Sut y gall ymchwilwyr weithio gyda ni

Sut rydym yn defnyddio ymchwil

Mae'r heriau a wynebwn yn gymhleth ac mae ein penderfyniadau yn gofyn am ymchwil o feysydd pwnc, sy'n amrywio o amgylcheddol, cymdeithasol i economaidd.

Rydym yn defnyddio cylch o gamau i wneud penderfyniadau. Gall ymchwil gyfrannu trwy gydol y cylch hwn i ddarparu’r dystiolaeth sydd ei hangen ar Gymru i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy (SMNR).

Rydym yn ffurfio partneriaethau, yn cyd-oruchwylio neu'n comisiynu ymchwil i ddiwallu ein hanghenion tystiolaeth niferus. Trwy ddatblygu prosiectau gydag ymchwilwyr, gallwn wneud y mwyaf o’n heffaith gyfunol i Gymru a thu hwnt.

Sut y gallwn gefnogi ymchwilwyr

Mae partneriaethau, cyd-oruchwylio a rolau cynghori yn llwybr ardderchog i gynhyrchu ymchwil gydag effaith. Gallai ein rolau mewn cydweithrediadau gynnwys:

Cysylltwr: mewn partneriaeth, rydym yn cynrychioli CNC, felly gallwn eich cysylltu ag arbenigwyr pwnc mewnol a rhanddeiliaid allanol trwy ein rhwydwaith ehangach.

Ymgynghorydd: gallwn eistedd ar grwpiau llywio a gweithredu fel cynghorwyr i adrodd yn ôl am ffyrdd o ddatblygu a gwella'r prosiect a'i effeithiau, yn seiliedig ar ein profiadau. Mae'n annhebygol y byddwn yn arwain ar y dadansoddiad, y grant neu ysgrifennu papurau.

Darparwr syniad, data, tystiolaeth, a mynediad: rydym yn cadw llawer iawn o ddata a thystiolaeth y gallwn roi mynediad i chi i'w defnyddio o bosibl. Fel rheolwyr tir, gallwn eich helpu gyda mynediad i safleoedd maes i wneud eich ymchwil. Gallwn hefyd ddarparu syniadau ar gyfer prosiectau myfyrwyr ac enghreifftiau byd go iawn y gallech eu defnyddio i gynllunio aseiniadau. Gweler isod am syniadau ac ysbrydoliaeth.

Darparu llwybrau at effaith: Os yw'ch prosiect yn cyd-fynd a blaenoriaethau a heriau CNC, yn ein helpu i adeiladau partneriaethau newydd a/neu'n helpu i ddiwallu ein hanghenion tystiolaeth efallai y byddwn yn gallu rhoi llythyr o gefnogaeth a / neu ardystiadau effaith Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil . Gallwn ddarparu llwybrau at effaith trwy newid ein gweithgareddau byd go iawn yn seiliedig ar argymhellion yr ymchwil.

Syniadau a chefnogaeth prosiect ymchwil

Os ydych yn chwilio am syniadau ar gyfer prosiect ymchwil, edrychwch ar ein rhestr o anghenion tystiolaeth (pynciau sydd angen mwy o dystiolaeth arnom i gefnogi SoNaRR) ac ein blaenoriaethau tystiolaeth forol cyn cysylltu.

Os oes gennych syniad ymchwil a allai ein helpu i ddatblygu rheolaeth gynaliadwy ar amgylchedd naturiol Cymru, cofiwch ein cynnwys yn gynnar trwy gysylltu. Mae hyn yn enwedig os ydych yn targedu polisi/deddfwriaeth.

Gall cysylltu â ni yn gynnar (cyn gwneud cais am gyllid) eich helpu i fireinio eich cwestiynau ymchwil a chreu offer y gellir eu cymhwyso'n ymarferol. Gallwn eich helpu i ymgysylltu ag arweinwyr polisi arbenigol i wella eich dealltwriaeth o’r fframwaith polisi a deddfwriaeth ac i sicrhau bod y dystiolaeth a ddarperir yn gallu cyd-fynd yn uniongyrchol â pholisi ar bob graddfa.

Rhannu ymchwil gyda ni a'n partneriaid

Rydym am gael sgwrs ddwy ffordd agored ac adeiladol gyda darparwyr tystiolaeth. Pan fyddwn yn cyfathrebu ar gyfryngau cymdeithasol, neu’n rhoi galwadau am dystiolaeth, ymatebwch os oes gennych dystiolaeth i’w chyfrannu.

Gwnewch eich gwaith yn ddealladwy ac yn gyflym i'w ddarllen. P'un a ydych ar y pwynt creu syniad, yn gofyn am lythyr o gefnogaeth, neu gyhoeddiad, eglurwch yn glir yr hyn yr ydych wedi'i ddarganfod (neu'n bwriadu ei ddarganfod), a'r hyn y mae'n ei olygu (neu nad yw'n ei olygu). Yn bwysicaf oll, eglurwch pam ei bod yn bwysig i CNC wybod amdano. Mae hyn yn cynnwys unrhyw gyfyngiadau neu ansicrwydd yn yr ymchwil.

Mae nodiadau briffio yn aml yn helpu i gyfathrebu ymchwil, dyma ganllaw ar sut i ysgrifennu nodyn briffio polisi.  

Mae cyflwyniadau yn ddefnyddiol i rannu pa ymchwil sy'n cael ei gyhoeddi ac i ni siarad yn uniongyrchol ag ymchwilwyr am eu gwaith. 

Gallwch roi gwybod i ni am yr ymchwil yr ydych wedi'i gwblhau hyd yn oed os yw yn y broses o'i adolygu gan gymheiriaid. Rydym yn deall bod y broses olygyddol yn cymryd amser, felly gallai rhoi gwybod i ni am y gwaith yn ystod y broses hon ein helpu i’w ddefnyddio yn barod ar gyfer ei gyhoeddi.

Os yw'r gwaith yn gysyniadol, ar raddfa llawer mwy nag yr ydym yn gweithio arni, neu ddim yn barod i'w gymhwyso (gweler cymhwysiad byd go iawn) byddwch yn glir am hyn o'r dechrau.

Awgrymiadau i hybu effaith eich ymchwil

Mathau o dystiolaeth a dderbyniwn

Rydym yn derbyn llawer o fathau o dystiolaeth ansoddol neu feintiol i helpu i lywio ein penderfyniadau gan gynnwys: ymchwil cynradd ac eilaidd a adolygir gan gymheiriaid, adroddiadau, a thraethodau ymchwil MSc neu PhD heb eu cyhoeddi.

Rydym yn pwysoli tystiolaeth ar sail ei chryfder, gyda'r dystiolaeth gryfaf yn dod o adolygiad systematig (gwahaniaethau allweddol rhwng adolygiadau systematig a chonfensiynol), a'r gwannaf o ddatganiadau heb ddata sylfaenol ee barn arbenigol. Po gryfaf yw'r dystiolaeth, y mwyaf yw'r tebygolrwydd y byddwn yn ei chymhwyso.

Os ydych chi'n ystyried cynnal adolygiad neu oruchwylio myfyriwr sy'n gwneud hyn, bydd defnyddio canllawiau fel y rhai o'r Cydweithio ar gyfer Tystiolaeth Amgylcheddol yn helpu i wella ansawdd yr adolygiad.

Osgowch ddarparu data crai yn unig i ni, nid oes gennym yr adnoddau i ddadansoddi hyn heb gyd-destun ehangach yr astudiaeth y daw ohoni.

Cymhwysiad byd go iawn

Mae ymchwil, yn enwedig astudiaethau “effaith uchel”, yn aml yn targedu graddfeydd llawer mwy nag yr ydym yn gweithio arnynt neu'n cyflwyno modelau nad ydynt yn barod i ni eu cymhwyso'n uniongyrchol. Yn ogystal â chyflwyno’r gwaith hwn i ni, mae angen i ymchwilwyr ddweud wrthym beth mae’r ymchwil hwn yn ei olygu i CNC a’r camau penodol ac ymarferol o ran sut y gallwn ei ddefnyddio.

Nid oes gennym yr amser na'r arbenigedd i wneud hyn ein hunain felly heb y cam ychwanegol hwn, yn aml ni allwn ddefnyddio'r dystiolaeth hon.

Gwyddor agored ac adgynyrchadwy

Rhaid i ymchwil ddangos llwybr clir ac atgynhyrchadwy o ddata crai i'r casgliadau y daethpwyd iddynt.

Dylai'r holl ddata a chod/sgript gael eu casglu a'u dadansoddi'n foesegol, a dylent fod yn fynediad agored yn ddiofyn oni bai bod trefniadau penodol wedi'u gwneud fel arall. Rydym yn annog y defnydd o egwyddorion FAIR a defnyddio dulliau ffynhonnell agored.

Ansawdd, tybiaethau, a chadernid

Eglurwch yn agored unrhyw gyfyngiadau, rhagdybiaethau a thueddiadau yn y gwaith.

Ar gyfer tystiolaeth a ddarparwyd o fodelu, eglurwch unrhyw ragdybiaethau ynghylch y data neu'r allbynnau model sy'n mynd i mewn i'r model, yn ogystal â'r model ei hun. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fo'r cynnyrch terfynol yn 'fodel o fodelau'. Heb y wybodaeth hon mae'n anodd i ni ddeall yr hyder yn y canlyniadau os yw'r cynnyrch terfynol wedi'i drawsnewid nifer o weithiau o'r data gwreiddiol.

Eglurwch pa mor gadarn yw'r dystiolaeth hon a pha lefel o sicrwydd ansawdd a ddefnyddiwyd (ee adolygiad gan gymheiriaid) i'n helpu i roi pwysiad hyder i'r canfyddiadau.

Cyfuno â data a thystiolaeth arall

Gall bwydo data a thystiolaeth i gronfeydd data mwy i’w defnyddio ochr yn ochr â darnau eraill o dystiolaeth neu ddata fod yn ddefnyddiol iawn i ni, er enghraifft:

Mae cyfuno eich tystiolaeth â’r dystiolaeth sydd gennym yn CNC yn werthfawr iawn.

Fodd bynnag, os yw'r allbwn ymchwil yn cynnwys cyfuniad o ddata neu'n cael ei ychwanegu at gronfa ddata fwy, darparwch ddata crai rhydd yn ogystal â'r cronfeydd data terfynol cyfun.

Cyfleoedd i weithio gyda ni, llythyrau cefnogi, a chysylltu

Ar gyfer ymholiadau prosiect ymchwil (gan gynnwys ceisiadau am lythyrau cymorth), cysylltwch â academia@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gyda manylion eich prosiect neu syniad a byddwn yn eich trosglwyddo i'r aelod staff mwyaf perthnasol.

Comisiynau tystiolaeth

Rydym yn defnyddio GwerthwchiGymru i gomisiynu gwasanaethau sydd eu hangen arnom dros rai gwerthoedd. Gellir hysbysebu prosiectau tystiolaeth yma felly cadwch lygad ar ein tudalen sut rydym yn prynu'r hyn sydd ei angen arnom. Mae'r rhain yn dueddol o fod yn ymarferion casglu tystiolaeth gyda therfynau amser byr.

Lleoliadau Ymchwil a chynigion PhD

Gall y rhain fod yn ystod neu ar ôl astudiaethau israddedig (gan gynnwys blwyddyn lleoliad), MSc neu PhD. Gallwn fod yn bartneriaid ar brosiectau ymchwil (ee NERC CASE).

Cysylltwch â ni o leiaf 2 fis cyn y dyddiad cyflwyno er mwyn i ni allu cyd-gynhyrchu’r cynnig gyda chi.

Yn ogystal, ar gyfer staff academaidd, cadwch olwg am leoliadau/secondiadau wedi'u hariannu mewn swyddi polisi (ee UKRI, y Gymdeithas Frenhinol).

Llythyrau o gefnogaeth

Rhaid i chi roi 2 wythnos o rybudd i ni wrth wneud cais am lythyr cefnogi.

Dylai eich cais esbonio'n glir yr hyn yr ydych yn bwriadu ei ddarganfod a pham ei fod yn bwysig i CNC. Heb y wybodaeth hon ni fyddwn yn gallu gwneud penderfyniad gwybodus ynghylch cefnogi'r prosiect ai peidio.

Byddwch yn ddeallgar

Rydym am weithio'n effeithiol gydag academyddion ac arbenigwyr i wneud ein penderfyniadau amgylcheddol yn well. Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol bod gennym derfynau amser gwahanol yn aml ar gyfer casglu a defnyddio tystiolaeth, gwahanol ffyrdd o weithio, a phrosesau mewnol gwahanol, o gymharu ag yn y byd academaidd.

Gwneud cais i ddefnyddio tir yr ydym yn ei reoli

Gwneud cais nawr

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf