiad amonia fyddai:

((50,000 x 0.034) x 5/12) + ((100,000 x 0.034) x 7/12) = 2692kg

Gollyngiadau amonia o ddofednod

Lluoswch nifer yr adar gyda'r ffactor allyrru perthnasol

Esiampl 1 - Brwyliaid dofednod

50,000 o safleoedd brwyliaid x ffactor allyrru o 0.034 = gollyngiad o 1,700kg

Esiampl 2 – Dodwyr Dofednod (symud tail ddwywaith yr wythnos gyda belt cludo tail)

20,000 o safleoedd dodwyr x ffactor allyrru o 0.035 = 700kg

Os caiff tail ei storio ar y safle ar ôl ei symud o'r siediau, rhaid adrodd ar y gollyngiadau amonia o hyn hefyd

Felly, os caiff 17 tunnell o dail ei symud ar system felt,

17 x ffactor allyrru o 2.38 = 40.5kg

Cyfanswm y gollyngiad yn yr esiampl hon fyddai 700 + 40.5 = 740.5kg

Gollyngiadau llwch gronynnol o ddofednod

Lluoswch nifer yr adar gyda'r ffactor allyrru perthnasol

Esiampl 

Gosodiad gyda 50,000 o ddodwyr mewn cawelli

(50,000 x ffactor allyrru o 0.05) ÷ 3 = 833kg

Gollyngiadau methan o ddofednod

Lluoswch nifer yr adar gyda'r ffactor allyrru perthnasol

Esiampl 

50,000 o frwyliaid x ffactor allyrru ar gyfer rheolaeth tail dofednod o 0.078 = 3900kg

Newid y math o foch neu’r nifer a gaiff eu magu

Defnyddiwch y fformiwla hon i gyfrifo'r gollyngiadau pan fo nifer a/neu'r math o anifail a fagir gennych yn newid yn ystod y flwyddyn

((N x F) x M/12) + ((n x F) x M/12) = allyriadau mewn kg

Ble:

N = nifer y da byw

n = nifer newydd y da byw

F = ffactor allyrru perthnasol

M = y misoedd sy'n gymwys

Esiampl 

Mae gan osodiad 800 o hychod yn ystod pum mis cyntaf y flwyddyn a 1000 o hychod yn ystod y saith mis sy'n weddill. Y ffactor allyrru amonia ar gyfer hychod ar wellt yw 4.57.

Y cyfrifiad amonia fyddai:

((800 x 4.57) x 5/12) + ((1000 x 4.57) x 7/12) = 4189kg

Gollyngiadau amonia o foch

Esiampl - Siediau moch

Fferm a ddefnyddiodd lleoedd ar gyfer 800 o hychod a 1500 o lathrwyr ar wellt yn y flwyddyn galendr

(800 x ffactor allyrru o 4.57) + (1500 x ffactor allyrru o 2.97)

= cyfanswm gollyngiad o 8111kg

Os caiff tail neu slyri ei storio o fewn ffin y gosodiad, rhaid ychwanegu gollyngiadau o hyn at y gollyngiadau o’r siediau

Felly, ar gyfer lagŵn slyri 43m2 heb orchudd,

ychwanegwch (43 x ffactor allyrru o 1.4) = 60.2kg

Cyfanswm allyriad o siediau a storfa tail =  8111 + 60.2 = 8171.2kg

Gollyngiadau methan o foch

Bydd angen i chi adrodd ar fethan o'r moch eu hunain (eplesu enterig), ac o storfa tail.

Esiampl

Gosodiad gyda 800 o hychod

(800 x ffactor allyrru ar gyfer eplesu enterig o 1.5) = 1200kg

A

(800 x ffactor allyrru ar gyfer rheolaeth tail o 3) = 2400kg

Cyfanswm allyriad = 3600kg

Diweddarwyd ddiwethaf