Stociau eogiaid a brithyllod y môr yng Nghymru

Gweithdrefnau asesu stoc oedolion

Yn dilyn cyngor gan Gyngor Rhyngwladol Archwilio'r Môr (ICES) a Sefydliad Cadwraeth Eogiaid Gogledd yr Iwerydd (NASCO), defnyddiwyd terfynau cadwraeth a thargedau rheoli cysylltiedig i asesu statws stociau eogiaid yng Nghymru a Lloegr ers dechrau'r 1990au. Diogelwyd y dull gweithredu hwn mewn Cyfarwyddeb Weinidogol ym 1998 a oedd yn ei gwneud yn ofynnol, ymhlith nifer o gamau gweithredu, i osod terfynau cadwraeth a'u defnyddio i asesu stociau'n flynyddol yn ein 23 o brif afonydd eogiaid yng Nghymru. Yn ddiweddar, rydym wedi ehangu'r dull gweithredu hwn i'n 33 o brif afonydd brithyllod y môr.

Eogiaid

Mae modd gweld crynodeb o'n dull gweithredu mewn perthynas ag asesiadau stoc a'r asesiad stoc eogiaid blynyddol (2019) yn y dogfennau y mae dolen atynt isod. 

  • Mae’r holl stociau eogiaid wedi'u hasesu ar hyn o bryd yn rhai 'Mewn Perygl' neu ‘Yn Debygol o fod mewn Perygl' o fethu â chyflawni'r targed rheoli
  • Mae eogiaid fel rhan o bedwar safle ACA Natura 2000 oll wedi’u dosbarthu’n 'anffafriol'
  • Yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, ystyrir bod stociau eogiaid "ar eu lefel isaf erioed" (NASCO ac AST).

Brithyllod y môr

Rydym hefyd wedi datblygu ein dull gweithredu i gynnwys asesiad brithyllod y môr sy'n seiliedig ar gydymffurfio â therfynau cadwraeth gan ddefnyddio dulliau sydd gyfwerth neu sydd union yr un fath â'r rhai a ddefnyddir ar eogiaid. Defnyddiwyd dulliau o'r fath gyda brithyllod y môr am y tro cyntaf yn 2016. Mae modd gweld crynodeb o'n dull gweithredu mewn perthynas ag asesiadau stociau brithyllod y môr a'r asesiad stoc brithyllod y môr blynyddol (2019) yn y dogfennau y mae dolen atynt isod. 

  • O ran y 33 o brif afonydd brithyllod y môr, mae 29 (88%) o’r stociau wedi'u hasesu’n rhai 'Mewn Perygl' neu ‘Yn Debygol o fod Mewn Perygl’, a dim ond 4 (12%) y nodir ‘Mae’n Debygol nad ydynt mewn Perygl’ yn eu cylch;
  • Rydym wedi gweld gostyngiad amlwg mewn stociau ledled Cymru; brithyllod y môr yn y de sy'n achosi'r pryder mwyaf. 

Mae adroddiad blynyddol mwy cynhwysfawr ar statws stociau a physgodfeydd eogiaid yng Nghymru a Lloegr - gan gynnwys cydymffurfiaeth â therfynau cadwraeth - wedi cael ei lunio ar y cyd gan Cefas, Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru; gweler:

Assessment of salmon stocks and fisheries in England and Wales 2019 (Saesneg yn unig)

Assessment of salmon stocks and fisheries in England and Wales (background report) (Saesneg yn unig)

Diweddarwyd ddiwethaf