Cynllunio rheoli adnoddau dŵr

Canllawiau a pholisïau ar gyfer cynllunio adnoddau dŵr

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd ac Ofwat wedi ymgynghori ar y cyd ar y canllawiau cynllunio adnoddau dŵr ar gyfer y Cynlluniau Rheoli Adnoddau Dŵr nesaf (WRMP) ar gyfer Cymru a Lloegr, a’u cyhoeddi. Cefnogir y canllawiau hyn gan Lywodraeth Cymru a DEFRA. Mae canllawiau atodol technegol ychwanegol sy'n cynnwys y pynciau canlynol:

  • Stocasteg
  • Cynllunio 1:500 (ar gyfer Lloegr gyfan ac yng Nghymru lle mae cwmnïau yn cynllunio hyd at y lefel hon o gydnerthedd yn unig)
  • Newid yn yr hinsawdd
  • Cynllunio addasol
  • Gollyngiadau
  • Toriadau
  • Integredd y parth adnoddau
  • Amgylchedd a chymdeithas mewn prosesau gwneud penderfyniadau (nodiadau ar wahân ar gyfer Cymru a Lloegr)
  • Cynllunio gwerth gorau
  • Penodiadau ac amrywiadau newydd (NAVs)

Mae'r nodiadau canllaw atodol hyn, yn ogystal â'r tablau/cyfarwyddiadau cynllunio adnoddau dŵr, cyflwyniadau adolygiad blynyddol, a’r rhestr wirio i gwmnïau dŵr ar gael ar gais o:

E-bost: WREPP@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Ar gyfer cwmnïau dŵr sydd yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi Cyfarwyddiadau Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr (Cymru) a'r Egwyddorion Arweiniol ar gyfer Datblygu Cynlluniau Rheoli Adnoddau Dŵr.

Mae UKWIR hefyd yn cynhyrchu ymchwil a chanllawiau i gefnogi cwmnïau yn y gwaith o lunio eu cynlluniau yn ogystal â chefnogi'r diwydiant dŵr ehangach (ewch i wefan UKWIR).

Anfon eich adolygiad blynyddol a data alldro

Mae'n ofynnol i gwmnïau dŵr gynhyrchu adolygiad blynyddol ac anfon datganiad o'i gasgliadau i Weinidogion Cymru os ydynt yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru (dylid anfon adolygiadau i Weinidogion Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol os ydynt yn cyflenwi ardaloedd yng Nghymru a Lloegr). Mae'n rhaid gwneud hyn cyn dyddiad pen-blwydd cyhoeddiad eu cynllun terfynol. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi cyngor ar yr adolygiadau blynyddol i Lywodraeth Cymru.

Mae'n ofynnol i'r adolygiad blynyddol adrodd ar gynnydd a wnaed gan y cwmni dŵr yn ôl amcan a nodwyd ei gynllun. Mae'n rhaid i'r adolygiad blynyddol adrodd hefyd ar y newidiadau a wnaed i'r cynllun, a darparu crynodeb cyffredinol o'r cyflenwad/galw a chynnydd ar y camau gweithredu sy'n ofynnol gan Cyfoeth Naturiol Cymru neu Lywodraeth Cymru. Os oes angen unrhyw newidiadau sylweddol i'ch cynllun, dylid trafod y rhain gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (ac Asiantaeth yr Amgylchedd ar gyfer ardaloedd yn Lloegr).

Mae angen i gwmnïau dŵr yng Nghymru gyflwyno eu data alldro blynyddol i Cyfoeth Naturiol Cymru a rheoleiddwyr eraill erbyn 30 Mehefin bob blwyddyn. Mae'n rhaid i'r data hwn arddangos cynnydd a wnaed o ran Cynlluniau Rheoli Adnoddau Dŵr y cwmnïau dŵr, sy'n galluogi Cyfoeth Naturiol Cymru i fonitro'r cynlluniau a thrafod unrhyw faterion sy'n codi.

Manylion cyswllt Llywodraeth Cymru a DEFRA

Y Gangen Polisi Dŵr
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: water@llyw.cymru

Yr Is-adran Cyflenwi a Rheoleiddio Dŵr
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
Area 3D
Nobel House
17 Smith Square
Llundain
SW1P 3JR

E-bost: water.resources@defra.gov.uk

Y cyflenwad dŵr cyhoeddus yng Nghymru

Mae gan gwmnïau dŵr ddyletswydd i baratoi a chynhyrchu Cynlluniau Rheoli Adnoddau Dŵr (WRMP) bob pum mlynedd. Mae'r cynlluniau hyn yn dangos sut y gall cyflenwad a'r galw am ddŵr newid (megis drwy’r newid yn yr hinsawdd, newid yn nefnydd tir, twf poblogaeth, ac ein harferion yn newid) a gellir eu rheoli drwy fesurau effeithlonrwydd dŵr (ewch i wefan Waterwise am fwy o wybodaeth) dros gyfnod o chwarter canrif.Wrth gydbwyso cyflenwad a galw, dylent sicrhau bod yr amgylchedd wedi'i warchod a mynd i'r afael â heriau'r dyfodol. Os nad yw'r cyflenwad dŵr yn gallu bodloni'r galw, bydd cwmnïau dŵr yn gweithredu cynlluniau i gynyddu'r cyflenwad (megis ffynonellau newydd neu rai nad ydynt mewn defnydd) neu leihau'r galw er mwyn cynnal cyflenwad sefydlog o ddŵr dros gyfnod y cynllun a thu hwnt. Mae'r cynlluniau hyn yn llywio cynlluniau seilwaith a buddsoddi'r cwmnïau dŵr. Bydd cwmnïau dŵr sy'n gweithredu yng Nghymru neu sy’n gweithredu mewn modd sy’n effeithio ar Gymru yn ymgynghori ar eu cynlluniau gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru, Ofwat, cwsmeriaid, defnyddwyr dŵr ac unrhyw sefydliadau perthnasol eraill.

Ynghyd â chwmnïau dŵr, mae'r prif sefydliadau sy'n ymwneud â chynllunio rheoli adnoddau dŵr yng Nghymru yn cynnwys y canlynol:

  • Mae Llywodraeth Cymru yn gosod y ddeddfwriaeth a'r cyfeiriad polisi ar gyfer adnoddau dŵr ac mae Gweinidogion Cymru yn cyfeirio cwmnïau dŵr i baratoi a chyhoeddi eu cynlluniau.
  • Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru ddyletswydd i warchod yr amgylchedd a sicrhau diogelwch y cyflenwad dŵr cyhoeddus. Ein diben yw ceisio rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Rydym yn ymgynghorydd statudol ar gyfer Cynlluniau Rheoli Adnoddau Dŵr ac yn gynghorydd i Lywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau sy'n effeithio ar Gymru. Rydym yn ysgrifennu'r canllawiau cynllunio adnoddau dŵr (ar y cyd ag Asiantaeth yr Amgylchedd ac Ofwat) ac yn arwain wrth gynhyrchu canllawiau sy’n benodol i Gymru. Byddwn yn gweithio gyda chwmnïau dŵr wrth iddynt baratoi eu cynlluniau ac yn darparu ymateb fel rhan o'u hymgynghoriad. Mae gan Asiantaeth yr Amgylchedd rôl debyg ar gyfer Lloegr.
  • Mae Ofwat yn ymgynghorydd statudol ar gyfer Cynlluniau Rheoli Adnoddau Dŵr ac yn llunio'r canllawiau ar y cyd. Maent yn penderfynu i ba raddau, ac o dan ba amodau, y gall cwmnïau adfer costau buddsoddiad drwy daliadau gan gwsmeriaid.
  • Mae'r Arolygiaeth Dŵr Yfed yn asesu ac yn sicrhau bod ansawdd y dŵr a ddarperir yn addas.

O fewn Cymru mae tua thair miliwn o bobl yn derbyn cyflenwad iachus o ddŵr bob dydd. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael eu cyflenwi gan ddau brif gwmni, sef:

Mae dau gwmni llai hefyd, a elwir yn benodiadau ac awdurdodiadau newydd (NAVs), sy'n darparu gwasanaethau dŵr i gwsmeriaid o fewn rhannau llai o Gymru gan ddefnyddio cyflenwadau o'r cwmnïau mwy, sef Albion Eco a Leep Utilities. Gallai busnesau sy'n defnyddio symiau mawr o ddŵr (mwy na 50 miliwn litr o ddŵr y flwyddyn) fod yn gymwys i newid i fasnachwr dŵr gwahanol (gweler cymhwysedd ar wefan Open Water). Mae rhai cwsmeriaid yn Lloegr sy'n defnyddio dŵr a gyflenwir o Gymru (drwy United Utilities a Severn Trent Water) a nifer bach o gwsmeriaid yng Nghymru sy'n cael eu cyflenwi gan ffynonellau yn Lloegr.

Yn Lloegr, mae grwpiau adnoddau dŵr rhanbarthol yn gosod ar lefel strategol sut bydd y cyflenwad dŵr cyhoeddus yn cael ei reoli am y chwarter canrif nesaf. Bydd eu cynlluniau rhanbarthol yn ystyried gofynion pob sector. Mae cwmnïau dŵr yng Nghymru yn llywio'r cynllun rhanbarthol perthnasol yn Lloegr lle mae ganddynt ardal gyflenwi o fewn Lloegr a/neu lle mae ffynonellau trawsffiniol pwysig a rennir i'w hystyried. Ein 'grŵp rhanbarthol' cyfagos yw Water Resources West (ewch i wefan Water Resources West). Mewn ymateb i'r cynnydd mewn masnach rhwng y grwpiau rhanbarthol, mae'r rheoleiddwyr yn Lloegr wedi ffurfio RAPID i helpu i gyflymu datblygiad seilwaith dŵr strategol newydd a llywio fframweithiau rheoliadol yn y dyfodol. Mae'n gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ac CNC lle gallai unrhyw gynlluniau adnodd posibl fod yng Nghymru neu'n effeithio arni.

 

Diweddarwyd ddiwethaf