Mae ein map rhybuddion llifogydd yn dangos y cyrsiau dŵr sy'n cael eu diffinio fel prif afonydd yng Nghymru.

Gan gynnwys unrhyw adeiladwaith neu declyn ar gyfer rheoli neu reoleiddio llif y dŵr mewn prif afon, neu i mewn neu allan o brif afon. 

Fel arfer, afonydd a nentydd mwy yw'r prif afonydd, ond maen nhw hefyd yn cynnwys rhai cyrsiau dŵr llai. Yng Nghymru, mae'r prif afonydd yn cael eu dynodi'n gyfreithiol gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Os byddwch am wneud gwaith mewn prif afon, drosti, oddi tani neu yn ei hymyl, neu mewn gorlifdir neu amddiffynfa rhag llifogydd (yn cynnwys amddiffynfa fôr), bydd angen i chi wneud cais am Drwydded Gweithgarwch Perygl Llifogydd.

Canfyddwch sut i wneud cais am drwydded gweithgarwch perygl llifogydd i weithio ar brif afon

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud gwaith cynnal a chadw, gwella neu adeiladu ar brif afonydd yng Nghymru er mwyn rheoli perygl llifogydd.

Gelwir pob cwrs dŵr agored arall yng Nghymru yn 'gwrs dŵr cyffredin' (mae’r ddolen ar gael yn Saesneg yn unig). Mae eich awdurdod lleol (sef yr awdurdod llifogydd lleol arweiniol) neu Cyfoeth Naturiol Cymru (sef y bwrdd draenio mewnol) yn gwneud gwaith cynnal a chadw, gwella neu adeiladu ar gyrsiau dŵr cyffredin yng Nghymru i reoli draenio tir. 

Os ydych yn berchen ar dir neu eiddo wrth ochr unrhyw afon, bydd gennych gyfrifoldebau fel perchennog eiddo ar lan afon. 

Canfyddwch ragor

Os hoffech ddeall rhagor am ddynodiadau prif afonydd, neu drafod newidiadau posibl i’r map prif afonydd, cysylltwch â ni.

Diweddarwyd ddiwethaf