Pa waith mae CNC yn ei wneud yn fy rhanbarth i?

Ein rôl mewn rhanbarthau draenio

Prif rôl Cyfoeth Naturiol Cymru mewn rhanbarthau draenio yw rheoli lefel y dŵr a lleihau perygl llifogydd drwy reoli a chynnal a chadw sianeli draenio, cyrsiau dŵr cyffredin, gorsafoedd pwmpio a strwythurau rheoli.

Mae gwaith sy’n cael ei wneud mewn rhanbarthau draenio’n helpu i gynnal a diogelu gweithgareddau sy’n gysylltiedig â’r canlynol:

  • Amaethyddiaeth a’r amgylchedd
  • Hamdden ac addysg
  • Pobl a chymunedau
  • Asedau diwydiannol a masnachol
  • Cyfleustodau a thrafnidiaeth

Gwelliannau drwy waith cynnal a chadw

Mae gwaith cynnal a chadw rheolaidd yn cael ei wneud yn flynyddol fel arfer, os oes cyfiawnhad ariannol dros ymyrryd. Byddwn yn ymgynghori â’n timau pysgodfeydd, hamdden, bioamrywiaeth a chadwraeth ac â’r Grwpiau Cynghori ar Ranbarthau Draenio cyn cytuno ar y rhaglen. Mae hyn yn sicrhau bod yr amgylchedd naturiol yn cael ei gynnal a’i gadw ac, os oes modd, yn cael ei wella o ganlyniad i’n gwaith cynnal a chadw.

Rheoli cyrsiau dŵr

Mae unrhyw arian sy’n cael ei godi mewn rhanbarth draenio’n cael ei wario ar gynnal a chadw a rheoli ein cyrsiau dŵr a strwythurau cysylltiedig. Rydyn ni’n canolbwyntio ar weithgareddau sy’n ein helpu i reoli draeniad tir, lefel y dŵr a pherygl llifogydd. Mae ein gweithgareddau cynnal a chadw’n cael eu gwneud yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru, a byddwn yn sicrhau bod cyfiawnhad ariannol ac amgylcheddol dros ymyrryd.

Darllenwch fan hyn ein hadolygiad o daliadau praeseptau - i ganfod ateb cynaliadwy i ariannu yn y dyfodol.

Enghreifftiau o’n gwaith

Mae’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yn cynnwys:

  • Rheoli chwyn dŵr mewn sianeli draenio
  • Clirio llaid a gro o sianeli draenio
  • Cynnal a chadw gorsafoedd pwmpio a strwythurau rheoli dŵr
  • Clirio griliau a symud rhwystrau sy’n atal llif y dŵr mewn sianeli draenio

Darganfod pa waith sy’n cael ei gynllunio yn eich rhanbarth chi

Mae’r rhaglenni cynnal a chadw ar gyfer pob rhanbarth yn cynnwys gweithgareddau amrywiol sy’n cael eu gwneud yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn. 

Rydyn ni’n gwneud ein gorau i gadw at ein rhaglen gynnal a chadw, ond gallai tywydd drwg, llifogydd, prinder adnoddau neu ddigwyddiadau amgylcheddol effeithio ar union amseriad gweithgaredd cynnal a chadw penodol. Gallai hyn olygu nad yw’r gwaith yn cael ei gwblhau yn unol â’r amserlen.

Diweddarwyd ddiwethaf