Datganiad hygyrchedd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru eisiau gwneud ei wefan...
Mae hyn yn rhan o'r llawlyfr cynnwys a chyhoeddi.
Mae'r cynnig hwn yn cael ei adolygu a'i ddiweddaru'n rheolaidd.
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 Chwefror 2023.
Mae angen cyhoeddi cynnwys mewn ffordd sy'n ei gwneud hi'n hawdd i ddefnyddwyr ddod o hyd iddo.
Mae defnyddwyr yn dod i'n gwefan gyda thasg benodol mewn golwg. Maent am ei wneud mor gyflym ac mor hawdd â phosibl.
Gall ein mathau o gynnwys ein helpu i benderfynu:
Mae canllawiau'n helpu defnyddwyr i gwblhau tasg; p'un ai i ddarganfod rhywbeth, dweud rhywbeth wrthym, neu wneud cais am rywbeth.
Mae defnyddwyr yn dod i'n gwefan gyda thasg benodol mewn golwg, er enghraifft:
Bydd pobl yn gallu dod o hyd i'n cynnwys a'n gwasanaethau, eu deall, a'u defnyddio os yw’r cynnwys a’r gwasanaethau hynny wedi'u datblygu o amgylch tasgau defnyddwyr.
Dylunwyr cynnwys sy’n gyfrifol am sut mae cynnwys yn cael ei ysgrifennu a'i strwythuro. Ac arbenigwyr pwnc sy’n gyfrifol am y ffeithiau.
Rhaid i angen defnyddiwr â thystiolaeth fod yn sail i bob cynnwys.
Bydd cynnwys yn cael ei ysgrifennu yn unol â'r canllaw arddul a chanllawiau ysgrifennu ar gyfer y we.
Cysylltwch â'r tîm digidol cyn gynted ag y byddwch chi'n credu bod angen cynnwys newydd neu ddiwygiedig ar ddefnyddwyr.
Rydym yn cyhoeddi papurau bwrdd a chofnodion ar ein gwefan. Rydym hefyd yn cyhoeddi nodiadau o gyfarfodydd sawl fforwm CNC.
I greu papurau y gallwn eu cyhoeddi:
Anfonwch eich dogfennau hygyrch at y tîm digidol gan ddefnyddio'r ffurflen cais am gynnwys.
Gall strategaethau, cynlluniau, polisïau ac adroddiadau corfforaethol:
Dyma ambell enghraifft:
Bydd yr holl strategaethau, cynlluniau, polisïau ac adroddiadau yn cael eu cyhoeddi fel cynnwys gwe.
Dylai'r cynnwys ddilyn ein canllaw arddull a'n canllawiau ysgrifennu ar gyfer y we. Darllenwch y rhain i ddarganfod sut i ysgrifennu eich teitl, crynodeb, a’r prif destun.
Cofiwch ddefnyddio ffurf brawddeg (Sentence case) ar gyfer teitlau tudalennau a rhowch y dyddiad yn y teitl os yw’r dudalen yn rhan o gyfres sydd â’r un teitl, er enghraifft:
Adroddiad Blynyddol 2022
Adroddiad Blynyddol 2021
Adroddiad Blynyddol 2020
Rydym yn cyhoeddi ymgynghoriadau a hysbysiadau cyhoeddus ar Citizen Space a'n gwefan.
Cyhoeddir y rhan fwyaf o ymgynghoriadau ar Citizen Space, gan gynnwys:
Rydym yn cyhoeddi'r canlynol ar ein gwefan:
Rhaid dylunio ymgynghoriadau gyda chynulleidfa ddigidol ac ymatebion digidol mewn golwg.
Peidiwch â chreu ymgynghoriadau i'w hargraffu ac yna ceisio gwasgu hynny i sefyllfa ddigidol.
Mae hyn yn golygu:
Os oes rhaid i chi gynnwys dogfennau, gwnewch yn siŵr eu bod yn rhai hygyrch.
Cofiwch weithio gyda'ch partner cyfathrebu ar unrhyw ymgynghoriadau ar Citizen Space.
Caiff ymgynghoriadau a hysbysiadau cyhoeddus eu cyhoeddi yn 'trwyddedau a chaniatadau'.
Rhaid i adroddiadau tystiolaeth a gyhoeddir gennym fod yn hygyrch p'un a ydynt yn cael eu cynhyrchu gennym ni, neu’n cael eu comisiynu gennym ni a'u cynhyrchu gan eraill.
Dylai crëwyr dogfennau ddilyn ein:
Mae blogio yn ei gwneud hi'n haws inni siarad am ein gwaith, rhannu gwybodaeth, a chysylltu â phobl sydd â diddordeb.
Gall eich helpu i godi ymwybyddiaeth o wasanaethau presennol, a rhai newydd, gall dynnu sylw at lwyddiannau a’r hyn ry’n ni’n ei ddysgu, a gall ysgogi sgyrsiau gyda'r cyhoedd.
Defnyddiwch flogiau ar gyfer:
Dylai'r holl gynnwys ar ein gwefan ddilyn ein canllaw ysgrifennu ar gyfer y we a'r canllaw arddull.
Mae blogio yn cynnig ffordd bersonol o ymgysylltu â phobl. Cânt eu hysgrifennu gan awdur sydd wedi’i enwi - gan wneud i’r sefydliad deimlo’n agosach at y cyhoedd. Mae’r elfen bersonol hon yn ychwanegu hygrededd ac ymdeimlad o fod yn agored.
Mae hyn yn golygu y dylech ysgrifennu fel ry’ch chi’n siarad. Ysgrifennu fel unigolyn, nid fel sefydliad neu dîm amhersonol.
Dylech ddilyn y canllaw arddull - ond nid yw hyn yn golygu na allwch fod yn gynnes, yn onest neu’n bersonol. Mae’r pethau hyn yn bwysig.
Fe ddylai blogiau sbarduno sgyrsiau. Mae hyn yn golygu bod yn atebol am y pethau rydych chi'n eu hysgrifennu a gweithio gyda'r tîm cyfathrebu i ymateb i unrhyw sylwadau.
Bydd hyn yn helpu i wella profiad ein defnyddwyr ac yn ein helpu i ddysgu mwy amdanyn nhw.
Ar ôl i chi ysgrifennu blog, darllenwch e’n uchel i wneud yn siŵr ei fod wedi'i ysgrifennu mewn arddull reit lafar. Pan fyddwch chi'n hapus, gofynnwch i rywun arall ei ddarllen.
Dylai fod gan eich blog deitl sy'n dweud wrth ddarllenwyr beth yw pwrpas y postiad, gan eu denu i'w ddarllen.
Torrwch y testun i fyny gyda pharagraffau, penawdau, delweddau a phwyntiau bwled i wneud y blog yn haws i'w ddarllen ar sgrin. Dylai paragraffau ddim bod yn fwy na rhyw 5 llinell o hyd er mwyn bod yn hawdd i'w darllen.
Dylai fod gan bob blog o leiaf un llun. Dylai lluniau:
Os ydych yn defnyddio dolenni, gwnewch yn siŵr eu bod wedi'u hymgorffori yn y testun. Ceisiwch osgoi testun cyswllt sy'n dweud 'Cliciwch yma' - ceisiwch eirio testun y ddolen mewn ffordd y bydd defnyddwyr yn gwybod i ba wefan y byddant yn mynd drwy glicio ar y ddolen.
Ar ddiwedd eich blog, meddyliwch am eich ‘galwad i weithredu’. Gallai hyn, er enghraifft, ofyn i'ch cynulleidfa:
Anfonwch eich ffurflen wedi'i chwblhau a'ch lluniau at y tîm cyfathrebu.
Awdur:
Teitl y Blog:
Cynnwys y blog:
Crynodeb i gloi neu alwad i weithredu:
Disgrifiad o'r lluniau a manylion unrhyw un y mae angen i ni roi credyd iddynt:
Dylai'r cynnwys ddilyn ein canllaw arddull a'n canllawiau ysgrifennu ar gyfer y we.
Rhaid i deitlau tudalennau wneud synnwyr. Dylai'r teitl ddarparu cyd-destun llawn fel y gall defnyddiwr ddweud yn hawdd a yw wedi dod o hyd i'r hyn y mae'n chwilio amdano.
Mae 'Llifogydd Llanelwy 2012: adnoddau addysgol'
yn well na
‘Llanelwy’
Dyma'r testun a fydd yn ymddangos o dan ddolen y dudalen mewn canlyniad chwiliad mewnol. Efallai y bydd yn ymddangos mewn canlyniad Google os ydym yn ei ddefnyddio fel y disgrifiad meta hefyd.
Defnyddiwch hwn i helpu'r defnyddiwr i benderfynu a ddylai glicio ar y ddolen a gweld y dudalen gyfan.
Un frawddeg yw’r is-deitl a rhaid iddi fod o dan 160 nod.
Rhaid i ddelweddau a fideos fod yn hygyrch. Ar gyfer delweddau dilynwch y canllawiau a nodir yn ein canllaw dogfennau hygyrch. Mae gan y Web Accessibility Initiative (WAI) ganllaw defnyddiol ar gyfer gwneud cyfryngau sain a fideo yn hygyrch.
Mae gwybodaeth am swyddi gwag, prentisiaethau, lleoliadau gwaith, profiad gwaith a gwirfoddoli yn cael eu cyhoeddi yn 'Amdanom ni'.
Mae swyddi gwag yn cael eu cyhoeddi a'u dileu gan y tîm recriwtio.
Mae cyfleoedd eraill, fel prentisiaethau a chyfleoedd gwirfoddoli, yn cael eu cyhoeddi gan y tîm digidol.
Rydym yn dilyn y canllaw arddull a chanllawiau ar ysgrifennu ar gyfer y we gan gynnwys:
Dyma'r testun a fydd yn ymddangos mewn canlyniad chwiliad mewnol o dan ddolen y dudalen. Efallai y bydd yn ymddangos mewn canlyniad Google os ydym yn ei ddefnyddio fel y disgrifiad meta hefyd.
Defnyddiwch hwn i helpu'r defnyddiwr i benderfynu a ddylai glicio ar y ddolen a gweld y dudalen gyfan.
Mae'r is-deitl yn un frawddeg ac o dan 160 nod.