Visit Wales photo hub

Dysgu yn ein hamgylchedd naturiol, dysgu amdano a dysgu ar ei gyfer

Hanes y Cod Cefn Gwlad

Mae’r adnoddau hyn a’r syniadau am weithgareddau yn rhannu gwybodaeth am sut a pham y daeth y Cod Cefn Gwlad i fodolaeth ac maent yn esbonio sut mae wedi esblygu dros amser.

Deall y Cod Cefn Gwlad

Mae’r adnodd hwn yn rhannu nifer o syniadau i annog eich dysgwyr i ystyried diben y Cod Cefn Gwlad, ynghyd â’u barn eu hunain am gefn gwlad a thrafod sut gallai’r Cod Cefn Gwlad edrych yn y dyfodol.

Cerdded gyda chŵn yng nghefn gwlad

Adnodd gwych i gynorthwyo dadl, mae’r nodyn gwybodaeth hwn yn rhannu gwybodaeth am sut i ofalu am gŵn wrth fynd â nhw am dro yng nghefn gwlad a sut i barchu defnyddwyr eraill a’r tir maen nhw’n cerdded arno.

Rhagor o wybodaeth am y Cod Cefn Gwlad

Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i ddiogelu ein cefn gwlad a'n mannau agored ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Mae cyngor ar gael i ymwelwyr, rheolwyr tir a defnyddwyr llwybrau ar wefan Teulur cod cefn gwlad.

Neu efallai hoffech chi a’ch dysgwyr edrych ar y fideos sydd wedi’u rhannu ar ein Rhestr Chwarae Cod Cefn Gwlad ar YouTube.

Ddim yn siŵr ble i fynd?

Archwiliwch ein coetiroedd, gwarchodfeydd natur, llwybrau a thir mynediad agored. Mae ein tudalennau gwe lleoedd i ymweld â hwy yn caniatáu i chi chwilio yn ôl mannau i fynd iddynt neu weithgareddau i'w gwneud.

Cysylltwch â ni

Os nad ydych yn gallu dod o hyd i beth rydych yn chwilio amdano, neu os hoffech help neu wybodaeth bellach, cysylltwch â ni yn:

E-bost: addysg@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Ffôn: 0300 065 3000

Mannau eraill yng Adnoddau dysgu - chwiliwch yn ôl pwnc

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf