Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio / Map Cyngor Datblygu
Gwaith cynnal a chadw ar y wefan
4 Gorffennaf 2022 – Efallai fydd ein Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio ddim yn dangos yn iawn tra ein bod yn gweithio ar waith cynnal a chadw pwysig. Gallwch weld y Parthau Llifogydd a’r Parthau a amddiffynnir TAN15 ar Data Map Cymru.
Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra
Map Cyngor Datblygu
Y Map Cyngor Datblygu a pholisi cynllunio cysylltiedig Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 15: Datblygu a Pherygl Llifogydd yw'r fframwaith presennol ar gyfer asesu pergyl llifogydd ar ddatblygiadau newydd ac oddi wrthynt.
Mae'r Map Cyngor Datblygu yn offeryn sgrinio i awdurdodau lleol er mwyn deall lle y gallai fod angen asesiad pellach o lifogydd.
(Cliciwch fotwm dde eich llygoden ar y botwm uchod i'w agor mewn tab newydd)
Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio
Bydd Nodyn Cyngor Technegol 15 yn cael ei weithredu ym Mehefin 2023. Bydd y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio yn cefnogi hwn. Mae'r map yn cynnwys gwybodaeth am newid hinsawdd i ddangos sut bydd hyn yn effeithio ar yr ardaloedd sydd mewn pergyl o lifogydd dros y ganrif nesaf. Mae'n dangos yr ardaloedd all gael eu heffeithio gan lifogydd, heb ystyried effaith amddiffynfeydd.
Does gan y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio ddim statws swyddogol ar gyfer dibenion cynllunio tan Fehefin 2023. Fodd bynnag, bydd rhaid i awdurdodau lleol adolygu eu Hasesiadau Goblygiadau Llifogydd Strategol erbyn Tachwedd 2022, yn unol â'r TAN15 a'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio.
Gall Cyfoeth Naturiol Cymru ddefnyddio'r data hefyd fel y 'wybodaeth orau sydd ar gael' ar risg llifogydd er mwyn hysbysu ein cyngor cynllunio.
Mae mwy o wybodaeth ar weithrediad ffurfiol Nodyn Cyngor Technegol 15 a'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio yn Natganiad Ysgrifenedig Llywodraeth Cymru.
Mae dwy olyfga gan y map:
- Sylfaenol - mae hwn yn cynnwys digon o ddata ar gyfer sgrinio lefel uchel yn erbyn Nodyn Cyngor Technegol 15
- Manwl - mae hwn yn cynnwys manylion ychwanegol a all gael eu defnyddio ar gyfer Asesiadau Canlyniadau Llifogydd
(Cliciwch fotwm dde eich llygoden ar y botwm uchod i'w agor mewn tab newydd)
Gweler ein Map Asesu Pergyl Llifogydd Cymru ar gyfer y risg presennol, sy'n ystyried effaith amddiffynfeydd presennol. Does gan y map hwn ddim statws swyddogol ar gyfer dibenion cynllunio, gan nad yw'n ystyried effaith newid hinsawdd yn y dyfodol. Gyda'i gilydd mae'r ddau fap yn ffurfio Map Llifogydd Cymru.
Beth mae'r haenau map yn ei feddwl?
Mae gan y Map Llifogydd ar gyfer Cyllunio yr haenau canlynol sy'n dangos ystod posibl llifogydd, gan gymryd bod dim amddiffynfeydd rhag llifogydd yn bodoli:
Afonydd - Parth Llifogydd 2
Ardaloedd gyda 0.1% i 1% (1 mewn 1000 i 1 mewn 100) o gyfle llifogydd o afonydd mewn unrhyw flwyddyn, gan gynnwys effeithio newid hinsawdd.
Afonydd - Parth Llifogydd 3
Ardaloedd gyda mwy na 1% (1 mewn 100) o gyfle llifogydd o afonydd mewn unrhyw flwyddyn, gan gynnwys effeithiau newid hinsawdd.
Afonydd a Môr - Parth Llifogydd 2
Risg 0.1% o haenau Parth Llifogydd Afonydd a Môr gyda'i gilydd.
Afonydd a Môr - Parth Llifogydd 3
Risg 1% o haenau Parth Llifogydd Afonydd a Môr gyda'i gilydd.
Môr - Parth Llifogydd 2
Ardaloedd gyda 0.1% i 0.5% (1 mewn 1000 i 1 mewn 200) o gyfle llifogydd o'r môr mewn unrhyw flwyddyn, gan gynnwys effeithiau newid hinsawdd.
Môr - Parth Llifogydd 3
Dŵr Wyneb a Chyrsiau Dŵr Bach - Parth Llifogydd 2
Ardaloedd gyda 0.1% i 1% (1 mewn 1000 i 1 mewn 100) o gyfle llifogydd o ddŵr wyneb a/neu gyrsiau dŵr bach mewn unrhyw flwyddyn, gan gynnwys effeithiau newid hinsawdd.
Dŵr Wyneb a Chyrsiau Dŵr Bach - Parth Llifogydd 3
Ardaloedd gyda mwy na 1% (1 mewn 100) o gyfle llifogydd o ddŵr wyneb a/neu gyrsiau dŵr bach mewn unrhyw flwyddyn, gan gynnwys effeithiau newid hinsawdd.
Parthau Amddiffynol TAN15
Ardal sy'n elwa o amddiffynfeydd llifogydd Awdurdodau Rheoli Risg gydag isafswm Safon Diogelu:
- 1 mewn 100 mlynedd (amser presennol) ar gyfer afonydd
- 1 mewn 200 mlynedd (amser presennol) ar gyfer y môr
Ar gyfer amddiffynfeydd a adeiladwyd o 2016, rhaid cael lwfans ar gyfer newid hinsawdd a bwrdd rhydd dylunio.
Llifogydd hanesyddol
Ardaloedd lle mae llifogydd wedi'u cofnodi.
Lleoliadau amddiffynfeydd llifogydd
Mwy o wybodaeth am leoliad a safon diogelu amddiffynfeydd llifogydd ffurfiol.
Risg llifogydd o gronfeydd
Mwy o wybodaeth am risg llifogydd o gronfeydd.
Prif afonydd
Mwy o wybodaeth am brif afonydd. Os ydy cynnig cynllunio wrth ymyl prif afon, efallai bod rhaid i chi gael trwydded, yn ychwanegol i ganiatâd cynllunio.
Rheolwr Model Lleol CNC
Ardaloedd lle mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru fodelau llifogydd lleol manwl, sy'n gallu bod yn ddefnyddiol i hysbysu asesiad canlyniadau llifogydd i gefnogi cais cynllunio. Cysylltwch â datadistribution@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i ofyn am fynediad at y data hyn.
Cynlluniau Rheoli'r Traethlin ac erydu arfordirol
Mwy o wybodaeth am Gynlluniau Rheoli'r Traethlin ac erydu arfordirol. Rhaid i chi ystyried y cynlluniau hyn ar gyfer ceisiau datblygu arfordirol. Mae cyfraddau erydu ar y map ar gyfer cyfnodau byr, canolig a thymor hwy. Mae'r rhain ar sail 'cyfraddau hyder' (o 5%, 50% a 95%) ac yn dilyn polisiau cyfredol y Cynllun Rheoli'r Traethlin.
Herio ein mapiau llifogydd
Dysgwch fwy am ein gwybodaeth risg llifogydd, gan gynnwys canllawiau ar:
Datblygu eich modelau hydrolig eich hunain
Modelu ar gyfer Asesiadau Canlyniadau Llifogydd
Diweddaru'r map
Rydym yn diweddaru’r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio ar ran Llywodraeth Cymru bob blwyddyn ar yr adegau canlynol:
- diwedd mis Mai
- diwedd mis Tachwedd
Rydym y rhestru’r diweddariadau hyn isod ond yn cynnwys newidiadau i’r canlynol yn unig:
- Parthau Llifogydd o Afonydd
- Parthau Llifogydd o’r Môr
- Parthau Llifogydd o Afonydd a’r Môr
- Parthau a Amddiffynnir TAN15
Cysylltwch â ni ynglŷn â diweddariadau i haenau eraill yn yr ardaloedd isod.
Diweddariad Mai 2022
Cyhoeddwyd ar 30 Mai 2022.
Mae llyfrau mapiau PDF yn dangos manylion y newidiadau. Mae'r mapiau hyn yn dangos y gwahaniaethau o ran maint llifogydd rhwng cyhoeddiad Mawrth 2022 a Mai 2022.
Diweddariadau i Barthau a Amddiffynnir TAN15:
- Parth a Amddiffynnir TAN15 Morol newydd ar gyfer Aberaeron.
- Cafwyd gwared â Pharth a Amddiffynnir TAN15 Morol yn Marshes, Casnewydd.
Diweddariadau i Barthau Llifogydd o Afonydd:
- Afon Daron yn Aberdaron
- Afon Cresswell yn Begeli
- Afon Hoddnant yn Nhrebefered
- Afon Gwy yn Llanfair-ym-Muallt
- Afon Tywi yng Nghaerfyrddin
- Nant y Glasdwr yng Nghwm-ffrwd
- Afon Gïedd yng Nghwmgïedd
- Afon Tawe yn Nghwm-twrch
- Afon Rhythallt yng Nghwm y Glo
- Afon Aman yng Nglanaman
- Afon Cleddau Wen yn Hwlffordd
- Afon Ganol yng Nghyffordd Llandudno
- Afon Tywi yn Llandeilo
- Afon Llanfairfechan yn Llanfairfechan
- Afon Ceunant yn Llanfihangel y Creuddyn
- Afon Morlais yn Llangennech
- Afon Dulais yn Llanwrda
- Afon Dyfi ym Machynlleth
- Nant Melin-cwrt ym Melin-cwrt
- Afon Pennal ym Mhennal
- Afon Solfach yn Solfach
- Afon Aeron yn Nhal Sarn
- Nant Lledan yn y Trallwng
- Afon Taf yn Hendy-gwyn ar Daf
Diweddariad Mawrth 2022
Cyhoeddwyd ar 17 Mawrth 2022. Roedd hwn yn gyhoeddiad gohiriedig o fis Tachwedd 2021.
Diweddariadau i Barthau a Amddiffynnir TAN15:
- Cafwyd gwared â Pharth a Amddiffynnir TAN15 Afonol yn Llangennech
- Cafwyd gwared â Pharth a Amddiffynnir TAN15 Afonol ym Mhont-hir
- Crëwyd Parth a Amddiffynnir TAN15 Morol yn Crofty
Diweddariadau i Barthau Llifogydd o Afonydd:
- Afon Adda ym Mangor-Is-coed
- Afon Cadnant yng Nghaernarfon
- Afon Hafren yng Nghaersŵs
- Afon Dyfrdwy yng Nghorwen
- Afon Wnion yn Nolgellau
- Afon Henddol yn Fairbourne
- Afon Cegidog yn Ffrith
- Afon Cegidog yn Llandrillo
- Afon Lliw yn Llanuwchllyn
- Afon Rheidol yn Aberystwyth
- Afon Llwchwr yn Rhydaman
- Nant Dyfatty ym Mhorth Tywyn
- Afon Tregatwg yn Nhregatwg
- Afon Morlais yn Crofty
- Afon Tywi yn Llanymddyfri
- Afon Teifi yn Llandysul Pentre-cwrt
- Afon Rhymni yn Llanedeyrn
- Afon Wysg yn Llan-ffwyst
- Afon Llwyd ym Mhont-y-pŵl, Cwmbrân a Phont-hir
- Ogwr Fawr yng Nghwm Ogwr
- Afon Ewenni ym Mhencoed
- Afon Tawe ym Mhontardawe
- Afon Dulais ym Mhontarddulais
- Afon Afan ym Mhort Talbot
- Afon Cynffig yn y Pîl
- Afon Nedd yn Resolfen
- Afon Cynin yn Sanclêr
- Afon Elái a Thaf yng Nghaerdydd
- Afon Rhymni yn Ystrad Mynach
- Basn Pant ym Merthyr Tudful
- Afon Alun yn Rhyd-y-mwyn
Data GIS
Os oes angen i chi lawrlwytho data GIS, gellir lawrlwytho nifer o haenau’r map o MapDataCymru.
Cydnabyddiaeth
Mae'n cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Natural Resources Wales a hawl cronfa ddata. Cedwir pob hawl. Mae cyfran o’r wybodaeth wedi’i seilio ar ddata gofodol digidol sydd wedi’u trwyddedu gan y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg © NERC (CEH). Mapio Daearegol: Arolwg Daeareg Prydain © NERC. DEFRA a’r Swyddfa Dywydd © hawlfraint y Goron. © Prifysgol Cranfield. © Sefydliad James Hutton. Cynnwys data OS data © Hawlfraint y Goron a hawl sylfaen-data 2017. Gwasanaethau Tir ac Eiddo Land © Hawlfraint y Goron a hawl sylfaen-data.