Mae algâu gwyrddlas i’w cael yn naturiol mewn dyfroedd mewndirol, aberoedd a’r môr. Gall gordyfiant ddigwydd pan fo gormodedd ohonynt. Yma rydym yn disgrifio nodweddion arferol gordyfiant algâu gwyrddlas, sut y mae’n effeithio arnoch chi, a beth ddylech chi ei wneud os gwelwch chi achos ohono.

algâu gwyrddlas

Beth yw algâu gwyrddlas?

Mae amrywiaeth eang o algâu gwyrddlas (syanobacteria) yn y wlad hon. Mewn dyfroedd croyw, maen nhw i’w cael yn nofio yn y dŵr neu ynghlwm wrth greigiau ac arwynebau eraill. Maent yn cynnwys rhywogaethau un gell a rhywogaethau eraill y mae eu celloedd wedi’u trefnu’n grwpiau ac yn llinynnau. Allwch chi ddim gweld y celloedd a’r grwpiau a’r llinynnau unigol bob amser, ond pan ddônt at ei gilydd yn y dŵr maen nhw’n ddigon amlwg, ac yn debyg i fwndeli lledwyrdd, naddion gwyrdd neu ddotiau brownllyd.

Mae algâu gwyrddlas a grwpiau algâu eraill yn gwneud cyfraniad pwysig i fioleg ddyfrol dyfroedd croyw a morol. Nhw yw’r cynhyrchwyr sylfaenol sy’n:

  • cael egni o olau’r haul trwy broses ffotosynthesis
  • rhyddhau ocsigen a charbon deuocsid i’r dŵr
  • codi mwynau
  • cynhyrchu sylweddau sy’n cynnal cadwyni bwyd

Mae angen maetholion ar algâu gwyrddlas i dyfu. Mae’r rhain i’w cael ar wahanol ffurfiau mewn dŵr croyw ac mae’r algâu’n eu defnyddio’n uniongyrchol. Gall rhai rhywogaethau ddefnyddio nitrogen yn yr aer a gallant ffynnu’n haws na mathau eraill o ffytoplancton pan fydd cyfansoddion nitrogen yn y dŵr yn brin. Pan fo gormod o faetholion a gormod o blanhigion yn tyfu, ceir “gorfaethu.”

Adnabod gordyfiant a llysnafeddau

Lle bo lefel uchel o nitrogen a ffosfforws, digon o olau a chynhesrwydd, ac nid gormod o lif, gall niferoedd yr algâu gwyrddlas gynyddu’n arw, gan arwain at ordyfiant.

Gall y gordyfu effeithio er gwaeth ar olwg ac ansawdd y dŵr, a’r defnydd a wneir ohono. Gall droi’n wyrdd, yn wyrddlas neu’n frown lledwyrdd, a gall sawl rhywogaeth gynhyrchu arogleuon llwydni, pridd neu laswellt. Gall y gordyfu achosi i ewyn ffurfio ar y lan, sydd oherwydd ei liw a’i ddrewdod yn debyg iawn i garthion. Yn ystod gordyfiant, nid yw’r dŵr mor glir chwaith, gan rwystro golau’r haul ac atal planhigion eraill rhag tyfu.

Mae algâu gwyrddlas yn cynhyrchu’u bwyd yng ngolau dydd – gan ychwanegu ocsigen i’r dŵr - ond yn defnyddio ocsigen yn ystod y nos. Golyga hyn y gall lefelau’r ocsigen fod yn isel iawn yn gynnar yn y bore, a gall pysgod a chreaduriaid eraill fygu. Pan fo’r gordyfiant yn cilio, gall bacteria sy’n pydru’r gweddillion gymryd llawer iawn o’r ocsigen o’r dŵr.

Ar dywydd braf, llonydd gall algâu godi i wyneb y dŵr yn un talp o lysnafedd tebyg i baent, jeli neu sego. Mae’i liw yn amrywio yn ôl rhywogaeth, maetholion, nerth y goleuni ac oed y gordyfiant. Gall fod yn wyrddlas, yn llwydwyrdd, yn frown lledwyrdd neu weithiau’n frown cochlyd.

Mae hyd oes llysnafeddau hefyd yn dibynnu ar ba rywogaethau sy’n bresennol. Mae rhai’n ffurfio’n gyflym ar ddiwrnodau tawel, ond yn gwasgaru’n gyflym os yw’r gwynt a’r tonnau’n cynyddu.

Sut all algâu gwyrddlas effeithio arnoch chi?

Mae algâu gwyrddlas sy’n ffurfio gordyfiant a llysnafedd yn gallu cynhyrchu tocsinau. Enw gordyfiant sy’n cynhyrchu tocsinau yw Gordyfiant Algâu Niweidiol. Gall y tocsinau hyn ladd anifeiliaid gwyllt, da byw ffermydd ac anifeiliaid anwes. Gall godi brech ar groen pobl sy’n ei gyffwrdd, a’u gwneud yn sâl os caiff ei lyncu. Nid yw pob gordyfiant a llysnafedd algâu gwyrddlas yn wenwynig, ond allwch chi ddim barnu hynny wrth edrych arnyn nhw. Felly mae’n well tybio eu bod yn wenwynig.

Beth allwch chi ei wneud?

Os gwelwch ordyfiant neu lysnafedd algâu gwyrddlas, rhoddwch wybod inni ar ein llinell frys: 0300 065 3000 (24 awr).

Mae gordyfiant a llysnafeddau algâu gwyrddlas yn digwydd yn flynyddol mewn rhai dyfroedd, a hynny’n naturiol. Gellir rheoli’r algâu drwy newidiadau o ran rheoli dŵr, fel:

  • newid cylchrediad y dŵr
  • creu mwy o gysgod
  • lleihau faint o faetholion a roddir yn y dŵr
  • tynnu maetholion

Gallwn roi cyngor i chi ynglŷn ag atal gordyfu, ei gadw o dan reolaeth, a’i reoli yn y tymor hir.

Beth rydych chi’n gyfrifol amdano

Rhaid i chi ystyried sut mae eich dŵr yn cael ei ddefnyddio, ac asesu’r bygythiad i bobl ac anifeiliaid os ydynt yn dod i gysylltiad â gordyfiant neu lysnafedd algâu gwyrddlas. Chi sy’n gyfrifol am:

  • reoli gollyngiadau o’ch safle chi
  • os oes modd, rhybuddio defnyddwyr
  • codi arwyddion a chyfyngu mynediad

Os yw gordyfiant yn digwydd mewn ardal ddyfrol neu ar draeth sy’n eiddo i Awdurdod Lleol, eu cyfrifoldeb nhw yw cymryd y camau uchod.

Rhybudd

Mae pobl sydd wedi llyncu neu nofio trwy lysnafedd algâu wedi dioddef o frechau ar y croen, llygaid coslyd, cyfogi, dolur rhydd, twymyn, a phoen yn y cyhyrau a’r cymalau.

Nid yw’r rhain wedi arwain at effeithiau tymor hir na marwolaeth, ond, mewn rhai achosion, roedd y salwch yn ddifrifol.

Er nad yw llysnafedd algâu bob amser yn niweidiol, dylech osgoi cyffwrdd â’r llysnafedd a’r dŵr gerllaw. Mae’r gwenwyn y mae’r algâu’n ei gynhyrchu yn effeithio ar anifeiliaid hefyd, gan achosi salwch difrifol a marwolaeth. Dylai ffermwyr a pherchnogion anifeiliaid anwes gadw eu hanifeiliaid draw o ddyfroedd sydd wedi’u heffeithio.

Peidiwch â’i anwybyddu, rhowch wybod amdano! I roi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol, ffoniwch ein llinell frys ar 0300 065 3000 (24 awr).

Diweddarwyd ddiwethaf