Beth sydd angen i chi ei wybod

Mae llwybrau cerdded sy'n addas ar gyfer pob gallu ar gael yn ein coetiroedd a'n Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol ar draws Cymru.

Mae adrannau o lwybr pren ar rai llwybrau sy'n eich galluogi i brofi amrywiol dirweddau, o gorsydd i wlyptiroedd. Mae llwybrau eraill yn dilyn troedffyrdd gwastad o amgylch llynnoedd neu wrth ymyl afonydd ac mae rhai yn mynd â chi i lecynnau gwylio dros raeadrau.

Mae arwyddbyst ar bob un o'n llwybrau o'u dechrau hyd at eu diwedd a cheir panel gwybodaeth ar ddechrau pob un.

Sut rydym ni'n graddio ein llwybrau

Caiff pob llwybr cerdded yn ein coetiroedd a'n Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol ei raddio er mwyn rhoi syniad o'i anhawster.

Mae'r graddau'n rhoi sylw i arwyneb y llwybr, graddiannau a lefel y ffitrwydd sydd ei angen.

Mae graddau’r llwybrau wedi’u nodi ar y wefan hon ac ar y panel gwybodaeth sydd ar ddechrau'r llwybr.

Dod i wybod mwy am raddau llwybr cerdded.

Llwybrau hygyrch

Mae ein teithiau cerdded gradd hygyrch yn addas i bawb, gan gynnwys pobl sy'n defnyddio cadair olwyn.

Sylwch, os gwelwch yn dda, y gallai fod angen cymorth i wthio cadeiriau olwyn ar hyd rhai adrannau.

Mae'r holl lwybrau cerdded ar y dudalen hon wedi'u graddio fel rhai hygyrch.

Llwybrau eraill

Gall rhai o'r llwybrau eraill yn ein coetiroedd a'n gwarchodfeydd fod yn addas ar gyfer defnyddwyr offer addasol.

Rydym wedi cynhyrchu cyfres o ffilmiau i helpu pobl sy'n defnyddio offer addasol (beiciau addasol, cadeiriau olwyn addasol a sgwteri symudedd) i ganfod pa mor addas y gall rhai o'n llwybrau eraill fod cyn iddynt ymweld.

Er mwyn gwylio'r ffilmiau am rai o'n llwybrau eraill, ewch i Llwybrau ar gyfer Defnyddwyr Offer Addasol.

Er mwyn dod o hyd i lwybrau cerdded yn ein coetiroedd a'n gwarchodfeydd eraill ewch i Lleoedd i Ymweld â Nhw.

Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, ger Aberystwyth

Llwybr y Barcud

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: ¾ milltir/1.3 km
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'r llwybr yn cofleidio ymyl ogleddol y llyn yn gyntaf ac yna'n mynd â chi trwy gymysgedd o goetir a golygfeydd agored. Mae'r llwybr cylchol a gwastad hwn yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio. Graddiant uchaf: 10%.

Y Barcud Coch yw’r enw Cymraeg am Red Kite ac o’r llwybr hwn, naill ai o'r tu mewn i'r guddfan neu yn y llecyn gwylio, y ceir yr olygfa orau o sioe fwydo’r barcutiaid coch sy’n wledd ddyddiol i’r llygaid. Mae hysbysfyrddau ar hyd y llwybr ac arnynt ffeithiau hynod ddiddorol am y barcud coch a cheir gwybodaeth yn y guddfan am y bywyd gwyllt sydd ar y llyn.

Cadwch lygad ar hyd y llwybr am gerfluniau a barddoniaeth sy'n dod â llên gwerin a hanes lleol yn fyw – codwch daflen Llwybr Elenydd yn y ganolfan ymwelwyr.

Mae'r Llwybr Pos Anifeiliaid yn dilyn yr un llwybr â Llwybr y Barcud – codwch daflen Llwybr Pos Anifeiliaid o'r dosbarthwr neu yn y ganolfan ymwelwyr a cheisiwch ddod o hyd i gymaint o’r anifeiliaid ag y gallwch.

Dod i wybod mwy am ymweld â Chanolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris, ger Dolgellau

Llyn Dôl Idris

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: ½ milltir/0.6 km
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'r llwybr cylchol hwn yn cychwyn o'r maes parcio ac yn arwain yr holl ffordd o amgylch y llyn yn y parcdir. Ceir meinciau picnic ar hyd y llwybr. Awdurdod y Parc Cenedlaethol Eryri sy'n berchen ar y llwybr hwn ac yn ei reoli.

Cadwch lygad am adar fel y trochwr a'r siglen lwyd sy'n bridio ar lan y llyn, a'r ysgol bysgod ger y bont droed sy'n helpu’r eogiaid i gyrraedd y nentydd.

Dod i wybod mwy am ymweld â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris

Coed Moel Famau, ger yr Wyddgrug

Llwybr Hygyrch

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: ¼ milltir/0.4 km
  • Gwybodaeth am y llwybr: Ceir meinciau picnic hygyrch ar hyd y llwybr.

Mae'r llwybr byr hwn yn arwain trwy'r coetir ac wrth ochr nant.

Dod i wybod mwy am ymweld â Choed Moel Famau

Parc Coedwig Coed y Brenin, ger Dolgellau

Llwybr Afon Eden (o ganolfan ymwelwyr Coed y Brenin)

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: 1 milltir/1.7 km
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'r llwybr hygyrch, 2 fetr o led hwn ag iddo arwyddbyst glas ag arwyneb da, yn llwybr llinellol dwy ffordd. Mae'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn ac mae ei raddiant yn ddim mwy na 10% (1 mewn 10). Cyfanswm y ddringfa yw 105 troedfedd/35 metr. Mae yna fannau gorffwys o leiaf bob 100 metr. Mae graddiant y ddolen ddewisol yn ddim mwy na 17% (1 mewn 6). Mae'r ddolen felen yn addas ar gyfer cadeiriau gwthio a defnyddwyr offer addasol gan gynnwys sgwteri symudedd oddi ar y ffordd. Mae yma fannau gorffwys o leiaf bob 150 metr. Nid oes grisiau na chamfeydd ar hyd y llwybr cyfan. Gallwch logi Tramper sef sgwter symudedd oddi ar y ffordd o'r ganolfan ymwelwyr. Sylwch fod yn rhaid bwcio hwn ymlaen llaw trwy gysylltu â'r ganolfan ymwelwyr.

Dilynwch y llwybr hygyrch i lawr trwy goetiroedd hyd at safle picnic glan yr afon lle mae Afon Eden yn rhuthro dros y creigiau.

Codwch daflen Llwybr Pos Anifeiliaid o'r ganolfan ymwelwyr a gadewch i ymwelwyr iau ddilyn y cliwiau.

Rydym wedi cynhyrchu ffilm i'ch helpu i ganfod pa mor addas yw'r llwybr hwn i chi cyn i chi ymweld.

Person anabl sy’n siarad ar y ffilm wrth deithio ar hyd y llwybr gan ddefnyddio offer personol. Mae'n dangos arwyneb y llwybr, graddiannau a dringfeydd i fyny ac i lawr yr allt a lle y gallai fod angen help arnoch mewn mannau penodol.

 

Dod i wybod mwy am ymweld â chanolfan ymwelwyr Coed y Brenin

Llwybr Hygyrch Gardd y Goedwig (o faes parcio Gardd y Goedwig)

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: ¼ milltir/0.3 km
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r llwybr hygyrch wedi'i gyfeirnodi o'r maes parcio bach yng Ngardd y Goedwig sydd at ddefnydd ymwelwyr anabl yn unig. Mae'r daith yn dilyn llwybr gwastad 2 fetr o led ag iddo arwyneb da sy'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn gyda llecyn gorffwys o leiaf bob 100 metr.

Mae'r llwybr yn croesi dros y bont a thrwy ran isaf gardd y goedwig ar ei ffordd i olygfan sy'n edrych dros y rhaeadr.

Mae gardd y goedwig yn gartref i goed o bob cwr o'r byd – cadwch lygad am yr arwyddion arbennig sy’n cynnwys ffeithiau hynod ddiddorol am rai o'r coed.

Dod i wybod mwy am ymweld â Pharc Coedwig Coed y Brenin – Gardd y Goedwig

Llwybr Hygyrch Glastir (o faes parcio Pont Llam yr Ewig)

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: ½ milltir/0.8 km
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'r maes parcio bach ym Mhont Llam yr Ewig at ddefnydd ymwelwyr anabl yn unig. Mae'r llwybr yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Mae'n llwybr gwastad, 1.5 metr o led, ag iddo arwyneb da gyda mannau pasio bob 50 metr a llecynnau gorffwys bob 150 metr. Mae bwrdd picnic hygyrch yn y maes parcio.

Dilynwch yr arwyddion cyfeirio o faes parcio Pont Llam yr Ewig ar hyd hen dramffordd i'r man gwylio uwchben y gweithfeydd mwyngloddio.

Dod i wybod mwy am ymweld â Pharc Coedwig Coed y Brenin – Glasdir

Llwybr Gwarchodlu'r Brenin (o faes parcio Pont Ty'n-y-groes)

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: ½ milltir/0.8 km
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'r daith yn dilyn llwybr 2 fetr o led ag iddo arwyneb da wrth ochr yr afon ac mae'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Ceir llecynnau gorffwys o leiaf bob 100 metr.

Dewch i weld y coed Douglas godidog, sef y coed mwyaf yng Nghoed y Brenin.

Mae'r llwybr yn dolennu ochr yn ochr â'r afon hyd at y goeden sydd â’r boncyff llydanaf a elwir ‘Y Brenin’.

Dod i wybod mwy am ymweld â Pharc Coedwig Coed y Brenin – Pont Ty'n-y-groes

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed y Cerrig, ger y Fenni

Llwybr Bwrdd y Coed Gwern

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: ½ milltir/0.6 km
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'r llwybr yn cychwyn dros y ffordd o'r maes parcio – cymerwch ofal wrth groesi'r ffordd, os gwelwch yn dda. Mae'r llwybr pren llydan a gwastad, gyda lleoedd pasio, yn eich galluogi i fwynhau llawr gwlyb y dyffryn. Ceir meinciau pren ar hyd y llwybr. Mae yma fwd meddal – peidiwch â chrwydro oddi ar y llwybr pren na'r llwybr.

Mae'r coed gwern gyda’u bonion lluosog yn dystiolaeth o brysgoedio (torri’n agos at y bôn ac ail-egino).

Yn y gwanwyn, cadwch lygad am felyn ysblennydd y gors ac ymbarelau pinc cain Llysiau Cadwgan (valerian) sy’n tyfu ar hyd y llwybr pren, ac aroglwch y clychau'r gog persawrus sy'n tyfu ar hyd rhan hon y llwybr.

Dod i wybod mwy am ymweld â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed y Cerrig

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Bodeilio, Ynys Môn

Llwybr y Gors

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: ¾ milltir/1.2 cilomedr (allan ac yn ôl)
  • Gwybodaeth am y llwybr: Dilynwch yr arwyddbyst glas ar hyd y llwybr pren gwastad, 1.4 medr o led, gan aros am ychydig i fwynhau’r golygfeydd dros y gors. Mae yna feinciau gorffwys bob 300 medr. Ewch yn ôl i'r maes parcio ar hyd yr un llwybr.

Mwynheuwch weld a chlywed adar y gwlyptir yn y gwely cyrs.

Mae yna fywyd gwyllt i'w weld neu glywed drwy’r amser, bob adeg o'r flwyddyn.

Dod i wybod mwy am ymweld â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Bodeilio

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron, ger Tregaron

Taith Cors Caron

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: 1½ milltir/2.6 km
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'r llwybr hwn yn gwbl hygyrch ag iddo arwyneb pob tywydd a sawl mainc. Mae’r guddfan yn hygyrch.

Mae'r llwybr pren yn eich arwain i ganol yr ardal helaeth hon o wlyptir trawiadol.

Mae'r llwybr yn mynd heibio'r guddfan fawr lle gallwch fwynhau golygfa heddychlon (a sych!) o'r dirwedd a’r bywyd gwyllt.

Dod i wybod mwy am ymweld â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors y Llyn, ger Rhaeadr

Taith Gerdded Cors y Llyn

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: ¾ milltir/1.3 km
  • Gwybodaeth am y llwybr: Ar ôl mynd trwy'r giât o'r maes parcio, mae'r llwybr yn dilyn troedffordd wastad ac yna llwybr pren. Mae gogwydd ysgafn tuag at ddiwedd y llwybr. Cadwch at y llwybr pren a'r llwybrau os gwelwch yn dda – mae yma fannau lle mae dŵr agored dwfn a phyllau dyfnion ag ochrau serth sydd wedi'u gorchuddio â llystyfiant arnofiol.

Dewch ar ymweliad yn y gwanwyn neu'r haf a mwynhewch un o'r dolydd gorau yng Nghanolbarth Cymru sy'n orlawn o flodau gwyllt ac wedi’i lleoli wrth fynedfa'r warchodfa.

Mae'r llwybr pren yn ymdroelli wedyn trwy'r coetir corsiog a heibio'r goedwig o goed crebachlyd.

Dod i wybod mwy am ymweld â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors y Llyn

Craig y Ddinas, ger Castell-nedd

Llwybr Sychryd

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: ½ milltir/0.6 km (yno ac yn ôl)
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'r llwybr hwn yn ymddolennu ochr yn ochr â'r afon trwy geunant coediog, cul. Mae'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn a bygis mwy cadarn. Mae'n dychwelyd i'r maes parcio ar hyd yr un llwybr.

Ar ei ffordd i'r olygfan dros raeadrau Sychryd, mae'r llwybr yn mynd heibio i graig enfawr Bwa Maen – cadwch lygad am y panel gwybodaeth i gael manylion y nodwedd ddaearegol drawiadol hon.

Dod i wybod mwy am ymweld â Chraig y Ddinas

Canolfan Ymwelwyr Garwnant, ger Merthyr Tudful

Taith Helyg

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: ½ milltir/0.8 km
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'r llwybr yn caniatáu mynediad hawdd i ymwelwyr â chadeiriau olwyn, bygis trydan a chadeiriau gwthio er mwyn iddynt archwilio'r goedwig. Mae'n dilyn trac graean gwastad gyda rhai goleddfau a llethrau graddol.

Mae'r Daith Helyg yn croesi pontydd dros sawl nant ac yn arwain trwy dwnnel helyg.

Dod i wybod mwy am ymweld â Chanolfan Ymwelwyr Garwnant

Parc Coedwig Gwydir, ger Llanrwst

Afon Crafnant (o faes parcio Llyn Crafnant)

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: ½ milltir/0.6 km
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae gan y llwybr hwn sy’n 1.2 metr o led ag iddo arwyneb da, raddiant hawdd ac mae'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio. Mae'r pedair mainc bicnic lai na 100 metr oddi wrth ei gilydd – mae tair ohonyn nhw'n addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.

Mae'r llwybr hwn yn arwain trwy amrywiaeth o goed, o gonwydd tal i goed bedw ifanc, ac yn cyrraedd ardal laswelltog agored wrth ymyl yr afon fyrlymus.

Oedwch am eiliad i wrando am fywyd gwyllt ac i’w gwylio, neu dewch o hyd i'r ‘arwyddion sy’n diflannu’ ar hyd y llwybr sy’n nodi ffeithiau hynod ddiddorol am y coed a'r bywyd gwyllt sy'n byw yma.

Dod i wybod mwy am ymweld â Llyn Crafnant

Coedwig Hafren, ger Llanidloes

Taith Gerdded Y Rhaeadrau

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: ½ milltir/0.9 km
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'r daith yn dilyn llwybr ar oleddf o'r maes parcio i'r llwybr pren ac yn dychwelyd trwy'r goedwig ar hyd llwybr llydan ag iddo arwyneb da.

Mae Taith Gerdded Y Rhaeadrau yn dilyn llwybr pren ar hyd glan yr afon ac ymlaen at y rhaeadrau aflonydd.

Yma mae llwyfan uchel er mwyn i chi fwynhau'r olygfa cyn dychwelyd trwy'r goedwig i'r maes parcio.

Dod i wybod mwy am ymweld â Choedwig Hafren

Gwarchodfa Natur a Choedwig Genedlaethol Niwbwrch, Ynys Môn

Llwybr Golwg y Llyn (o faes parcio Llyn Parc Mawr)

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: ¼ milltir/0.3 km
  • Gwybodaeth am y llwybr: Llwybr 1.5 metr o led ag iddo arwyneb da o faes parcio Llyn Parc Mawr gyda mannau pasio a llecynnau gorffwys bob 50 metr.

Dilynwch y llwybr ar draws y safle picnic i'r man gwylio dros lyn cudd y goedwig.

Yno fe welwch wybodaeth am yr adar sy'n byw yma, neu arhoswch wrth un o'r byrddau picnic ac efallai y byddwch yn ddigon ffodus i weld gwiwer goch yn y coed.

Dod i wybod mwy am ymweld â Gwarchodfa Natur a Choedwig Genedlaethol Niwbwrch

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptir Casnewydd, ger Casnewydd

Mae'r holl lwybrau o amgylch y gwelyau cyrs yn hygyrch i gadeiriau olwyn a cheir meinciau bron bob 200 metr. Mae'r llwybrau'n wastad gyda rhai llethrau ysgafn a ramp igam-ogam wrth ddringo'r pum metr i fyny i lefelau’r cyforgorsydd.

Llwybr y Tegeirianau

  • Pellter: 1 milltir/1.6 km

Cadwch lygad am degeirianau ddiwedd y gwanwyn a dechrau'r haf.

Llwybr Cerfluniau

  • Pellter: 1 milltir/1.7 km

Ewch trwy welyau cyrs, dros y bont arnofio a heibio'r goleudy.

Llwybr Coetir ac Aber

  • 1½ milltir/2.3 km

Ewch trwy welyau cyrs, coetir, heibio dŵr agored a'r aber.

Profiad y Gwlyptiroedd

  • Pellter: 2½ milltir/4 km

Mae'r llwybr hwn yn cyfuno'r llwybr tegeirianau, y llwybr coetir a'r aber a rhan o Lwybr Arfordir Cymru.

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Pant y Sais, ger Abertawe

Taith Gerdded Pant y Sais

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: ½ milltir/0.6 km
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'r llwybr yn cychwyn o fynedfa i gerddwyr y tu ôl i reiliau ar y B4290 – cymerwch ofal wrth groesi'r ffordd. Mae'n dilyn llwybr pren cylchol, hygyrch gyda mannau pasio a meinciau. Cadwch at y llwybr pren pan fyddwch allan ar y gors gan fod yma dir gwlyb peryglus.

Dilynwch y llwybr pren i ganol y gors a chewch weld y gwelyau cyrs a hesg sy'n gartref i amrywiaeth o blanhigion, adar a phryfed y gwlyptir.

Dod i wybod mwy am ymweld â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Pant y Sais.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf