Templed ar gyfer llunio'r stocrestr adnoddau naturiol

Byddwn yn defnyddio'r templed canlynol i ddisgrifio'r cryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau i gyflawni'r gwaith o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Bydd hwn yn grynodeb o ganfyddiadau'r asesiad yn yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol. 

Gellir cael un tabl ar gyfer pob un o'r wyth ecosystem a saith thema drawsbynciol.

Mae templed y Rhestr Adnoddau Naturiol yn disgrifio 4 mesur Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy (SMNR) ac yn nodi'r priodoleddau perthnasol ar gyfer pob un o'r mesurau. Mesur 1 – mae Adnoddau Naturiol yn cael eu diogelu a'u gwella – fe’i hasesir yn ôl maint a chyflwr yr Adnoddau Naturiol mewn Ecosystem. Mesur 2 – Mae Ecosystemau yn gallu gwrthsefyll newidiadau disgwyliedig a rhai na ragwelwyd – fe'i hasesir gan briodoleddau gwytnwch – ehangder, cyflwr, cysylltedd ac amrywiaeth. Mesur 3 - Mannau iach i bobl, wedi'u diogelu rhag risgiau amgylcheddol – fe’i hasesir gan y gwasanaethau rheoleiddio a diwylliannol a ddarperir. Mesur 4 – Economi gylchol gyda defnydd mwy effeithlon o adnoddau naturiol – fe’i hasesir drwy effeithlonrwydd y defnydd o adnoddau a’r gwasanaethau cyflenwi a ddarperir gan Ecosystem. Caiff y rhestr ei llunio drwy gynnal dadansoddiad SWOT gan edrych ar y cryfderau, gwendidau, cyfleoedd a’r bygythiadau i gyflawni'r gwaith o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy gan adnabod metrigau addas, ansoddol neu feintiol, i ddisgrifio hyn.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf