Beth i'w wneud mewn llifogydd

Cadwch draw oddi wrth ddŵr llifogydd - mae'n beryglus a gall fod wedi'i halogi

 

Mewn argyfwng ffoniwch 999

Gwiriwch rybuddion llifogydd a lefelau afonydd

Gwiriwch ein map llifogydd byw am y wybodaeth ddiweddaraf neu ffoniwch Rybuddion Llifogydd ar 0345 988 1188.

Lefelau afonydd, glawiad a data môr.

Beth i'w wneud os yw'r eiddo ar fin gorlifo

  • Mynnwch eich pecyn llifogydd.
  • Paratowch i symud eich teulu a’ch anifeiliaid anwes i le diogel.
  • Symudwch eitemau pwysig, sentimental a gwerthfawr i le uwch. 
  • Symudwch neu rhowch bwysau ar unrhyw eitemau mawr neu rydd y tu allan neu yn eich gardd.
  • Rhowch giatiau llifogydd ac offer amddiffyn arall yn eu lle.
  • Diffoddwch nwy, trydan a dŵr. 
  • Peidiwch â chyffwrdd â phlygiau a ffynonellau trydan eraill wrth sefyll mewn dŵr llifogydd.
  • Symudwch eich car i dir uwch neu y tu hwnt i'r ardal perygl llifogydd.

Helpwch i atal dŵr rhag mynd i mewn i'ch eiddo

  • ceisiwch atal dŵr rhag mynd i mewn trwy ddrysau a ffenestri gyda chasys gobennydd neu fagiau plastig wedi'u llenwi â phridd neu wrthrychau trwm eraill.
  • gorchuddiwch friciau aer a fentiau.
  • blociwch sinciau, baddonau a thoiledau a rhowch wrthrychau trwm ar eu pennau.
  • blociwch bibellau mewnfa ddŵr gyda thywelion neu gadachau.
  • tynnwch blwg peiriannau golchi a pheiriannau golchi llestri a'u datgysylltu o'r cyflenwad dŵr.

Lleihau’r difrod os daw dŵr i mewn i'ch eiddo

  • symudwch rygiau ac eitemau ysgafn o ddodrefn.
  • taflwch lenni dros y rheilen y tu hwnt i gyrraedd llifddwr.
  • codwch eitemau na allwch eu symud gyda brics neu baled a gorchuddio'r gwaelod gyda phlastig. 

Beth i'w wneud os cewch rybudd llifogydd

Llifogydd: byddwch yn barod. Mae llifogydd yn bosibl.

Rhybudd Llifogydd. Angen gweithredu ar unwaith.

  • symudwch deulu, anifeiliaid anwes, a phethau gwerthfawr i le diogel
  • diffoddwch gyflenwadau nwy, trydan a dŵr os yw'n ddiogel i wneud hynny
  • gosodwch offer amddiffyn rhag llifogydd

Rhybudd Llifogydd Difrifol. Perygl i fywyd.

  • arhoswch mewn lle diogel gyda ffordd o ddianc
  • byddwch yn barod i adael eich cartref
  • cydweithredwch â’r gwasanaethau brys
  • ffoniwch 999 os ydych mewn perygl di-oed

Ein gwasanaeth rhybuddion llifogydd

Mae ein gwasanaeth rhybuddio yn cynnwys tua 60% o’r eiddo sydd mewn perygl o lifogydd o brif afonydd neu’r môr yng Nghymru, ac rydym yn gweithio’n barhaus i ymestyn y gwasanaeth hwn.

Efallai y byddwch hefyd mewn perygl o lifogydd o ffynonellau eraill nad ydym yn rhybuddio amdanynt:

  • dŵr wyneb
  • cyrsiau dŵr bach

Gall y mathau hyn o lifogydd ddigwydd yn gyflym iawn ac maent yn aml yn lleol iawn, sy'n golygu nad oes amser i gyhoeddi negeseuon rhybudd ymlaen llaw.

Edrychwch sut rydym yn rhagweld llifogydd ac yn rhoi rhybuddion.

Symudwch i le diogel

  • Symudwch i ystafell i fyny'r grisiau gyda ffenestr. Gallwch ddefnyddio hwn fel llwybr dianc os bydd y gwasanaethau brys yn dweud wrthych am adael.
  • Chwiliwch am le diogel os nad oes gennych chi le i fyny'r grisiau. Efallai y bydd yn rhaid i chi adael eich cartref os yw'n ddiogel gwneud hynny.
  • Cysylltwch â'ch awdurdod lleol i'ch helpu gyda llety brys.

Adrodd am lifogydd

Edrychwch bwy i gysylltu â nhw os ydych am roi gwybod am broblem gyda llifogydd.

Problemau gyda nwy, trydan neu garthffosiaeth

Ar gyfer llifogydd carthffos, neu os yw eich toiled neu sinc yn llifo’n ôl yn ystod llifogydd, ffoniwch eich cwmni dŵr lleol.

I roi gwybod am argyfwng nwy neu garbon monocsid, ffoniwch 0800 111 999.

Ffoniwch 105 i roi gwybod i'ch cyflenwr trydan am doriadau trydan.

Adroddwch am anifeiliaid mewn perygl neu drallod

Ffoniwch rif argyfwng yr RSPCA: 0300 1234 999.

Peidiwch â rhoi eich bywyd chi neu fywyd rhywun arall mewn perygl i achub anifail.

Bagiau Tywod

Nid ydym yn darparu bagiau tywod. Dysgwch sut i baratoi ar gyfer llifogydd a dewiswch y cynnyrch gorau i amddiffyn eich eiddo.

Os oes angen bagiau tywod, cysylltwch â’ch awdurdod lleol. Efallai bydd ganddynt rai bagiau tywod i’w defnyddio yn ystod llifogydd. Os nad ydynt yn darparu bagiau tywod, gallwch brynu rhai o siopau DIY a chyflenwyr adeiladwyr.

Beth i'w wneud os bydd yn rhaid i chi adael eich cartref

Gwrandewch ar gyngor gan y gwasanaethau brys a gadael pan ofynnir i chi wneud hynny. Bydd angen i chi ddweud wrthynt os ydych yn hunan-ynysu oherwydd COVID-19.

Byddwch yn cael eich cludo i ganolfan gwacáu a redir gan eich awdurdod lleol. Darperir bwyd a dillad gwely am ddim ond bydd angen dillad sbâr, meddyginiaeth hanfodol ac eitemau gofal babanod os oes gennych faban.

Bydd y rhan fwyaf o ganolfannau gwacáu yn gadael i chi ddod â'ch anifeiliaid anwes. Dylech fynd â bwyd anifeiliaid anwes a chofiwch roi cathod ac anifeiliaid bach mewn cludwr anifeiliaid anwes neu flwch diogel.

Gwybodaeth deithio

  • mynnwch ddiweddariadau traffig o wefan Traffig Cymru
  • gwiriwch Traveline Cymru i wirio trafnidiaeth gyhoeddus
  • gwiriwch grwpiau Facebook lleol
  • tiwniwch i mewn i'ch gorsaf radio leol 
  • dilynwch gyngor gan eich awdurdod lleol 

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf