Cynllun llifogydd cymunedol
Os ydych chi’n byw mewn ardal ble mae perygl llifogydd, mae’n syniad da bod â chynllun llifogydd cymunedol. Gall hyn helpu’r gymuned gyfan i ymateb yn gyflym, amddiffyn cymdogion bregus a rhoi gwybodaeth bwysig i’r gwasanaethau brys.
Ymunwch â grŵp llifogydd cymunedol
Cysylltwch â ni yn parodamlifogydd@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i ddysgu a oes grŵp llifogydd cymunedol yn eich ardal chi. Rhaid bod gennych eu caniatâd i storio hyn yn ddiogel, a dim ond gyda’r Gwasanaethau Brys yn ystod llifogydd y dylech rannu’r wybodaeth hon. Rhowch wybod i ni beth yw eich enw a’ch cod post, ac a ydych yn rhoi caniatâd i ni basio’ch manylion ymlaen. Os oes grŵp yn agos atoch chi, byddwn yn gofyn iddyn nhw gysylltu â chi.
Mae cyfleoedd i wirfoddoli yn cael eu hysbysebu ar Gwirfoddoli-Cymru.
Ysgrifennwch gynllun llifogydd cymunedol
Defnyddiwch ein templed, neu ysgrifennwch un eich hun. Dylai gynnwys y canlynol:
- manylion am y perygl llifogydd yn eich ardal chi
- rhestr o gysylltiadau, gan gynnwys yr arweinydd ar lifogydd yn y gymuned a gwirfoddolwyr ar lifogydd
- sut i adrodd am ddigwyddiad
- y camau i’w cymryd cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd, er enghraifft cysylltu â chymdogion a symud cerbydau
- pryd ddylech chi weithredu
- sut i rannu gwybodaeth o fewn y gymuned, er enghraifft grŵp cymunedol ar-lein
- pa mor aml fydd y cynllun yn cael ei brofi a’i adolygu
Efallai bydd eich cynllun yn cynnwys gwybodaeth bersonol am bobl yn eich cymuned. Dim ond gyda’r Gwasanaethau Brys y dylid rhannu gwybodaeth o’r fath, a hynny yn ystod llifogydd. Rhaid iddi beidio â chael ei rhoi i unrhyw berson neu sefydliad arall.
Nid yw bod yn rhan o grŵp llifogydd cymunedol yn rôl yn y Gwasanaethau Brys. Ni ddylech wneud unrhyw beth a allai roi eich bywyd chi neu fywydau pobl eraill mewn perygl.
Cyngor a chanllawiau am baratoi ar gyfer llifogydd.
Cymorth i grwpiau llifogydd
- Mae gan y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol ganllaw ar gyfer grwpiau llifogydd
- Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn cynnig cyrsiau a help gyda chyllid
- Mae Future Learn yn cynnig cyrsiau am ddim ac yn codi arian a mentora
- Gall eich Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol helpu gyda hyfforddiant, arweiniad ar gyllid a sut i ffurfioli grwpiau
- Dysgwch am y cyllid sydd ar gael yng Nghymru i grwpiau cymunedol
- Mae Credydau Amser Tempo yn cynnig cyfleoedd i ennill credydau amser ar gyfer gwaith gwirfoddol
- Gall eich fforwm cydnerthedd lleol roi gwybod i chi am y trefniadau lleol ar gyfer llifogydd, yn ogystal ag argyfyngau eraill
- Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr Llygad ar Lifogydd / Flooding Matters ar gyfer gwirfoddolwyr cymunedol ar lifogydd
- Dilynwch ein tudalen Facebook i gael cyngor a chyfle i grwpiau siarad â’i gilydd a rhannu profiadau
Hyrwyddwch eich cynllun llifogydd
Rhowch wybod i bobl bod y cynllun llifogydd yn bodoli. Ystyriwch hyrwyddo’r cynllun mewn cyfarfodydd lleol, drwy gylchlythyron, taflenni a’r wasg leol.
Anogwch bobl yn y gymuned i gofrestru i dderbyn rhybuddion llifogydd ac ysgrifennu eu cynllun llifogydd personol eu hunain.
Profwch eich cynllun llifogydd
Profwch eich cynllun llifogydd i weld a yw’n gweithio. Anfonwch e-bost at parodamlifogydd@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i holi am gynnal digwyddiad efelychu llifogydd i brofi eich cynllun llifogydd.
Sicrhewch eich bod yn diweddaru’ch cynllun
Mae eich cynllun wedi’i ddylunio a’i ddatblygu gennych chi a’ch cymuned. Bydd angen i chi sicrhau ei fod yn cael ei wirio a’i ddiweddaru’n rheolaidd fel bod yr holl fanylion a’r rhifau cyswllt yn gyfredol. Eich eiddo chi yw’r cynllun, nid eiddo Cyfoeth Naturiol Cymru.
Sut i gadw’n ddiogel
Beth bynnag eich rôl o fewn y cynllun llifogydd cymunedol, mae’n bwysig eich bod yn cadw’n ddiogel. Sicrhewch fod pobl yn gwybod ble rydych chi a beth rydych chi’n wneud bob amser, a sicrhewch eich bod yn gweithio mewn parau neu grwpiau bach o hyd.
Paratowch ar gyfer yr amodau
- ceisiwch beidio â gweithio yn y tywyllwch os gallwch chi
- gwisgwch ddillad llachar a chariwch dortsh
- gwisgwch esgidiau cryf a phriodol bob amser
Peryglon
- byddwch yn ymwybodol o wrthrychau’n cwympo, fel teils to, coed a changhennau
- ar ôl llifogydd, ceisiwch osgoi sefyll ar neu ar bwys unrhyw beth a allai fod wedi cael difrod, fel pontydd a glannau afonydd
Cyfathrebu ag eraill
- os oes ar rywun angen cymorth brys, cysylltwch â’r gwasanaethau brys
- wrth siarad ag eraill, esboniwch yn glir beth yw eich rôl a sut gallwch chi helpu
- os bydd rhywun yn troi’n ymosodol mewn unrhyw ffordd, rhowch lonydd iddynt
- peidiwch â dibynnu ar eich ffôn symudol fel eich unig fodd o gyfathrebu